Archif Newyddion
Diolch a Ffarwelio:
Wrth i mi ddod i ddiwedd fy nghyfnod fel Pennaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy, hoffwn ddiolch yn fawr i staff, disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a partneriaid cymuned Ysgol Dyffryn Conwy. Rwyf wedi bod yn falch iawn o’ng nghyfnod yma yn yr ysgol ac yn gadael gyda cryn balchder o lwyddiannau yr ysgol dros yr wyth mlynedd diwethaf. Dymunaf yn dda iawn i Mr Owain Gethin Davies, staff a disgyblion yr ysgol ar gyfer y cyfnod cyffroes nesaf yn siwrne yr ysgol.
Braf iawn yw gadael wedi gweld cymaint o ddisgyblion dros y pythefnos diwethaf yn dilyn y canlyniadau Lefel A a TGAU. Pob dymuniad da a llwyddiant i’r disgyblion.
Gyda cofion cynnes,
Miss Elan Davies,
Pennaeth.
Canlyniadau TGAU Haf 2020:
Yn dilyn cyfnod o newid ac ansicrwydd dros y misoedd diwethaf, braf iawn oedd gallu gweld cymaint o flwyddyn 11 ar y safle heddiw yn derbyn eu canlyniadau. Roedd hyn yn bwysig iawn i ni fel ysgol gan na cawsom y cyfle arferol i ddymuno yn dda i’r disgyblion drwy seremoni ffeil gynnydd na prom eleni! Roedd y staff ar y safle i rannu'r canlyniadau ac i ddymuno yn dda iawn i’r disgyblion ar gyfer eu llwybrau nesaf. Braf iawn oedd gweld cymaint yn dymuno dychwelyd i’r 6ed ar gyfer Medi 2020.
Rydym yn hynod falch o lwyddiant pob un o’n disgyblion heddiw. Rydym hefyd yn hynod o falch o’u gydnwch a’u dyfalbarhad dros y misoedd diwethaf yn sgil y clo. Ymysg rhai o’r nifer uchel yn dathlu llwyddiant ysgubol heddiw oedd y canlynol: Jonathan Driver - 9A* a 3A; Talia Rippin 9A*AB; Zosia Cywinska 8A*2A a 2B; Isabella Toms-Arbel 8A*,1A, 3B ac 1C; Elliot Wright 6A*, 1A 3B a 2C; Martha Howatson, 5A*6A a 1B; Elen Jones 5A*4A, 3B; a Caron Hughes 5A* 3A a 4B. Llongyfarchiadau mawr iddynt ar eu canlyniadau rhagorol. Ymysg eraill yn rhagori ac yn derbyn isafswm o 5*/A hefyd oedd: Morgan Fivash-Henderson, Ffion Williams, Brianne Roberts, Christopher Sabisky, Chelsea Jones, Tomi Butler, Angharad Roberts, Lewis Watkins, Caileigh Russell, Sam Fahy, Jamie Williams, Elin Davis, Elan Williams, Caitlin ac Olivia Trueman, Ffion Jones, Jacob Ashall, Olivia Wilding a Morgan Jones. Rydym yn hynod o falch o bob un o’n disgyblion heddiw ac yn dymuno yn dda iddynt i’r dyfodol. Da iawn chi, dosbarth 2020 a pob hwyl!
I weld lluniau llawer o’r disgyblion a fynychodd yr ysgol i dderbyn eu canlyniadau, ewch i’n cyfrif Trydar. Mae’n cynnwys y nifer uchel o efeilliaid ym mlwyddyn 11 eleni.
Os oes gennych ddymuniad mewn dychwelyd i’r 6ed dosbarth a heb gysylltu eto, e-bostiwch cyff@dyffrynconwy.conwy.sch.uk i ddatgan eich diddordeb.
- 210820-caron
Caron
- 210820-elen
Elen
- 210820-elen
Elliot Wright
- 210820-isabella
Isabella
- 210820-jonathan
Jonathan
- 210820-martha
Martha
20.08.20 - Llythyr Agored gan Benaethiaid Uwchradd Conwy, Canlyniadau TGAU,
Diwrnod Canlyniadau Lefel A 2020:
Mae wedi bod yn bleser mawr heddiw gweld cymaint o’n disgyblion yn derbyn eu canlyniadau Lefel A ar y safle o dan trefniadau gwahanol iawn i’r arfer, yn enwedig gan nad ydym wedi gweld blwyddyn 13 ers i’r ysgol gau ar yr 20fed o Fawrth. Mae staff wedi bod ar y safle i gefnogi disgyblion a’u llongyfarch nhw ar eu canlyniadau, gan ddymuno yn dda iddynt ar gyfer eu llwybrau nesaf. Mae hi wedi bod yn gyfnod anochel o newid. Rydym yn hynod o falch o lwyddiannau ein disgyblion yn eu Lefel A, ynghyd a’u dygnwch a’u cyfathrebu gyda ni dros y misoedd diwethaf.
Ymysg y disgyblion sydd yn symud ymlaen i’r brifysgol yn dilyn eu canlyniadau Lefel A mae Elliw Ford, Angharad Butler a Patrick Lynch, y triawd yn llwyddiannus o gael eu derbyn i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen eleni ar gyfer Meddygaeth, Cerddoriaeth, a Ffrangeg a Phwyleg. Ymysg rhai o’n perfformwyr eithriadol eleni mae Elliw Ford ac Ethan Witt, y ddau yn derbyn 4A* yr un. Llwyddodd Isabelle Walmsley ac Angharad Butler hefyd i ennill A* a 3 A yr un; a Modlen Alun 3A, B ac C, a Bethany Trow A*AAC. Dymunwn yn dda iawn iddynt yn dilyn canlyniadau a llwyddiannau rhagorol.
Dymunwn yn dda i bob un o ‘Ddosbarth 2020’ wrth iddynt symud ymlaen i astudio amrywiaeth o bynciau yn y brifysgol gan gynnwys Meddygaeth, y Gyfraith, Ffiseg ac Astroffiseg, Seicoleg, Cerddoriaeth, Ieithoedd, mewn prifysgolion sydd eleni yn cynnwys, Durham, Caerhirfryn, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Harper Adams, Lerpwl John Moores; a hefyd i brentisiaeth a byd gwaith.
Hoffwn ddiolch i’r staff am eu gwaith mewn proses gwahanol iawn i’r arfer eleni hefyd. Ar eu rhan dymunwn yn dda iawn i’n disgyblion i’r dyfodol”.
- 140820-a-levels-elliw-f-lrg
Elliw
- 140820-a-level-isabelle-w
Isabelle
- 140820-a-level-modlen-a
Modlen
Dyma rhai o’n disgyblion yn dilyn derbyn eu canlyniadau: Elliw, Isabelle a Modlen.
Ceir mwy o wybodaeth am y broses arholi eleni drwy’r ddolenni canlynol gan CBAC:
- https://www.cbac.co.uk/
- https://www.qualificationswales.org/cymraeg/canlyniadau-haf-2020/canlyniadau-haf-2020-pecyn-gwybodaeth/
- https://www.qualificationswales.org/english/results-2020/summer-2020-results-information-pack/
13/8/20 - Llythyr Agored gan Benaethiaid Uwchradd Conwy, Canlyniadau Lefel A,
LLYFRYN ANWYTHO
Mehefin 29ain – Gorffennaf 2020
PDF - Llyfryn Anwytho Disgyblion
Darpariaeth mewn ysgolion - Cwestiynau Cyffredin - Conwy Mehefin 2020
Hoffem ddiolch i rieni a gofalwyr am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus yn ystod yr heriau parhaus a achosir gan coronafeirws (Covid-19)
Rydym yn gwerthfawrogi bod gennych nifer o gwestiynau am ddychwelyd i'r ysgol, dyma ychydig o gwestiynau cyffredin....Darllen mwy
22.06.20 - Llythyr i Rieni/Gofalwyr
Gwybodaeth i rieni yn sgil COVID 19Pwrpas newydd i ysgolion o 23/3/20:
Mae’r ysgol bellach wedi cau i ddisgyblion am wyliau Pasg buan ac estynedig ers dydd Gwener yr 20/3/20. Ar ddydd Llun y 23/3/20 cychwynnodd pwrpas newydd i ysgolion sydd yn cynnwys darparu bwyd ar gyfer disgyblion sydd yn derbyn cinio am ddim (o safle yr ysgol); darparu cefnogaeth i ddisgyblion bregis mewn partneriaeth a asiantaethau Awdurdod Lleol a’r gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Sirol; a darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr allweddol lle nad oes darpariaeth gofal arall ar gael. Rydym yn cydweithio gyda ysgolion lleol wrth cynllunio ac adolygu y darpariaethau hyn..... cliwiwch yma i darllen fwy
|
Disgyblion Disglair y Dyffryn yn derbyn cynnigion i astudio yn Rhydychen: Llongyfarchiadau mawr i Angharad, Patrick ac Elliw sydd wrth eu bodd yn sgil derbyn cynnigion i astudio yn Rhydychen 2020/21. Mae’r tri yn bwriadu dilyn llwybrau gwahanol iawn gan gynnwys, Cerdd; Ieithoedd Rhyngwladol (Ffrangeg a Pwyleg); a Meddygaeth. Rydym yn falch iawn ohonynt. Diolch i’r athrawon a staff sydd wedi eu cefnogi yn eu ceisiadau gan gynnwys Mrs Barlow, Pennaeth y 6ed dosbarth, Mrs Lynne Roberts a Mrs Iona Owen. Mae’r tri nawr wrthi yn brysur yn astudio ar gyfer yr arholiadau yn nhymor yr Haf. |
Celf a Chrefft Urdd Uwchradd Conwy 2020: Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion canlynol sydd wedi bod yn llwyddiannus yn yr adran Celf a Chrefft yn yr Urdd Rhanbarthol yng Nghonwy 2020. Pob hwyl iddynt yn y rownd olaf. Llongyfarchiadau mawr i Chloe Cash sydd wedi ennill y wobr uwchradd gorau am ei gwaith celf. Ardderchog, Chloe. |
Llongyfarchiadau mawr i Cai! Llongyfarchiadau mawr i Cai wedi cael 3ydd yn y cystadleuaeth gymnasteg floor and vault yn Gaerdydd ddoe ac wedi cael ei gyflwyno efo bathodyn Welsh feathers ar ôl cynrychioli Cymru yn Stoke blwyddyn diwethaf.
|
Llwyddiannau Timau Wal Ddringo Ysgol Dyffryn Conwy: Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion fuodd yn cystadlu yn ddiweddar yn Ysgol Gogarth fel rhan o diwrnod cystadlu timau wal ddringo Conwy. Daeth tîm Merched blwyddyn 9-11 gyntaf yn eu cystadleuaeth a’r Bechgyn blwyddyn 9-10 yn ail. Tra llwyddodd y timau merched a bechgyn blwyddyn 7 ac 8 i gyrraedd y 3ydd safle. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt a diolch yn fawr iawn i’r Adran Addysg Gorfforol am drefnu. Bydd tîm Merched blwyddyn 9-11 yn mynd ymlaen i’r rownd derbynol ar gyfer Ysgolion Gogledd Cymru ar y 5ed o Fawrth. Pob hwyl iddynt! |
Gyrfa Cymru a'ch ysgol chi: Cyfarfod Tim gyrfa cymru yr ysgol. Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
Diwrnod Gwisg ein Hunain wedi Casglu £438. Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd diwrnod gwisg ein hunain ar y 24ain o Ionawr. Diolch i'ch cyfraniadau rydym wedi casglu £438. Bydd yr arian yn cael ei rhannu rhwng y Cyngor Eco sydd yn cynllunio gardd yr ysgol a Sion a Cadi sydd yn casglu arain tuag at taith yr Urdd i Batagonia. |
Noson Agored 6ed Dosbarth 20/21: Cynhelir Noson Agored 6ed Dosbarth 20/21 ar nos Fawrth yr 21ain o Ionawr 2020. Mae croeso cynnes i ddisgyblion a’u rhieni/gofalwyr o flwyddyn 11 yr ysgol a disgyblion all-dalgylch fynychu. Bydd y drysau yn agor o 5.15pm a cyflwyniad yn y neuadd am 5.30pm. Bydd cyfle wedyn i fynd o amgylch adrannau pwnc i drafod dewisiadau posibl a’r cyrsiau lefel A gellir ei gynnig. Ceir mwy o wybodaeth am y 6ed dosbarth yn ein llawlyfr 6ed dosbarth drwy’r ddolen hon. Os ydych angen mwy o wybodaeth, neu ddim yn gallu mynychu y noson, cysylltwch yn uniongyrchol a’r ysgol i drefnu ymweliad neu cyfarfod. Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
Gweithgareddau Diwedd Tymor: Cefnogi diwrnod siwmperi Nadolig Elusen ‘Action for Children’ Diolch yn fawr i bawb fuodd yn cefnogi yr elusen Action for Children heddiw drwy gefnogi gweithgareddau disgyblion cymhwyster COPE blwyddyn 10 ac 11. Drwy’r gweithgareddau gwisg eu hunain/siwmperi Nadolig, llwyddwyd i gasglu £450 tuag at yr ymgyrch. Diolch yn fawr iawn i bawb fuodd yn cefnogi ac yn cyfrannu at y gweithgareddau yn ystod y dydd ac i Mrs Tracy Stone am arwain a cefnogi y disgyblion. |
Ffair Nadolig – Menter Bl. 11 Yn dilyn cyflwyniadau llwyddiannu i gwirfoddolwyr o Tŷ Gobaith fel rhan o’u her menter Bac, cynhaliodd blwyddyn 11 eu Ffair Nadolig Blynyddol ar ddydd Llun y 16eg o Ragfyr. Roedd digon ymlaen yn y gampfa yn ystod amser cinio, o ‘smoothies’ i’w flasu at heriau ping pong. Drwy eu gwaith menter mae’r disgyblion bellach wedi casglu bron i £500 gyda’r elw yn mynd tuag at yr elusen lleol hon. Roedd ein ymwelwyr o’r elusen wedi ei gwirioni gan gyflwyniadau y disgyblion, gan gynnwys eu gwaith ymchwil i’r elusen ynghyd a’u syniadau creadigol ar gyfer casglu arian. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Hope House am eu cefnogaeth, i’r disgyblion am eu gwaith caled a’u chwilfrydedd, ac i Gydlynydd y Bac, Miss Sarah Tudor ac aelodau yr Adran Wyddoniaeth am eu arweiniad a’u cefnogaeth i’r prosiect. |
Prydau Ysgol Am Ddim Fel rhiant neu warchodwr oes gennych hawl i brydau ysgol am ddim ar gyfer eich plant sy'n mynychu ysgol o fewn bwrdeistref sirol Conwy? Allwch chi arbed £450 y flwyddyn ar gyfer bob plentyn pe byddech yn ymgeisio a chymhwyso? Mwy o wybodaeth am Prydau Ysgol am Ddim - cliciwch yma (pdf) |
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl ddisgyblion, rhieni a partneriaid. Bydd yr ysgol yn ail-agor i ddisgyblion ar Ddydd Mawrth y 7fed o Ionawr.
|
Gwasanaeth Nadolig
Ar nos Lun y 16eg o Ragfyr cafwyd cynulleidfa wresog a gwledd o adloniant gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy. Roedd amrywiaeth eang o ddeuawdau; darlleniadau o'r Beibl; cyflwyniadau dramatig; ensemble; unigolion yn arddangos eu talentau offerynnol a lleisiol; parti bechgyn; parti merched a chôr SATB i gloi'r noson. Diolch yn fawr i Barchedig Gerwyn Roberts am gloi gyda'r fendith ac am y defnydd o gapel Seion unwaith eto eleni. Hoffem fel ysgol ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd y noson, roedd hi'n braf gweld Capel Seion yn llawn unwaith eto. |
Amserlen Ffug Arholiadau 10/01/20 – 22/01/20. Bydd mwyafrif o’r arholiadau yn cael eu cynnal y neuadd a bydd cynllun eistedd yn cael ei arddangos ar yr hysbysfwrdd yng nghefn y Neuadd.
|
Noson Agored 6ed Dosbarth 21/01/20: 21/01/2020 5.30—7.30pm Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
Gwasanaeth Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy Bydd gwasanaeth Nadolig yr ysgol yn cael ei gynnal eleni yng Nghapel Seion, Llanrwst ar y 16eg o Ragfyr am 7 o'r gloch yr hwyr. Croeso cynnes i bawb ymuno yn nathliadau'r ŵyl. Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
Adroddiad disgyblion o daith Canada, Hydref 2019: Darllennwch am brofiadau cyffroes ein disgyblion ar eu taith diweddar i Ganada. Buont yn cynrychioli yr ysgol yno gan gystadlu yn erbyn timau yng Nghanada mewn peldroed a rygbi. Rydym yn hynod o falch ohonynt. Dyma hanes eu profiadau. Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
Diweddariad Chwaraeon Hydref - Canlyniadau Rygbi Dan 16 -Ffeinal RGC Cup - YDC 38-12 Caereinion |
Prosiect STEM Gogledd Mae nifer o’n disgyblion o flwyddyn 9 a 10 wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect cyffroes STEM Gogledd. Gallwch ddarllen mwy am eu hanesion yn eu BLOG drwy’r ddolen ganlynol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. |
Diweddariad chwaraeon Medi-Hydref 2019: Pel Droed Yn dilyn hanner tymor prysur o gystadlu – dyma rhai o’r deilliannau: Canlyniadau gemau pel droed Dan 16: YDC v Y Creuddyn 1-1 Edrychwn ymlaen at fwy o gystadlu dros y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth gwelwch Trydar yr Adran Addysg Gorfforol: @PEDyffrynConwy. |
Taith yr Urdd i Batagonia 2019 Yn ystod y hanner tymor yr Hydref mi fuodd Tomos Land, un o’n disgyblin 6ed dosbarth ar brofiad arbennig i Batagonia fel ran o gynllun yr Urdd. Dyma grynodeb gan Tomos o’i brofaid: “Ar ôl blwyddyn o godi arian a pharatoi at y daith, roedd y siwrne awyren i Drelew o Gatwick yn teimlo'n afreal. Roedd y profiad o fod yn y Wladfa yn un bythgofiadwy. Roedd pob diwrnod yn llawn cyffro - o ddawnsio gwerin yn y Gaiman, i ganu yn Esquel ac ymweld â'r parc cenedlaethol yn Yr Andes, doedd ddim amser i fethu adra! Rydwi'n hynod o falch o'r ysgol, Y Clwb Rotari a phawb yn y gymuned leol wnaeth fy helpu gyda codi'r arian ar gyfer y profiad anhygoel yma. Roedd o'n bleser hybu'r iaith Gymraeg yn lle glaniwyd Y Cymry nol yn 1885.” Rydym yn falch iawn y bydd ymrwymiad disgyblion yr ysgol i’r cynllun arbennig hon yn parhau gyda Sion Dafydd Edwards a Cadi Wyn Jones wedi eu dewis i fynychu Hydref 2020. Dymunwn yn dda iawn i’r ddau yn eu hymgyrch ac yn eu taith ar ei ddiwedd! Diolch yn fawr iawn i’r Urdd am eu cefnogi. |
Pencampwriaeth Marchogaeth Addington 2019 Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion fuodd yn cystadlu ym mhencampwriaeth marchogaeth Addington diwedd mis Hydref. Rydym yn hynod o falch ohonynt, yn enwedig y ffordd buont yn cefnnogi eu gilydd drwy holl heriau y cystadlu mewn pencampwriaeth cystadleuol iawn. Diolch yn fawr iawn hefyd i Hermione Williams ddaeth lawar i helpu gyda'r neidio, yn eu cynhesu fyny a cherdded y cyrsiau neidio gyda'r plant. Mae lluniau i'w gweld ar dudalen facebook timau marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy. • tim neidio 75 cm: Iri, Twm, Celyn a Manon 13 allan o 38 tim |
||
Plant Mewn Angen Ar ddydd Gwener y 15fed o Dachwedd cafwyd diwrnod gwisg eu hunain er mwyn codi arian tuag at yr elusen Plant mewn Angen. Yn ogystal trefnodd y Cyngor Ysgol lu o weithgareddau ar gyfer amser cinio. Llwyddwyd i gasglu cyfanswm o £756.28 tuag at yr elusen. Hoffwn fel ysgol ddiolch i'r Cyngor Ysgol am eu gwaith ac i bawb a gefnogodd y diwrnod. |
||
Diwrnod Sgiliau Blynyddol Venue Cymru Cafodd disgyblion blwyddyn 10 wledd o brofiadau gwerthfawr yn ystod diwrnod sgiliau yn Veune Cymru mis yma gan brofi amrywiol weithgareddau gan gwmnïau gwahanol gan gynnwys Syniadau mawr Cymru, Aribus, Yr Urdd a llawer iawn mwy. Yn ystod y bore cawsant gyfle i ddeall yn well y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael iddynt a’r sgiliau sydd ei angen arnynt er mwyn cyfranogi gyda cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill. Byddent yn adeiladu ar y profiadau hyn yn ystod eu wythnos profiadau byd gwaith yn nhymor yr Haf. |
||
Hyfforddiant Llais y Disgybl Bu’r prif ddisgyblion Gruffudd, Alyia, Modlen ac Osian mewn hyfforddiant disgybl llywodraethwyr yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ar brynhawn Mawrth y 22ain o Hydref. Yn ystod yr hyfforddiant cafwyd trafodaethau ynglŷn â phwysigrwydd llais y disgybl a chyflwyniadau gan Gyngor Ieuenctid Conwy. Braf iawn oedd gwrando ar Evan Burgess hefyd yn cyflwyno ei waith fel aelod etholedig Aberconwy yn y Senedd Ieuenctid. Diolch yn fawr iawn i’r 5 am eu cyfranogiad. |
||
Taith Canada Hydref 2019 Yn ystod yr hanner tymor aeth criw o ddisgyblion a staff o’r ysgol i Ganada ar ymweliad diwylliannol a cystadleuol! Buont yn cystadlu mewn gemau peldroed a rygbi yn erbyn ein ysgolion partner yng Nghanada. Gallwch ddarllen mwy am eu profiadau drwy ddilyn ein cyfrifon Trydar: @ysgdyffrynconwy a @PEdyffrynconwy. Diolch yn fawr iawn i’r Adran Addysg Gorfforol am drefnu, i’r staff aeth gyda’r disgyblion ac i’n rhieni a noddwyr am eu cefnogaeth. |
||
Dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd 2019 Yn ddiweddar buom yn dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd 2019 yn yr ysgol. Yn ystod y diwrnod cafodd blwyddyn 7 gwersi blasu ieithoedd dan arweiniad pencampwyr iaith y 6ed dosbarth, Patrick ac Angharad. Mae’r ddau yn frwdfrydig iawn am ieithoedd a buont yn cynllunio gweithgareddau ar gyfer y disgyblion yn ystod eu gwersi ieithoedd gan gynnwys cysylltiadau rhwng ieithoedd a datblygu ymwybyddiaeth o wahanol ieithoedd. Roedd cryn cyffro a mwynhad gan y disgyblion a gan ein pencampwyr! Diolch yn fawr iawn i’r ddau ac i’r Adran Ieithoedd am eu chwilfrydedd a’u arweiniad yn ystod y dydd! |
||
Gweithdy Drama: Frantic Assembly Ar ddydd Gwener y 27ain o Fedi cafodd disgyblion TGAU a Lefel A Drama brofiad bythgofiadwy o gael gweithdy gan y cwmni proffesiynol Frantic Assembly sydd wedi eu lleoli yn Llundain. Yn ystod y gweithdy cafodd y disgyblion ddatblygu eu sgiliau perfformio corfforol drwy ddefnydd o waith corws, symudiadau i gerddoriaeth a dyluniad corfforol. Bu’r disgyblion yn dyfeisio symudiadau a sefyllfaoedd gan ddatblygu eu hyder o fewn y maes Theatr Gorfforol. Hoffai’r adran a’r disgyblion ddiolch i Ymddiredolaeth Tref Llanrwst am y gefnogaeth ariannol er mwyn galluogi’r gweithdy yma.
|
||
Cyflwyniad Rali Cymru GB “Dydd Mercher y 25ain o Fedi cawsom ymweliad diddordol gan Ben a James o Rali Wales GB. Daeth dau gar rali unigryw i’r ysgol a chafodd disgyblion blwyddyn 7 gyflwyniad ar y wahanol gyfleoedd o fewn y byd ralio. Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb diddorol yn y neuadd a chyfle i weld y tlws arbennig. Yna cafodd y disgyblion mewn grwpiau bychan gyfle i gael golwg fanwl ar y ceir rali. Diolch o galon i Rali GB Cymru am ddod i ymweld a ni gan godi diddordeb y disgyblion am y maes.” Disgyblion 7 Garmon.
|
Llwyddiannau Tim Marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy: Medi 2019 Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion canlynol a fu yn cystadlu yn Sourthview, Sir Gaer: Madi Haerr, Morgi Haerr, Celyn Owen, Siwan Williams, Iri Davies, Eben Davies, Constance Braunton, Elsa Braunton, Manon Roberts, a Twm Cernyw. Cafodd y tîm benwythnos anhygoel yn cystadlu ac edrychai y tîm ymlaen yn fawr at y pencampwriaethau yn Addingham swydd Buckingham mis Hydref. Dyma oedd canlyniadau eu llwyddiant: • Dressage Preliminary: Twm Cernyw 1af, Madi Haerr 3ydd Mae'r canlynol hefyd wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Cwpan y Cenhedloedd:- Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt a diolch yn fawr iawn i’w rhieni a Ceri am eu cefnogi a’u cynnal. Mae eu canlyniadau yn anhygoel! Cynhadledd Ymchwil Iechyd Ysgolion Conwy Aeth ein dau brif ddisgybl, Mr Gruffudd Edwards a Miss Aliya Abbasi ynghyd a Mr Evan Burgess, sef cynrychiolydd Aberconwy yn Senedd Ieuenctid Conwy i gynhadledd ymchwil iechyd ysgolion Conwy ar ddydd Iau y 26/09/19. Yn ystod y diwrnod cafwyd y cyfle i wrando ar gyflwyniadau diddorol o fewn y maes iechyd a lles a thrafod syniadau ar daith yr ysgol er mwyn ymateb i lais y disgyblion ymhellach. Rydym yn edrych ymlaen fel cyngor ysgol er mwyn gweithredu ar ein syniadau yn ystod y tymor nesaf. Diolch am y cyfle i fod yn ran o’r gynhadledd pwysig hon. |
Cefnogi elusennau ‘Jeans for Genes’ a Macmillan Medi 2019 Diolch yn fawr iawn i’n disgyblion a’u teuluoedd am eu cefnogaeth i’r ymgyrchoedd hyn eleni drwy ddiwrnod gwisg eu hun ar ddydd Gwener yr 17eg o Fedi. Llwyddwyd i gasglu dros £400 tuag at y ddwy elusen. Diolch yn fawr iawn i bawb. |
Llongyfarchiadau Ennillydd Chwilio am Seren 2019 – Erin Grove Llongyfarchiadau mawr i Erin sydd wedi dod i’r frig yn ystod y gyfres Chwilio am Seren. Bydd Erin yn cynrychioli Cymru yn y ‘Junior Eurovision’ ym mis Tachwedd yng Ngwlad Pwyl. Roedd ei pherfformiad ar y llwyfan yn Venue Cymru, Llandudno yn anhygoel! Rydym yn hynod o falch ohoni. Diolch yn fawr i bawb fuodd yn ei chefnogi ar draws ei siwrne ac yn ystod y noson. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at y cam nesaf yn Nhachwedd. Pob hwyl, Erin! Gwych! |
Llongyfarchiadau mawr i’n Prif Ddisgyblion 2019/20 Llongyfarchiadau mawr i Aliya a Gruffudd gafodd eu hethol fel Prif Ddisgyblion 2019/20. Byddent yn cael eu cefnogi gan eu Dirprwyon Modlen ac Osian. Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw dros y flwyddyn nesaf. Cafwyd cyfweliadau a cyflwyniadau arbennig gan pawb fuodd yn ymgeisio. Pob lwc i’r 4 yn eu rôl! |
Noson Agored Blwyddyn 5 a 6 8/10/19 Byddwn yn cynnal ein Noson Agored blynyddol i ddisgyblion a rhieni blwyddyn 5 a 6 ar Nos Fawrth yr 8fed o Hydref. Bydd drysau yn agor am 5.15y.h. a cyfle i ddarganfod mwy am yr hyn sydd gan yr ysgol i’w gynnig a cyfle am daith o amgylch yr ysgol i gyfarfod staff, disgyblion a darganfod mwy am ein darpariaeth. Croeso cynnes i bawb. Ceir mwy o wybodaeth yn y poster isod a’n Prospectws newydd sydd ar flaen-dudalen ein safwe. Bydd gwybodaeth am y broses ymgeisio drwy ysgol gynradd eich plentyn. |
Diweddariad i'r amserlen gweithgareddau Chwaraeon Allgwricwlaidd 19/9/19. |
Perfformiad Caerdroia Yn ystod y tymor mae disgyblion Drama blwyddyn 10 ac aelodau o’r Clwb Drama wedi bod yn cydweithio gyda Mair Thomas Ifans a Fiona Collins gan ddyfiesio eu perfformiadau eu hunain o amgylch chwedlau lleol. Bu disgyblion blwyddyn 10 yn paratoi o amgylch y chwedl William Pencraiginco a Morgan ap Morgan gyda aelodau o’r clwb drama yn creu cymeriadau o amgylch chwedlau Cymru gan gynnwys Blodeuwedd a Rhys a Meinir. Ar Nos Iau 11eg o Fai cafwyd cynulleidfa gwresog yn Y Caerdroia yng Nghoedwig Gwydir lle bu’r disgyblion yn perfformio ar y cyd gyda disgyblion Ysgol Bro Gwydir. Cafwyd cyfuniad o amrywiol berfformiadau,o glocsio i ganu ac actio. Cafodd y disgyblion y profiad gwerthfawr o berfformio yn yr awyr agored ac fel ysgol hoffem ddiolch i Menter Iaith am y cyfle i fod yn rhan o’r cynllun arbennig yma fel rhan o drefniadau dathlu treftadaeth Llanrwst. Dyma’r perfformiad cyntaf gan bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg yn Y Caerdroia, rydym yn gobeithio y bydd cyfleoedd eto i’r dyfodol. |
Diwrnod Canlyniadau Ysgol Dyffryn Conwy, TGAU 2019: 22/8/19 – Datganiad i’r wasg |
Bwrlwm Diwrnod Canlyniadau Lefel A 2019: 15/8/19 Rydym yn falch iawn o ganlyniadau Lefel A ein disgyblion eleni sydd yn dangos cynnydd nodweddiadol ar berfformiad flaenorol gan gynnwys canlyniadau cryf A*/A a cyfatebol ar gyfer lefel A a’r cyrsiau Uwch-gyfrannol. Ymysg rhai o canlyniadau rhagorol eleni mae’r canlynol wedi gwneud yn arbennig iawn: Rosy Pearson sydd yn mynd ymlaen i astudio Ieithoedd Modern a Cynoesol yng Nghaergrawnt – A*A*AB; Ifan Jones A*AA ac Efa Celyn Davies AAA y ddau yn bwriadu mynd ymlaen i astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd; Amaan Abbasi A*AAA sydd yn bwriadu mynd ymlaen i astudio Mathemateg ac Economeg yng Ngoleg Economeg a Gwyddoniaeth Gwleidyddol yn Llundain; a Caitlin Thomas sydd wedi ennill Gradd Anrhydedd dwbwl, A a B ac yn bwriadu astudio Cyfiawnder Troseddol yn Lerpwl. Unigolion eraill yn profi llwyddiant oedd: Abbie Wilding a Lowri Roberts gafodd AABB yr un a Sara Roberts a Shannon Jones AAB yr un. Rydym yn falch iawn ohonynt!
Dymunwn longyfarch ein holl disgyblion ar eu canlyniadau a deilliant eu holl gwaith astudio ac adolygu caled. Hoffwn ddiolch hefyd ar ran y Llywodraethwyr i’r staff fuodd yn eu addysgu a dymuno llongyfarchiadau i’w teuluoedd hefyd. Dymunwn yn dda i bob un ohonynt yn eu llwybrau nesaf – yn y Brifysgol, Coleg, byd gwaith a prentisiaethau. Edrychwn ymlaen at dracio eu llwyddiannau yn y Brifysgol, Addysg Bellach neu byd gwaith a gyrfaoedd i’r dyfodol.
|
||
Swydd Wag: Technegydd Gwyddoniaeth (Prentis) am fwy o wybodaeth - cliciwch yma Swydd Wag: Gweinyddol Swyddfa (Prentis) am fwy o wybodaeth - cliciwch yma |
||
Ysgol Dyffryn Conwy: Paratoi at Cwricwlwm i Gymru 2022 Yn ddiweddar bu tîm o Llywodraeth Cymru yn ffilmio disgyblion, staff, llywodraethwyr a Penaeth o’n Dalgylch cynradd i ganfod ein barn am y daith tuag at Cwricwlwm i Gymru. Gallwch ddysgu mwy a gwrando ar a gweld drwy’r ddolen canlynol i BLOG Cwricwlwm i Gymru - cliciwch yma |
||
Pencampwyr Sgio
Llongyfarchiadau mawr i Scott a Thomas bu yn cystadlu yn ddiweddar yng nghystadeuaeth Chwaraeon Eira (Snowsports) Cymru i Ysgolion yn Runcorn. Llwyddodd Scott, sydd ym mlwyddyn 9, i ennill y wobr arian o dan 16 sydd yn dipyn o gamp! Llwyddodd Thomas i ennill y wobr arian ar gyfer y ras dan 14. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau! Da iawn chi! |
Gwybodaeth i rieni a disgyblion blwyddyn 7 a 8 am yr Wythnos Weithgareddau Haf 2019 Gorffennaf 8 - 12, 2019 Gweithgareddau Blwyddyn 7 - cliciwch yma Gweithgareddau Blwyddyn 8 - cliciwch yma |
Gwybodaeth i rieni a disgyblion blwyddyn 9 a 10 am yr Wythnos Weithgareddau Haf 2019 Gorffennaf 8 - 12, 2019 Gweithgareddau Blwyddyn 9 - cliciwch yma Gweithgareddau Blwyddyn 10 - cliciwch yma |
Profiad Cyngerdd Corawl Lerpwl Llongyfarchiadau i Jamie Oliver o flwyddyn 7 fuodd yn cymryd rhan yn ddiweddar mewn cyngerdd yng Nghadeirlan Anglicanaidd Lerpwl. Cafodd Jamie ei ddewis i gynrychioli Gogledd Orllewin Cymru yn y cyngerdd. Gallwch ddarllen mwy am brofiadau Jamie yma. (Saesneg yn unig) |
Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd Caerdydd a’r Fro Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion sydd yn ennillwyr yn yr adran Gelf a Chrefft yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd a’r Fro eleni. Nodwyd bod y safonau yn uchel iawn ym mhob adran. Llongyfarchiadau felly i’r canlynol: Cai Williams, Ail wobr am Fwgwd neu Byped dan 19 oed Dymuniadau gorau hefyd i’r disgyblion fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos nesaf! |
Gweithdy Celf TGAU gyda Cefin Burgess Cafodd disgyblion Celf TGAU weithdy gan y dylunydd Cefin Burgess wedi ei drefnu gan Menter Iaith Conwy. Bu’r disgyblion yn tynnu lluniau o wahanol ardaloedd o Lanrwst ar gyfer dylunio eu darn unigol gan gynnwys ymweliad i Eglwys Crwst. Dyma farn disgybl blwyddyn 10 a fu yn rhan o’r gweithdy cyffrous hwn. |
Pencampwyr Rygbi Merched WRU Cymru Llongyfarchiadau i ferched Ysgol Dyffryn Conwy ar ennill pencampwriaeth cenedlaethol Cymru yn stadiwm principality Caerdydd! Aeth y merched lawr i Gaerdydd i gystadlu ar y 2ail o Fai. Diolch yn fawr iawn i Llion ein Swyddog Rygbi am eu hyfforddi a’u cefnogi ac i’r rhieni am eu cludo a’u cefnogi hefyd. Ni fyddai wedi bod yn bosib cystadlu hebddynt! Llongyfarchiadau i’r tîm o flwyddyn 9 a 10 a ennillodd 4 allan o’r 4 gêm i gyrraedd y rownd derfynol. Mae yn fraint mawr iddynt cael eu henwi yn 'Bencampwyr Cymru'! |
|||
Llwyddiannau Celf a Chrefft: Gweithdy Blwyddyn 9 Yn ddiweddar, daeth yr Arlunydd Eleri Jones at griw Blwyddyn 9 i greu gweithdy 'creu' un edrych ar waith argraffu. Roedd criw o 30 o ddisgyblion brwdfrydig iawn wrth eu boddau yn cynhyrchu llyfr llawn arbrofion a tai bach arddurniedig. Eisteddfod Celf a Chrefft Rhanbarth Conwy Llongyfrachiadau mawr i'r canlynol yn eu llwyddiant yn Eisteddfod Celf a Chrefft Rhanbarth Conwy. Rydym yn falch iawn o'ch llwyddiant: Gwaith lluniadu 2D BL 7,8 A 9: Gwaith creadigol 2D BL 7,8 A 9: Print monocrom Bl7,8 a 9 Print lliw: Cyfres o brintiadau monocrom Cyfres o Brintiadau lliw 3ydd. Cadi Llyn Davies Creu Arteffact: CAD Llongyfarchiadau mawr i Cai Williams lwyddodd i ennill y tarian am y pwyntiau uchaf ar draws yr holl gystadlaethau Celf a Chreft – camp arbennig! Da iawn ti, Cai.
|
|||
CogUrdd Uwchradd – Rownd Conwy: Cynhaliwyd rownd derfynol cystadleuaeth CogUrdd Conwy ar nos Fawrth y 1af o Fai yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, Llanrwst. Cafwyd 3 cystadleuydd brwd ac yn ôl y beirniad, roedd y safon eleni yn uchel iawn o ystyried beth oedd angen ei goginio ac oedran y cogyddion. Diolch yn fawr i’r tri am gystadlu ac i bawb fu’n eu cynorthwyo i baratoi at y gystadleuaeth. Cawsant brofiad arbennig! Roedd dau yn cystadlu o Ysgol Dyffryn Conwy, Rhudion ac Enid. Llwyddodd Rhudion Rees, i ennill y wobr gyntaf, ac aeth yr ail safle i Enid Hughes. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonynt. Diolch i swyddogion yr Urdd am drefnu, i’r beirniad, Mrs Bethan Matthews, am ei gwaith ac i Mrs Buddug Williams am gydlynnu yn yr ysgol a trefnu defnydd yr ystafell arbennigol ar gyfer y cystadlu. Bydd Rhudion yn cynrychioli Conwy yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mawrth, Mai 28ain. Pob lwc iddo ar y cystadlu. |
Llwyddiannau Chwaraeon: Gwanwyn 2019 Mae wedi bod yn dymor llawn llwyddiannau ym maes Chwaraeon gan gynnwys llwyddiannau diweddar y Tîm Athletau fydd yn cynyrchioli yr ysgol a Conwy yn y rownd nesaf yn sgil eu llwyddiannau yn Athletau Conwy 11/4/19. Rydym yn falch iawn ohonynt ac yn dymuno yn dda iawn iddynt. Bu ein merched hefyd yn llwyddiannus iawn mewn pencampwriaethau diweddar ym maes Rygbi gan gynnwys ennill pencampwriaeth yr Urdd 7 bob ochr merched yn ddiweddar. Mae timau cryf yn datblygu ym mlwyddyn 9 a blwyddyn 10. Llongyfarchiadau mawr i chi ferched a’n diolchiadau i Llion am drefnu a’ch cefnogi. Bu ein timau bechgyn hefyd yn llwyddiannus gan ennill y pencampwriaeth 7 bob ochr yr Urdd hefyd. Edrychwn ymlaen at glywed sut fydd y timau yn perfformio yng Nghwpan Eryri wedi Pasg. Ymysg llwyddiannau eraill y tymor mae:
Gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol: Mae wedi bod yn braf iawn hefyd gweld llwyddiant y clwb nofio sydd wedi cychwyn dros yr hanner tymor diwethaf. Dymunwn yn dda iawn i aelodau y tîm wrth iddynt gystadlu i’r dyfodol! Clwb newydd arall sydd wedi cychwyn ydy’r clwb beicio mynydd. Diolch yn fawr iawn i Mr Turner a’r Adran Addysg Gorfforol a’n partneriaid lleol am eu cefnogaeth yn ehangu yr arlwy allgwricwlaidd ar gyfer ein disgyblion. |
||||||||||
Read for Good (Saesneg yn unig) Ysgol Dyffryn Conwy have raised an amazing £113.20. |
EISTEDDFOD SIR URDD CONWY Braf iawn oedd gweld nifer o ddisgyblion yn cystadlu yng nghystadlaethau llwyfan yr Urdd yn Eisteddfod Sir Conwy ar ddydd Sadwrn y 30ain o Fawrth eleni. Llongyfarchiadau mawr i bawb fu yn cystadlu. Dyma grynodiad o’r disgyblion a ddaeth i’r brig: Unawd Merched Bl.7-9: 3ydd Erin Mai Grove O ganlyniad i’ch holl ymdrech ac eich llwyddiant rydym yn falch o dderbyn fel ysgol y tlws am y nifer fwyaf o bwyntiau eleni. Da iawn i bob un ohonoch a phob dymuniad da i bawb a fydd yn parhau gyda’r cystadlu yng Nghaerdydd. |
Ymgyrch Darllen blwyddyn 7 Mae disgyblion blwyddyn 7 wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd hybu darllen er pleser dros y flwyddyn. Cefnogir eu gwaith gan ein pencampwyr llythrennedd 6ed dosbarth Isabelle a Bethany. Hyd yma mae dosbarthiadau 7G a 7M wedi casglu dros £110 tuag at elusen ‘Read for Good’ sydd yn cefnogi ymgyrchoedd darllen noddedig sydd yn cefnogi darllen i blant mewn ysbytai drwy llyfrgelloedd symudol a storiwyr. Dymunwn yn dda i weddill blwyddyn 7 wrth iddynt barhau gyda’r ymgyrch dros y tymor nesaf. Gallwch ddarllen mwy am yr elusen drwy’r ddolen hon.
|
Cyngerdd Rydym fel ysgol yn falch iawn o ein disgyblion ac ein cyn-ddisgyblion a berfformiodd yn Eglwys Betws Y Coed ar nos Sul y 14eg o Fawrth, 2019 dan arweiniad Miss Angharad Ellis. Cafwyd perfformiadau arbennig gan y côr iau, sydd gyda dros 60 o aelodau. Braf iawn oedd gweld nifer fawr o aelodau hyn yr ysgol ynghyd a cyn disgyblion fel rhan o gôr Cantilena a berfformiodd yn ddiweddarach yn y noson. Rydym yn falch o allu cefnogi'r gymdeithas leol a’r Eisteddfod Genedlaethol.
|
Taith Sgio i Andorra, 2019 ‘Yn ystod hanner tymor Chwefror mi gefais i a nifer o ddisgyblion eraill o wahanol flynyddoedd y cyfle i fynd ar daith sgio ysgol i Andorra. Roedd y daith sgio i Andorra yn wych am nifer o resymau; y tywydd, y gweithgareddau nôs, yr hyfforddwyr sgio, y golygfeydd ac hefyd y gwesty. Ar ôl siwrna o tua 24 awr ar fws a cwch, roedd pawb yn falch o gyrraedd gwlad bach Andorra. Ar ôl pasio’r ffîn, roedd y llethrau sgio i’w gweld o’r ffordd fawr, roedden nhw’n edrych yn wych. Roedd pawb wedi cyffroi ac yn barod i sgio, er roedd rhaid i ni ddisgwyl tan bore wedyn. Siwrna byr wedyn i’r gwesty, a cyfle i bawb dad-bacio, a dod i nabod yr ardal. Bore wedyn cawsom ni ddechrau sgio. Roedd dipyn ar y daith nad oedd wedi sgio o’r blaen, felly roedd yn amser cyffroes i ni gyd. Cafodd pawb eu rhoi mewn grwpiau yn ôl eu gallu, a’u rhoi hefo hyfforddwr – roedd ein hyfforddwr ni yn grêt! Mi ddysgais llwyth o dechnegau newydd ar sut i wella fy sgio dros yr wythnos. Roedd y gweithgareddau fin nos yn llawer o hwyl hefyd. Mi aethom i fowlio deg, Hard Rock Café am fwyd, siopa i Andorra La Vella sef y prif ddinas, a cawsom hefyd cwis yn y gwesty. Gruff Gwyn |
Llwyddiant Clwb Marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy Llongyfarchiadau mawr i’r tîm marchogaeth fuodd yn cystadlu dros y penwythnos yn Southview, Sir Gaer. Yn cystadlu roedd Siwan Williams, Huw Foulkes Humphreys, Harri Wheway, Iri Davies, Celyn Owen, Scarlett Owen. Fe ranwyd yn ddau dim, yn y gystadleuaeth neidio 70cm ac 80cm mae'r ddau dim yn mynd ymlaen i gystadlu yn mhencampwriaeth yn Bury Farm yn ystod mis Ebrill. Canlyniad arbennig! Yn sgil ei llwyddiant, mae Celyn hefyd yn cael cystadlu fel unigolyn yn y 70cm ac Iri Davies yn y 80cm. Aelod arall o’r tîm fuodd yn llwyddianus oedd Twm Cernyw oedd yn neidio fel unigolyn yn y 90cm a’r 1m. Bu Hermione Williams yn cystadlu yn y 1m a 1.10m ac mae hi yn cael mynd ymlaen i gystadlu yn y 1.1 medr yn y rownd nesaf. Yn dilyn llwyddiant yn y cystadlu dressage, bydd Morgan Haaer hefyd yn mynd ymlaen i gystadlu yn y pencampwriaethau. Diolch yn fawr iawn i’r rhieni fuodd yn trefnu ac yn cydlynnu ar gyfer y cystadlu ac i Ceri am eu harwain. Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed eu llwyddiannau yn y rownd nesaf. Rydym yn falch iawn ohonynt! Pob lwc ym mis Ebrill! |
Ennillwyr ‘Gem o Godio’ Llongyfarchiadau mawr i Eleanor ac Awen fuodd yn llwyddiannus iawn unwaith eto yn eu cystadlu codio. Llwyddodd y ddwy i ennill gwobr ‘Dewis y Beirniad’ a £300 o adnoddau TGCh/Digidol i’r Ysgol yn y cystadleuaeth ‘Game of Codes’. Nhw oedd yr unig ysgol o Ogledd Cymru yn cystadlu ac allan o 25 o dimau mi ennillodd y genod y wobr anrhydded uchod. Llwyddiant arbennig iddynt unwaith eto! |
||
Cystadleuaeth Codio Cymru Llongyfarchiadau mawr i Awen Dafydd sydd wedi ennill Gwobr Clod Uchel CA3 yng Nhystadleuaeth Codio Cymru ym Mhwlleli ddoe. Gwych, Awen! |
||
Anweledig (Cynhyrchiad gan Gwmni’r Fran Wen) Ar yr 20fed o Chwefror fe aethom ni, aelodau o flwyddyn 12 ac 13 sy’n astudio Cymraeg i Ganolfan Pontio ym Mangor i wylio cynhyrchiad o Anweledig gan Gwmni’r Frân Wen. |
||
Pencampwyr Codio Llongyfarchiadau mawr i Awen ac Eleanor o flwyddyn 7 sydd wedi cael llwyddiant mawr unwaith eto yn eu ymgyrchoedd codio. Mae eu prosiect ‘Smartville’ wedi cyrraedd rownd derfynol ‘Game of Codes’ sydd yn cael ei drefnu gan Technocamps. Diolch yn fawr iawn i rieni y ddwy am eu cefnogaeth hefyd. Rydym yn hynod falch ohonyt ac yn dymuno yn dda iddynt yn y rownd derfynol yng Ngholeg Llandrillo ar y 7fed o Fawrth. Mae eu llwyddiant ar ben ennill y 3ydd wobr yn y Pencampwriaeth STEM. Daliwch ati genod! |
||
Ffair Dewisiadau 6ed Dosbarth i Flwyddyn 11 Wythnos hon bu disgyblion chweched dosbarth yn cyflwyno eu pynciau a’u gwaith Lefel A ac Uwch Gyfrannol i ddisgyblion blwyddyn 11 fel rhan o’r broses o’u cefnogi ar gyfer gwneud dewisiadau ar gyfer flwyddyn nesaf. Dyma farn rhai o’r disgyblion ynglyn â’r profiad: “Roedd yn braf cael clywed barn y disgyblion hyn.” “Roedd yn fuddiol imi gael gweld gwaith mae’r chweched yn ei wneud.” “Cyfle da imi holi disgyblion y chweched dosbarth.” “Mae’r profiad wedi fy helpu i wneud penderfyniad ar gyfer flwyddyn nesaf.” Am wybodaeth bellach ar ddychwelyd i neu ymuno â’r 6ed dosbarth cliciwch yma. |
||
Gweithdy Hanes y Delyn Dydd Mawrth, Chwefror y 5ed, daeth Elin Angharad Davies i mewn i'r Ysgol i roi hanes ar y Delyn yn Llanrwst. Gwnaeth 2 sesiwn i ddisgyblion oedran gwahanol. Roedd y disgyblion wedi mwynhau yn fawr iawn, ac wedi dysgu llawer am hanes y delyn. Cafodd y disgyblion cyfle i weld y Delyn Deires, a'i glywed yn cael ei chwarae. Cafodd rhai disgyblion hefyd dro ar ei chwarae ar ddiwedd y sesiwn. Cafodd ddisgybl sy'n astudio Cerdd ac yn chwarae'r Delyn ei hun yn y 6ed ddosbarth Angharad Butler, dro ar chwarae'r Delyn deires. Dywedodd 'Dysgais lawer iawn o bethau newydd am hanes y Delyn yn Llanrwst, a'r Delyn deires o'r cyflwyniad. Roedd hi'n ddiddorol iawn dysgu am hanes y Delyn gan nad oes llawer o bobl yn ymwybodol o hanes y Delyn yn Llanrwst. Cefais dro ar chwarae'r Delyn Deires - profiad difyr iawn. Mwynheais yn fawr." |
||
Gwybodaeth i rieni/gofalwyr a rhanddeiliaid am Cwricwlwm i Gymru Mae wefan newydd wedi ei gyhoeddi er mwyn rhannu gwybodaeth am y cwricwlwm newydd gyda rhieni/gofalwyr a rhanddeiliad eraill. Gallwch ddarllen mwy drwy’r ddolen isod. Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma |
||
Croeso Cynnes i Noson Agored 6ed Dosbarth Ysgol Dyffryn Conwy 2019/2020 Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma |
||
‘Cogurdd’ – Rownd Cylch Ysgol Dyffryn Conwy Dydd Gwener y 1af o Chwefror bu disgyblion o flwyddyn 9 yn cystadlu yn y rownd ysgol o ‘Cogurdd’. Yn ystod y bore buont yn coginio bwydydd blasus dan oruchwyliaeth Mrs Buddug Williams cyn iddynt gael eu beirniadu gan Mrs Marian Pritchard. Daeth Rhudion Rees gyntaf yn y gystadleuaeth, Enid Hughes yn ail ac Elen Bassett yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr i’r 3 ohonynt. Byddent yn cystadlu yn y rownd nesaf, y rownd sirol ar y 12fed o Ebrill yng Ngholeg Llandrillo. Dymunwn yn dda iawn iddynt. Diolch yn fawr i’r staff fuodd yn eu cefnogi ac yn beirniadu. Cyfle gwych i’r disgyblion brofi eu sgiliau coginio. |
||
'Pwy geith y Gig?' Dydd Mawrth y 29ain o Chwefror roedd bwrlwm yn Ysgol Dyffryn Conwy wrth i'r neuadd gael ei lenwi gan ddisgyblion blwyddyn 8 ar gyfer recordio rhan o'r rhaglen 'Pwy geith y Gig?' Braf iawn oedd cael croesawu dwy cyn ddisgyblion (a Prif Ddisgyblion) Leusa Ellis a Mali Sion gyda eu band 'Serol Serol' yn ol i berfformio ar llwyfan yr ysgol i ddisgyblion blwyddyn 8. Yn dilyn y gig cafodd rhai disgyblion gyfle i gystadlu i fod yn rhan o grwp newydd a fydd yn cael ei ffurfio. Dyma farn Erin o blwyddyn 8 am y profiad, "Roeddwn mor gyffroes o gael y rhaglen 'Pwy geith y Gig?' yn dod i'r ysgol. Roedd y gig gan Serol Serol yn wych ac roedd y cyfweliad yn brofiad arbennig hefyd. Roedd y cyfle i gael clyweliad o berfformio o flaen y camerau yn brofiad bythgofiadwyt. Roeddwn wedi cael hwyl yn ymarfer fel band ac yn cael dysgu can newydd. Diolch yn fawr arm y profiad!" Byddwn fel ysgol yn edrych ymlaen i glywed mwy yn ystod y misoedd nesaf am pwy fydd yn fuddigol yn y gystadleuaeth hon drwy Gymru gyfan. |
||
NOSON AGORED Y CHWECHED DOSBARTH 12/02/2019 Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
||
Gweithgareddau Allgyrsiol Chwaraeon Ionawr 2019 Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma |
Perfformiad Rhagorol o sioe gerdd ‘Cae Melwr’, Venue Cymru: 19/12/18 Gyda diwedd y tymor yn brysur nesau cafwyd noson arbennig yn Venue Cymru lle perfformiodd cast ymroddedig a band yr ysgol mewn perfformiad safonol iawn o’r sioe gerdd ‘Cae Melwr’. Bu’r sioe yn ddatblygiad newydd i’r ysgol, perfformiad ar y cyd gyda Ysgol y Creuddyn fel rhan o’n cydweithio tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Roedd yn braf iawn gweld cymaint o’n gymuned yno yn mwynhau y perfformiadau gyda’r neuadd wedi ei lenwi. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb ddaeth i weld y sioe am eu cefnogaeth. Roedd atgofion o’r perfformiad yn 1989 yn amlwg wrth drafod ar y noson. Hoffwn ddiolch a llongyfarch y disgyblion fuodd yn perfformio ac yn cefnogi, y staff fuodd yn eu hyfforddi, yn enwedig Miss Llio Japheth, Miss Angharad Ellis a Mr Sam Jones, ac i’r staff fuodd yn cefnogi ar y noson. Braf iawn hefyd oedd croesawu disgyblion a staff o’n ysgolion cynradd partner yma i wylio y sioe bore dydd Mawrth – diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth! |
||
Arlunwyr Ifanc Theatr Clwyd o dan 18 oed Llongyfarchiadau i Ela Owen sydd wedi ennill cystadleuaeth agored Arlunwyr Ifanc Theatr Clwyd o dan 18 oed. |
||
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Dymuniadau Gorau am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda - Ysgol yn ail agor i ddisgyblion ar y 7fed o Ionawr, 2019. |
||
RYLA – Hyfforddiant Arweinwyr Ifanc Yn ystod y gwyliau Haf cafodd Efa Celyn Davies o flwyddyn 13 cyfle unigryw i fod yn rhan o gynllun RYLA. Mae’r cynllun yn un sydd yn cael ei drefnu a’i noddi gan Rotari Dyffryn Conwy. Mae’n rhoi cyfle unigryw i o leiaf un o’n disgyblion 6ed dosbarth fynychu hyfforddiant arweinyddiaeth ieuanc o wythnos yng Nghanolfan Arthog yng Ngwynedd. Mae pob un o’r disgyblion sydd wedi manteisio ar y profiadau hyn dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llawn brwdfrydedd am eu profiadau ar RYLA a roedd Efa yr un mor frwdfrydig am ei phrofiadau hi pan gafodd hi, ei rhieni a Mrs Barlow, Pennaeth y 6ed dosbarth wahoddiad i ymunod a Rotari Dyffryn Conwy nos Lun y 19eg o Dachwedd i rannu ei phrofiadau gyda aelodau o’r Rotari. Cafodd hefyd gyfle i ddiolch iddynt am eu nawdd hael ac am drefnu iddi allu mynychu y cwrs. Roedd yn noson arbennig a bu cryn canmoliaeth gan aelodau’r clwb i Efa am ei chyfraniad i’r noson a’i chyflwyniad aeddfed am ei phrofiadau. Edrychwn ymlaen yn fawr at barhau y bartneriaeth ac at yr unigolyn/unigolion fydd yn cael y cyfle i fynychu haf nesaf. |
||
TREFNIADAU TYWYDD DRWG 14/12/18 Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
NOSON AGORED Y CHWECHED DOSBARTH 29/01/2019 Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
Senedd ieuenctid I Gymru Eleni bu i dri disgybl yn sefyll i gynyrchioli Aberconwy yn Senedd Ieuenctid Cymru ac rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod Evan Burgess wedi cael ei ethol i gynrychioli Aberconwy yn y Senedd yn mis Tachwedd eleni. Bydd Evan yn cyfarfod gyda 40 cynrychiolwyr ar draws Cymru yn mynegi barn pobl ifanc y sir. Llongyfarchiadau mawr i ti Evan a phob dymuniad da i ti yn dy swydd newydd.
|
CYNGOR YSGOL Mae'r Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur yn ystod y tymor. Gwyliwch y fidio yma i ddysgu mwy - cliciwch yma |
Sioe Ysgol 'Cae Melwr' 19/12/2018 Bydd Sioe'r Ysgol 'Cae Melwr' yn cael ei pherfformio yn Arena Venue Cymru Nos Fercher nesaf y 19eg o Ragfyr. Cyfle gwych i weld disgyblion blwyddyn 7 i flwyddyn 13 yn perfformio ac arddangos eu doniau. Mae'r ticedi ar gael o dderbynfa'r ysgol. Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) |
Diwrnod Sgiliau Ysgol Dyffryn Conwy Tymor hwn cafwyd diwrnod sgiliau traws ysgol gyda holl ddisgyblion yn ysgol yn cael cyfle i ddatblygu amrediad eang o brofiadau a sgiliau. |
Ymweliad a Phrifysgol Aberystwyth Aeth rhai o ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 a blwyddyn 9 i ymweld â phrifysgol Aberystwyth mis hwn i dderbyn cyfres o ddarlithoedd a thrafodaethau ar wleidyddiaeth. Cafwyd hefyd cyfle i holi panel o newyddiadurwr ac aelod o Blaid Cymru ynglyn â gwleidyddiaeth yng Nghymru. |
Gweithdai Cymraeg yn Glan Llyn Aeth disgyblion blwyddyn 12 am dridiau i wersyll yr Urdd Glan Llyn i gael darlithoedd amrywiol ar gerddi maent yn ei astudio fel rhan o’u cwrs lefel A. Cafwyd cyfle i drin a thrafod gyda beirdd proffesiynol fel Myrddin ap Dafydd a Caren Owen. Cafwyd hefyd gyfle i fod yn rhan o dalwrn y beirdd eu hunain. Fel rhan o’r profiad bu ymweliad ar Ysgrwn yn Nhrawsfynydd. “Mi wnes fwynhau'r tridau yn fawr iawn ac uchafbwynt y trip oedd y talwrn ar y nos Fawrth.” Gwen Arfon, disgybl blwyddyn 12. |
Perfformiad Sioe Gerdd diwedd Tymor 2018 Eleni bydd disgyblion yr ysgol yn perfformio Sioe Gerdd "Cae Melwr" yn yr Arena yn Venue Cymru ar y 19eg o Ragfyr. Mae'r chwedl yn un enwog, dewch yn llu i weld disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn ei pherfformio. Ticedi ar gael o dderbynfa'r ysgol. |
Diwrnod Plant Mewn Angen 2018: 16/11/18 Ar ddydd Gwener yr 16eg o Dachwedd bu cryn bwrlwm yn yr ysgol wrth i ni ddathlu diwrnod Plant Mewn Angen. Roedd yn ddiwrnod gwisg eu hun i staff a disgyblion. Bu hefyd yn gyfle i ddisgyblion a staff i goginio a cystadlu am y pobydd gorau. Iori o flwyddyn 7 fuodd yn fuddugol gyda’i gacen blasus wedi ei ysbrydoli gan gwennynau a mel! Mmmm. Roedd y gystadeluaeth yn un poeth gyda digon o ddanteithion i’w profi wrth benderfyny ar yr ennillydd. Yn y gampfa hefyd roedd nifer o gystadlaethau dyfalu – dyfalu enw y tedi, dyfalu ble roedd y trysor, dyfalu faint o felysion oedd mewn jar … digon i brocio’r meddwl i gyfrifo a datrys problemau! Roedd cyfle hefyd i wylio staff a disgyblion y 6ed dosbarth yn cystadlu mewn gem pelrwyd. Gem llawn bwrwlm a brwdfrydedd! Tu allan cafodd sawl un o’r athrawon gan gynnwys Mr Thatcher, Mr Lewis a Mr Roberts eu gwylychu yn y gem ‘sbwng gwlyb’! Dim rhyfedd i’r gweithgareddau, dan arweiniad disgyblion y Cyngor Ysgol a Cyngor Chwaraeon lwyddo i gasglu dros mil o bunoedd at yr elusen – yr uchaf i ni gasglu dros y blynyddoedd diwethaf! Diolch i bawb, yn ddisgyblion, rhieni a staff am eu cefnogaeth hael ac i Mr Turner am arwain y cynllunio a gweithgareddau! |
Noson Gwobrwyo Chwaraeon Blynyddol 2018: 23/10/18 Ar nos Fawrth y 23ain o Hydref cafwyd cyfle arbennig i ddathlu llwyddiannau disgyblion ym maes chwaraeon ac Addysg Gorfforol drwy’n Seremoni Gwobrwyo Flynyddol. (Dathlwyd llwyddiannau ein disgyblion yn y maes yn ystod 2017/18). I'w gweld pamffled seremoni dathlu llwyddiant adran addysg gorfforol - cliciwch yma |
Clwb Marchogaeth – Llwyddiant yn Southview penwythnos y 29ain o Fedi Unwaith eto rydym yn falch iawn o lwyddiant holl aelodau tîm marchogaeth yr ysgol fu yn cystadlu yn Southview dros y penwythnos. Bu pob un yn llwyddiannus gan gynnwys llwyddiant yn y cystadaethau isod: • Twm Cernyw 1af yn y ‘preliminary dressage' Roedd y disgyblion yn gefnogol iawn i’w gilydd – yn bwysig wrth oroesi ambell i her ar y diwrnod. Roeddent yn gwrtais ac yn edrych yn arbennig yn eu ‘hoodies’ newydd yn lliwiau yr ysgol. Rydym yn falch iawn o’u llwyddiannau, cychwyn arbennig i’r clwb eleni. Aelodau profiadol a newydd yn profi cyn llwyddiant. Diolch yn fawr iawn i Ceri am gydlynnu y gwaith ac i holl rhieni a disgyblion y clwb am eu holl gwaith, eu hegni a’u brwdfrydedd! Gwych – da iawn chi! |
Dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop: 26/9/18 Fel rhan o’n gwaith fel ysgol Arloesi ym Maes Dysgu a Profiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, bu aelodau’r Adran Ieithoedd Tramor yn gweithio gyda disgyblion i gyflwyno gwersi blasu mewn gwahanol ieithoedd i ddisgyblion blwyddyn 7. Bwriad y sesiynau blasu oedd i ennyn chwilfrydedd disgyblion mewn ieithoedd newydd. Adeiladodd hyn ar ein prosiect llwyddiannus yn cydweithio gyda ysgolion cynradd fel rhan o brosiect Dyfodol Byd Eang oedd yn edrych ar y cysylltiadau rhwng ieithoedd. Adeiladodd hefyd ar ein cysylltiadau ag ysgol ieithoedd yn Rossario yn yr Ariannin, partneriaeth fu yn datblygu llynedd drwy ddulliau cyfathrebu traddodiadol (llythyrau drwy’r post) a modern (skype), gan orffen mewn ymweliad diddorol iawn gan staff a disgyblion yr ysgol o’r Ariannin ar ddiwedd tymor yr Haf. |
||
Amserlen Adroddiadau a Nosweithiau Rhieni 2018/19
Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf) Am fersiwn Staff - cliciwch yma (pdf) |
Cyngor Ysgol 2018/19 Llongyfarchiadau mawr i holl aelodau newydd Cyngor Ysgol 2018/19. Yn dilyn proses o ethol ar lefel dosbarth, blwyddyn ac ysgol mae cynrychiolwyr o bob blwyddyn bellach wedi eu hethol i arwain llais y disgybl yn yr ysgol dros y flwyddyn nesaf. Mae'r Cyngor yn cyfarfod yn reolaidd i drafod blaenoriaethau yr ysgol a'n disgyblion. Dymunwn yn dda iddynt yn eu cyfrifoldebau newydd am y flwyddyn. Gallwch ddysgu mwy am waith y Cyngor a'ch cynrychiolwyr blwyddyn ar eu hysbysfwrdd, drwy eu cyflwyniadau amlgyfrwng mewn gwersi Tiwtorial ac ar y sgrins o amgylch yr ysgol.
|
Prif Ddisgyblion 2018/19 Yn dilyn proses o ymgeisio, cyfweliadau, cyflwyniadau ac etholiad mae Prif Ddisgyblion 2018/19 bellach wedi eu hethol. Cafwyd cyflwyniad ar ddechrau’r tymor gan Prif Ddisgyblion 2017/18 yn esbonio y rôl allweddol hon, a’u profiadau dros y flwyddyn diwethaf. Yn sgil hynny cafwyd nifer o geisiadau ar gyfer y swyddi ac yn dilyn broses o ceisiadau a cyfweliadau cyflwynodd 5 ymgeisydd o flaen eu cyfoedion 6ed dosbarth yn Neuadd yr ysgol ar ddydd Mawrth y 18fed o Fedi. Bellach mae Jake ac Efa wedi ymgymryd a’r cyfrifoldeb o Brif Ddisgyblion ac yn eu cefnogi fel Dirprwy Prif Ddisgyblion mae Trystan, Elen ac Elan. Dymunwn yn dda iawn i’r 5 ohonynt. Maent yn argoeli yn tîm arwain arbennig fydd yn gwneud y mwyaf o’r cyfle, y cyfrifoldeb a’u sgiliau arwain a chyflwyno dros y flwyddyn nesaf. Rhai o’u cyfrifoldebau cyntaf fydd: |
Gwobr Marc Ansawdd Gyrfaoedd 2018 Ar ddydd Gwener yr 21ain o Fedi daeth Phil Jones o Gyrfa Cymru i gyflwyno tystysgrif ar gyfer Marc Ansawdd Gyrfaoedd i’r ysgol. Cyflwynir y tystysgrif yn sgil y gwaith mae’r ysgol yn ei wneud ar gyfer hyrwyddo gyrfaoedd a byd gwaith. Bu cyfnod o wirio gweithgareddau a profiadau byd gwaith yr ysgol cyn llunio arfarniad ac adnabod blaenoriaethau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cyflwynwyd y wobr i Mrs Elliw Davies, Cydlynydd Gyrfaoedd a Byd Gwaith yr ysgol gan Mr Phil Jones a Mr Stephen Williams, Swyddog Gyrfaoedd Gyrfa Cymru yr ysgol.
Mae’r gweithgareddau mae’r ysgol yn ei gynnig fel profiadau byd gwaith yn cynnwys:
|
Seremoni Gwobrwyo Blynyddol 2018 Cawsom gyfle hefyd nos Fawrth yr 11eg o Fedi i ddathlu llwyddiannu nifer o’n disgyblion yn ystod ein Seremoni Gwobrwyo Blynyddol. Roedd yn noson cynnes yng nghwmni rhieni a disgyblion a gyda chefnogaeth aelodau ein cymuned, gan gynnwys Cyngorydd Ian Jenkins, Maer Llanrwst fu yn gwobrwyo Shannon Jones, bellach yn ddisgybl blwyddyn 13 am ei gwaith cymunedol yn gweithio gyda pobl ifanc yn lleol a thu hwnt yn ei gwaith gyda mudiad gofalwyr ifanc. Yn cefnogi disgyblion ac yn hael iawn yn eu cefnogaeth unwaith eto eleni oedd swyddogion Rotari Dyffryn Conwy. Cyflwynwyd gwobrau i’r 10 disgybl a gafodd y 10 canlyniad gorau yn eu TGAU. Diolchwn yn fawr iawn i’r Rotari am eu cefnogaeth. Eleni, yn sgil ein canlyniadau gorau fel ysgol yn yr uwch graddau (A*/A) derbyniodd 10 disgybl arall hefyd gwobrau am eu canlyniadau TGAU arbennig. Braf a balch iawn oeddym yn gallu cydnabod eu llwyddiannau yn y modd hyn. Yn ennill gwobrau y Llywodraethwyr am eu canlyniadau lefel A uchel eleni oedd: Cadi Edwards, Elin Cawley, Stuart Phelen ac Owain Williams. Dymunwn yn dda iawn iddynt yn eu astudiaethau yn y Brifysgol eleni. Yn derbyn gwobrau am eu canlyniadau AS oedd: Rosy Pearson, Efa Celyn Davies, Amman Abbasi a Trystan Jones. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu llwyddiannau Haf nesaf yn eu cyrsiau lefel A. Yn derbyn gwobrau hefyd ar y noson oedd y 10 disgybl gorau yn eu asesiadau CA3. Nododd Mr John Roberts y Dirprwy yr her o llwyddo mewn ystod eang o bynciau ar ddiwedd blwyddyn 9 wrth eu llongyfarch ar y noson. Llwyddodd y disgyblion a ennillodd y canlyniadau gorau yn y profion cenedlaethol ar gyfer Blwyddyn 7, 8 a 9 hefyd i dderbyn gwobr am eu perfformiad uchel mewn darllen a/neu rhifedd. Heb anghofio am y gwobrau presenoldeb, gyda sawl disgybl yn derbyn gwobr am bresenoldeb 100%, her mwy eleni yn sgil y tywydd garw a gawsom yn ystod y Gaeaf a’r Gwanwyn. Diolchwn yn fawr i gwmni Llew Jones am noddi y gwobrau hyn. Hefyd y derbyn gwobr ar y noson oedd Eve Jones, Dirprwy Prif Ferch yr ysgol 2017/18 am ei gwaith arbennig yn cefnogi disgyblion bregis yr ysgol drwy ei gwaith yn yr Uned ADY. Mae cyfraniad Eve dros y flwyddyn diwethaf wedi bod yn un arbennig iawn a braf oedd gallu cydnabod y gwaith hyn. Roedd cyfle i fwynhau talentau cerddorol rhai o’r disgyblion 6ed dosbarth newydd drwy perfformiad gwych gan triawd Angharad, Elliw a Modlen yn canu dan cyfeiliant y telyn a’r gitar; a hefyd perfformiad swynol Patrick Lynch ar y piano. Diolch yn fawr i’r pedwar ohonynt am gyfrannu yn arbennig i’r noson. Pa well ffordd i gloi nag yng nghwmni disgyblion a rhieni dros paned a lluniaeth ysgafn gan gwmni Popty Penuchaf. Diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth i gefnogi y noson. I gweld y rhaglen Seremoni Gwobrwyo - cliciwch yma |
||
Dechrau Tymor newydd Medi 2018 Braf yw dod yn ôl ar ddechrau tymor a blwyddyn addysgol newydd i gwmni disgyblion a staff Ysgol Dyffryn Conwy. Mae ein blwyddyn 7 newydd wedi ymgartrefu yn dda yn dilyn eu cyfnod anwytho tymor diwethaf. Yn dilyn canlyniadau cryf yn eu TGAU mae bron i 70 o ddisgyblion wedi dychwelyd yn ôl i’r 6ed dosbarth neu ymuno a’n 6ed dosbarth eleni. Braf iawn hefyd yw gweld ein disgyblion yn ymfalchio yn eu gwisg ysgol newydd. Diolch yn fawr i’n disgyblion a’u rhieni am eu cefnogaeth gyda’r wisg newydd. |
All-gwricwlaidd Addysg Gorfforol
Amserlen Gweithgareddau Allgyrsiol Chwaraeon newydd ar gyfer 2018. Ymunwch yn y gweithgareddau! Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Gwybodaeth am gyfranogiad disgyblion mewn gweithgareddau allgyrsiol corfforol 2017/18: Darllenwch fwy am pa fath o weithgareddau allgyrsiol chwaraeon mae disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn cyfranogi ynddynt. Rydym yn falch iawn o’r ystod o weithgareddau a’r cynnydd mewn cyfranogiad bechgyn a merched dros y flwyddyn diwethaf. Diolch i’r Adran Addysg Gorfforol a’n partneriaethau chwaraeon a lles am eu gwaith a’u cefnogaeth. Diolch hefyd i’r disgyblion sydd wedi bod yn cynnal gweithgareddau yn ychwanegol i’w mynychu fel aelodau o’r Cyngor Chwaraeon a Llysgenhadon Ifanc. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
|
Noson Agored Blwyddyn 5 a 6 Nos Fawrth 9/10/2018 Estynnwn groeso cynnes i rieni a disgyblion blwyddyn 5 a 6. Mwy o wybodaeth - cliciwch yma (pdf)
|
Dyddiadau Allweddol 2018/19 Dymunwn gwyliau braf i’n holl disgyblion a’u teuluoedd. I weld mwy o wybodaeth am ddyddiadau allweddol 2018/19- cliciwch yma |
|||
Atgofion o’r Wythnos Weithgareddau 2018 Atgofion o’r Wythnos Weithgareddau 2018 - Cliciwch yma (pdf) |
Read for Good Fe gasglwyd £87.68 gan ddisgyblion blwyddyn 7 a oedd yn cael eu noddi i ddarllen yn y cyfnodau cofrestru boreol eleni. Mae’r arian wedi cael ei yrru i’r elusen uchod sy’n galluogi i ysbytai brynu llyfrau newydd i blant sy’n sâl. Diolch yn fawr blwyddyn 7 am eich cefnogaeth a da iawn chi! |
||
Taith Gerdded Blynyddol, Ysgol Dyffryn Conwy, 13/7/18 Cafwyd diwrnod arbennig dydd Gwener y 13eg o Orffennaf yn cynnal ein taith gerdded blynyddol yng Nghoedwig Gwydir. Er i ragolygon y tywydd nodi pryder am cawodydd glaw trwm, cafwyd tywydd da iawn ar gyfer y daith – yn sych ac yn llai poeth na fu yn ddiweddar, perffaith! Cychwynnodd y criw cyntaf – y rhedwyr – yn brydlon am hanner awr wedi 9 dan arweiniad Mr Beech a Miss Hannah Jones. Nhw, fel oeddym yn disgwyl, oedd y cyntaf yn ol, gyda Math Thomas yn fuddigol ac Evan Burgess yn ail. Da iawn chi! Aeth pawb arall mewn grwpiau o rhyw 10 disgybl gyda athrawon, gan ddilyn y llwybr oedd yn cael ei amlinellu gan ddisgyblion hyn a staff yr ysgol yn eu siacedi melyn. Daeth pawb yn ol yn eu tro, wedi blino, wedi mwynahu, wedi llwyddo yn her y daith, ac yn barod am cinio a gig gan y Cledrau. Ffordd arbennig o orffen y dydd a’r wythnos! Diolch yn fawr iawn i’r staff a disgyblion gymerodd rhan yn y daith gerdded. Diolch hefyd i bawb sydd wedi noddi ein disgyblion – mae’r elw eleni yn mynd tuag at Eisteddfod Llanrwst 2019 ac i gefnogi agweddau o’r wythnos gweithgareddau. Diolch mawr i Miss Branwen McBride fuodd yn cynllunio, paratoi a trefnu y daith. Edrychwn ymlaen at ddiwrnod gwych arall blwyddyn nesaf! |
||
Ymweliad disgyblion a staff o Canolfan Iaith ‘Centro Britanico’, Rosario, Yr Ariannin: Roedd yn bleser croesawu disgyblion a staff o ganolfan Iaith ‘Cenro Britanico’ i Ysgol Dyffyn Conwy ar y dydd Llun olaf o’r Tymor. Yn dilyn wythnosau o tywydd poetha braf, cychwynodd y dydd mewn glaw yn Llanrwst, tywydd dipyn mwy arferol i’n ymwelwyr ei brofi! Daethant yn llawn ysbryd a diddordeb fel rhan o’u ymweliad i Brydain i ddysgu mwy am addysg dwyieithog mewn ardal gwahanol iawn iddynt, i rannu a dysgu am traddodiadau ein gwledydd gwahanol. Yn ystod y bore cafodd ein ymwelwyr daith o amgylch yr ysgol, wedi eu tywys gan disgyblion ein Cyngor Ysgol sydd wedi bod yn cyfathrebu gyda’r disgyblion drwy post a drwy’r we. Rhannodd ein disgyblion gyflwyniad am yr ysgol, Llanrwst a Cymru gyda’n ymwelwyr a rhannwyd danteithion gan gynnwys Barabrith lleol. Buom hefyd yn cyfnewid gwybodaeth am ein ieithoedd gwahanol – disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn arbrofi gyda ychydig o Sbaeneg ac yn rhannu geiriau Cymraeg. Yn dilyn cinio gyda’n gilydd cawsom gyfle i ddysgu mwy am yr Ariannin drwy gyflwyniadau gan y disgyblion. Rhannwyd gwybodaeth am eu traddodiadau, eu diwylliant, bwydydd a tirwedd yr Ariannin. Roedd yn ddidorol iawn gwrando ar eu cyflwyniadau, holi cwestiynau a profi pethau newydd gan gynnwys eu traddodiad o rannu ‘Meze’ a rhai o’u danteithion hwy. Edrychwn ymlaen yn fawr at gadw mewn cysylltiad a cyfnewid eto i’r dyfodol. Dymunwn siwrne diogel iddynt yn ol i’r Ariannin. Diolch i ddisgyblion Cyngor yr Ysgol am eu gwaith yn eu diddori. |
||
Wythnos Gweithgareddau 2018 Mae Wythnos Gweithgareddau blynyddol 2018 wedi cychwyn a’r disgyblion o flwyddyn 7-10 yn mwynhau ystod o weithgareddau yn yr ysgol a thu hwnt. Gallwch ddarllen mwy am raglen yr wythnos yn y llyfrynnau canlynol. Bydd diweddariadau o’r gweithgareddau hefyd ar ein cyfrif Trydar. Wythnos Gweithgareddau Bl. 7 2018 - cliciwch yma Wythnos Gweithgareddau Bl. 8 2018 - cliciwch yma Wythnos Gweithgareddau Bl. 9 2018 - cliciwch yma Wythnos Byd Gwaith Bl. 10 2018 - cliciwch yma |
||
Llongyfarchiadau mawr: Pencampwyr Beicio Mynydd Ysgol Dyffryn Conwy Bu disgyblion o’r ysgol yn cystadlu mewn pencampwriaeth Beicio Myndd newydd yng Nghonwy yn ddiweddar. Bydd y timau buddugol yn cystadlu yn y rownd derfynol yn Nant BH ar yr 28ain o Fehefin. Llongyfarchiadau i bob un o’r disgyblion fuodd yn cystadlu. Diolch yn fawr iawn i Mr Jason Turner a Mr Penri Jones am drefnu a chefnogi. Bechgyn Blwyddyn 7 & 8 |
Partneriaeth gyda Llyfrgell Llanrwst a Llyfrgelloedd Conwy Rydym yn falch iawn fel ysgol i fod wedi cychwyn partneriaeth newydd gyda Llyfrgelloedd lleol gan gynnwys Llyfrgell Llanrwst. Fel rhan o'r partneriaeth bydd cyfle i ddisgyblion a rhieni gael gwybodaeth am y llyfrgelloedd, pori rhai llyfrau cyfredol/o ddiddordeb; adnewyddu eu aelodaeth llyfrgell; ac archebu llyfrau ar lein drwy'r gwasanaeth llyfrgelloedd ar lein. Gall ddefnyddio a mynychu llyfrgelloedd lleol fod yn arf defnyddiol ar gyfer hybu darllen er pleser, cefnogi Gwaith cartref, astudio ac adolygu. Mae'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn awyddus iawn i gefnogi'n disgyblion a byddwn yn defnyddio ein pencampwyr darllen I'w cynorthwyo i ddewis llyfrau ar gyfer adnewyddu yn yr ysgol ac yn y llyfrgelloedd.
Os ydych chi, yn ddisgybl neu yn riant yn awyddus i gael fwy o wybodaeth neuiI sicrhau neu adnewyddu aelodaeth i'n llyfrgelloedd lleol, bydd cynrychiolydd o Llyfrgell Llanrwst yn mynychu ein nosweithiau rhieni er mwyn rhoi help llaw a rhannu gwybodaeth am waith ac adnoddau y llyfrgell. Byddent ar gael yn ystod: - Noson Rhieni Blwyddyn 7, nos Fawrth 19/6/18 Am fwy o wybodaeth cliciwch yma |
Gweithdy Diogelwch Ar-lein i Rieni Byddwn yn cynnal ein gweithdy diogelwch ar-lein am ddim i rieni yn yr ysgol ar 25ain o Fehefin I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma |
Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 Llongyfarchiadau mawr i bawb fuodd yn cystadlu dros yr hanner tymor yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed. Ymysg y llwyddiannau oedd: Cliciwch yma am fwy o luniau |
Tymor Llwyddiannus iawn o Rygbi Bu disgyblion yr ysgol yn cystadlu yn ffrwd mewn nifer o gystadlaethau Rygbi yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydym yn falch iawn o’u llwyddiannau. Diolchiadau mawr hefyd i Mr Kevin Thomas, Swyddog Rygbi yr ysgol am eu hyfforddi, cludo a trefnu y gweithgareddau. Dyma crynodeb o’u llwyddiannau. Gallwch ddarllen mwy am eu llwyddiannau ar cyfrif Trydar yr Adran Addysg Gorfforol: @PEDyffrynConwy. Cwpan Gogledd Cymru (RGC)
Cystadleuaeth 7 bob Ochr (Gogledd Cymru)
Cystadleuaeth 7 bob ochr Cymru: Cystadleuaeth 12 bob ochr Cymru |
Seremoni Ffeil Gynnydd Bl. 13: Nos Wener 25/5/18 Ar noswyl olaf yr hanner tymor cafwyd cyfle arbennig i ffarwelio yn ffurfiol gyda’n disgyblion blwyddyn 13. Roedd yn noson braf yn llawn atgofion, cyfle i ddathlu ac i ddiolch. Cafwyd cyflwyniad yn ystod y noson gan ein gwr gwadd Russell Morris, cyn ddisgybl sydd bellach yn Athro o Cemeg ym Mhrifysgol St Andrews yn yr Alban. Cyflwynodd llawer o’i atgofion o’r ysgol, ei brofiadau a hanes ei yrfa ers ymadael a’r ysgol, ynghyd a cyngor i’n disgyblion wrth iddynt gyrraedd rhan olaf eu gyrfa ysgol (yr arholiadau lefel A) ac edrych ymlaen at eu dyfodol. Cafwyd eitem cerddorol hefyd gan ddwy o ddisgyblion y 6ed dosbarth, Chloe a Ffion; cyflwyniadau gan ein Prif Ddisgyblion – Rhydian, Mali, Eve a Meredydd; ynghyd a digon i brocio y galon a’r meddwl gan Mrs Glenda Barlow, Pennaeth Dysgu a Cynnydd y 6ed dosbarth. Ar ddiwedd y noson roedd cyfle i fwynhau ychydig o luniaeth ysgafn yng nghwmni y disgyblion a’u rhieni yn Ffreutur yr ysgol. Diolch i bawb a fynychodd ac i’r staff a disgyblion fuodd yn trefnu a cyflwyno. Diolch arbennig hefyd i’n gwr gwadd, Russell Morris. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Llongyfarchiadau i Gruffudd a Dylan ar cael ei capio i Dim Cymru Llongyfarchiadau i Dylan a Gruffudd ar ennill eu capiau tim pysgota plu Cymru dan 18. |
£1,000 wedi ei gasglu at elusen ‘Cronfa Caio’ a Leukemia Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a disgyblion a fu yn cefnogi ein diwrnod elusen arbennig ar dydd Gwener y 27ain o Ebrill. Mae’r elusen yn agos iawn i’n calonau. Drwy gynnal diwrnod gwisg ein hunain, gan gynnwys gwisg ffansi 6ed dosbarth a staff; stondinau a raffl fawr; llwyddwyd i gasglu £1,000 at yr elusennau. Anhygoel! Diolch yn fawr yn enwedig i’r Cyngor Ysgol ac i’n Prif Ddisgyblion fuodd yn brysur yn cynllunio’r dydd, cynnal raffl fawr, hysbysebu a trefnu gweithgareddau a stondinau. Roedd llawer o hwyl i’w gael yn ystod y dydd gan gynnwys y camp o’r ras rhwystrau (yn enwedig o’i wneud mewn gwisg ‘ffansi!). Diolch i bawb gymerodd rhan! Dyma lluniau rhai o’r staff a disgyblion 6ed dosbarth yn eu gwisgoedd ffansi. |
||
Taith Gwlad yr Iâ Dros wyliau’r Pasg mi fues i’n ddigon ffodus i fynd ar drip ysgol i Wlad yr Iâ gyda’r Adran Ddearyddiaeth. Ynys folanig yw Gwlad yr Iâ ac mae’n adnabyddys am ei amrediad eang o nodweddion dearyddol fel y gwelsom dros y diwrnodau y buom yn ymweld â’r wlad. |
||
Amserlen Profion Llythrennedd A Rhifedd Cenedlaethol 2018: I weld yr amserlen - cliciwch yma |
Radio Cymru yn Ymweld: Braf iawn oedd croesawu cyn-ddisgybl Elin Medi i gyfweld disgyblion Blwyddyn 11 ynghylch hawl i bleidleisio yn 16 oed ar gyfer rhaglen Radio ‘Dal Pen Rheswm’. Darlledwyd y Rhaglen ar y 15/3/18. Llongyfarchiadau i Gwion, Elliw, Heledd ac Alaw fuodd yn cael eu cyfweld. |
Pencampwyr Rygbi Merched: Tournament 7 bob ochr Blwyddyn 7 a 8 yr Urdd 2018: Llongyfarchiadau mawr i’r tîm Rygbi Merched dan 13 sydd yn Bencampwyr cystadleuaeth 7 bob orch yr Urdd yn dilyn y twrnament diweddar yng Nghaerdydd. Canlyniadau arbennig genod – da iawn chi! Diolch i Mr Kevin Thomas am eich hyfforddi a trefnu ac i Mrs Glesni Rogers Jones am fynd efo chi i’r gystadleuaeth. |
Ennillwyr Cystadleuaeth Robotaidd Gogledd Cymru: Fel rhan o ddatblygu sgiliau digidol disgyblion mewn gwyddoniaeth mae grwp o ddisgyblion blwyddyn 8 a 9 wedi bod yn gweithio yn galed ar ddatblygu robot a cyflwyniad ar gyfer cystadleuaeth rhanbarthol. Buont yn cystadlu efo'u robot ar ddydd Gwener 9/3/18. Creuwyd cyflwyniad a fideo hefyd er mwyn arddangos eu gwaith cynllunio, dylunio a sgiliau eu robot. Buont yn llwyddiannus iawn yn y gystadleuaeth efo canmoliaeth uchel iawn am eu gwaith ar y diwrnod. Bellach rydym wedi derbyn y dyfarniad efo grwp robotiaid Ysgol Dyffryn Conwy yn curo'r cystadleuaeth gyfan ac yn fuddugol. Ennillodd y grwp hefyd y wobr gyntaf am eu fideo. Golygai hyn eu bod yn cadw yr offer arbennigol buont yn ei ddefnyddio i greu y robot ac yn ennill gwobrau o £100 a £25 tuag at waith pellach y clwb. Diolch yn fawr iawn i Mr Carl Thatcher fuodd yn gweithio efo'r grwp. Llongyfarchiadau mawr felly i'r canlynol: Elliot Wright, Jamie Williams, Lucy Farrell, Evan Burgess, Elea Chennel, Amy Ingham, Lily Taylor, Sam Fahy, Wil Neale, Tomi Butler, Olivia Wilding, Jonathan Driver, Ella Campbell, Libbie Thomas. |
Llwyddiannau Chwaraeon Tymor y Gwanwyn Llongyfarchiadau mawr i’r Clwb Ddringo a ennillodd cystadleuaeth Conwy yn ddiweddar yn Ysgol y Gogarth. Bydd y disgyblion canlynol yn cynrychioli yr ysgol yn y rown derfynol Eryri: Jacob Duncalf, Tomos Land, Gethin Lloyd a Pwyll Williams. Dymuniadau gorau i bob un ohonynt. Llongyfarchiadau mawr hefyd i’r timau peldroed dan 13 a dan 18 a gyrhaeddodd y chwarter olaf o’r gystadleuaeth Cwpan Peldroed Cymru. Llongyrachiadau hefyd i’r timau trawsgwlad fuodd yn cystadlu yn y pencampwriaethau Eryri a Cymru. Ella Grundy oedd seren y cystadlu yn llwyddo i cael ei lleoli yn y 3ydd safle i Gymru – camp arbennig, Ella. Bu’r disgyblion canlynol yn cystadlu yn llwyddiannus yn y pencampwriaeth Cymru: Math Thomas, Tomos Land and Morgan Clwyd Jones. Llongyfarchiadau i’r timau athletau fuodd yn cystadlu yn ddiweddaru yng Nghonwy. Mae dau o’r timau athletau mewnol bellach yn bencampwyr Conwy. Mae blwyddyn 10 newydd gwblhau eu heriau cymunedol drwy addysg gorfforol. Fel rhan o’r her buont yn cydweithio efo’r Adran Addysg Gorfforol i gynllunio diwrnod amlgamp ar gyfer dros 100 o ddisgyblion o’n ysgolion cynradd. Roedd y dydd yn lwyddiant mawr i bawb fuodd yn rhan o’r digwyddiad. Rydym hefyd wedi derbyn trosolwg o’n gwaith i hybu gweithgareddau allgyrsiol. Yn ystod Tymor yr Hydref bu 57% o’n disgyblion yn cyfranogi mewn gweithgareddau allgyrsiol. Mae digon o gyfleoedd i’r disgyblion hyn parhau i gyfranogi, ac i hybu mwy o’n disgyblion i gymryd rhan yn ystod tymor yr Haf. Diolch yn fawr i’r disgyblion hyn ac i aelodau o’r Adran Addysg Gorfforol a Staff yr ysgol sydd yn cynnal a cefnogi y gweithgareddau hyn. Diolch hefyd i’n partneriaid lleol gan gynnwys clybiau lleol, Canolfan Hamdden Llanrwst ac Awdurdod Conwy am eu cefnogaeth hefyd. Diweddariad Rygbi i ddilyn ... |
Canlyniadau Eisteddfod yr Urdd 2018 Rhanbarthol - Celf a Chrefft Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol Gwaith Lluniadu 2D Bl, 7,8 a 9 |
Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth 2018 Mae myfyrwyr o Ysgol Dyffryn Conwy wedi bod yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth. Eleni, mae’r Brifysgol wedi dyfarnu 68 o Ysgoloriaethau a nifer o Wobrau Teilyngdod i fyfyrwyr sy’n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth ym mis Medi 2018. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Evan Morgan i Stuart Phelan, Ysgoloriaeth Syr Alfred Jones i Owain Williams, a chynigion diamod i Lleucu Howatson, Awel Mai Roberts, Owain Vaughan a Lois Williams ar sail perfformiadau cryf yn yr arholiadau. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt. |
Merched mewn Chwaraeon: Newyddion BBC Bu dwy o’n merched yn trafod ar Newyddion y BBC bore dydd Sadwrn y 10fed o Fawrth am gyfranogiad merched mewn chwaraeon. Gallwch ddarllen mwy a gwrando ar eu cyflwyniad drwy’r ddolen isod. Da iawn Efa a Sara. |
Eisteddfod Yr Urdd Sir Conwy Rydym fel ysgol yn hynod o falch o ein pobl ifanc a gynrychiolodd yr ysgol yn aeddfed Dydd Sadwrn 10fed o Fawrth 2018 yn yr Eisteddfod y Sir Conwy yn Ysgol Y Creuddyn. Ar ôl wythnosau o baratoi, braf iawn oedd eu gweld yn cystadlu yn frwd yn y rhagbrofion ac ar y llwyfan. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonoch ar eich llwyddiant a phob dymuniad da i’r rhai ohonoch fydd yn cynrychioli'r eisteddfod yn mis Mai yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Hoffem hefyd ddiolch i’r aelodau o’r staff a fy yn hyfforddi a pharatoi'r disgyblion ar gyfer yr Eisteddfod. Dyma’r canlyniadau gwych eleni; |
Prosiect Robotaidd: Ar ddiwedd y tymor, 19/3/18 bydd tim Robotaidd Ysgol Dyffryn Conwy yn cystadlu yn G2G yn Neuadd y Dref, Rhyl. Maent wedi bod yn cydweithio ar y prosiect dros y flwyddyn yn dilyn sesiynnau blasu diwedd yr Haf llynedd. Maent wedi datblygu yn timau arbennigol gwahanol sydd yn defnyddio gwahanol sgiliau ar gyfer dylunio eu robot ar gyfer y prosiect. Bu cryn gwaith yn dylunio eu robot ond bellach mae Jonathan ac Evan o fewn y tim wedi sicrhau bod eu dyluniad yn cyrraedd disgwyliadau ymarferol a manyleb y gystadleuaeth yn llawn. Mae 2 aelod arall o'r tim, Lily a Tomi wedi bod yn datblygu bwrdd stori ac i greu fideo yn cyflwyno gwaith y grwp. Tu ol eu cyflwyniad mae aelod arall o'r tim, Olivia. Bu Lily, Tomi, May ac Elea yn cyfansoddi cerddoriaeth hefyd ar gyfer eu cyflwyniad digidol. Dipyn o gamp i roi pob dim at eu gilydd. Yn dilyn ffrwyth llafur y tim uchod, mae hi lawr i'r rhaglennwyr - Elliot, Jamie, Samuel, Will ac Ella, dan arweinyddiaeth craff Lucy. Maent wrthi yn cynllunio rhaglen er mwyn cymryd rhan yn y tasgau yn ystod y gystadleuaeth. Diolch i Mr Carl Thatcher o'r Adran Ffiseg am gydlynnu yr holl waith a cadw'r tim ar drac! Pob dymuniad da i'r tim wrth gystadlu. |
|||
Cyngerdd Santes Dwynwen 27/1/18: Llongyfarchiadau mawr i’r Cor Ieuenctid Dyffryn Conwy ar eu perfformiad rhagorol yng Nghyngerdd Santes Dwynwen nos Sadwrn y 27ain o Ionawr yng Nghapel Seion, Llanrwst. Roedd yn berfformiad arbennig, y côr yn llawn haeddu y cymeradwyaeth uchel, clod am eu perfformiad o ansawdd ac ymateb brwdfrydig y gynulleidfa a’r perfformwyr eraill gan gynnwys Côr CF1, Côr Meibion Bro Aled (trefnwyr y noson) a band gwerin Pererin. Diolchiadau mawr i’r disgyblion – presenol a cyn ddisgyblion am gymryd rhan; i’w rhieni a’r gymuned am eu cefnogi; ac yn arbennig i Miss Angharad Ellis a Mr Chris Roberts am eu hyfforddi, arwain a cyfeilio iddynt. Arbennig! Cychwyn cofiadwy iawn i’r ymgyrch o gasglu arian, cynnal cefnogaeth a talent tuag at Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn Llanrwst, 2019. |
Cyngerdd Santes Dwynwen Cyngerdd Santes Dwynwen nos Sadwrn 27ain o Ionawr yng Nghapel Seion, Llanrwst yng Nghwmni Côr CF1, Côr Meibion Bro Aled, a Côr Hyn Ysgol Dyffryn Conwy. Elw at Eisteddfod Llanrwst 2019. I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma |
Llongygfarchiadau i'r timau canlynol: Perfformiad gwych gan hogia blwyddyn 8 yn Y Rhyl. Curo 4-1 mewn pel droed. Ymlaen i'r 8 olaf yng Nghymru, gem cartref nesaf! Tîm Rygbi dan 18 wedi ennill 54:0 yn erbyn Ysgol Uwchradd Llanishen. Da iawn chi fechgyn! |
Ffug Arholiadau i flwyddyn 12
Bydd ffug arholiadau yn cael eu cynnal i ddisgyblion blwyddyn 12 mewn nifer o pynciau AS ar ddechrau tymor y Gwanwyn 2018. Gallwch lawrlwytho yr amserlen ar gyfer yr arholiadau ar y ddolen yma - cliciwch yma
Ffair Nadolig y Disgyblion Yn ystod y tymor mae disgyblion blwyddyn 11 wedi bod yn brysur iawn yn cynllunio a chreu stondinau ar gyfer casglu arian i elusen Ty Gobaith fel rhan o’u her Menter a Busnes gyda’r BAC. Dydd Mercher y 13eg o Ragfyr cynhaliwyd Ffair Nadolig i’r disgyblion yn ystod amser cinio.. Roedd dros bymtheg o stondinau gwahanol yn gwerthu cynnyrch Nadoligaidd amrywiol o gacennau, ysgytlaethau siocled poeth. Roedd y neuadd yn orlawn o ddisgyblion yr ysgol. Casglwyd dros £250 tuag at elusen Ty Gobaith. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. |
|||
Cyngerdd Nadolig Arbennig: 18/12/17 Ar nos lun olaf y tymor cynhaliwyd ein Cyngerdd Nadolig yng Nghapel Seion, Llanrwst. Roedd y Capel yn llawn, yn gynnes ac yn barod ar gyfer gwledd o berfformiadau gan ddisgyblion ar draws yr ystod oedran yn yr ysgol. Roedd perfformiadau corau, partion ac ensemble lleisiol wedi eu cynnwys yn y rhaglen. Cawson ein diddanu hefyd gan unawdau a deuawdau a gan ddarlleniadau gan ein prif ddisgyblion. Ar ddechrau y noson cawsom gyfle i ymlacio a mwynhau awyrgylch croesawgar y capel i chwarae sgilgar Patrick Lynch ar y piano ac Angharad Butler ar y telyn. Ymysg danteithion y noson roedd perfformiadau corau o ‘Hallelujah’ a fersiwn Cymreig o anthem Nadolig y Pogues, ‘Fairytale of New York’. Cawsom ddeuawd arbennig gan Cadi a Sion Dafydd, yn llawn hiwmor, direidi a talent arbennig y ddau – bu chwerthin a mwynhad mawr gan y gynulleidfa. Perfformiodd aelodau y Clwb Ddrama mewn dau gyflwyniad – un gan y criw iau a’r ail gan y criw hyn. Roedd Miss Llio Japheth wedi bod yn brysur yn eu paratoi at y noson. Dan arweiniad Mr Chris Roberts a Miss Angharad Ellis, gyda cymorth ein athrawon arbennigol, Mrs Sian Gibbson a Mr Dafydd Huw oedd y disgyblion fuodd yn canu ac yn chwarae amrywiol offerynnau. Braf iawn oedd gweld cymaint o eitemau cerddorol gwahanol ar draws y noson. Diolch yn fawr iawn i’r staff, y disgyblion a’r rhieni am eu ymrwymiad parod i’r noson. Roedd y gyfle arbennig i ddod at ein gilydd ar ddiwedd tymor prysur i fwynhau, ac i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n cymunedau. |
|||
Diwrnod Cyfweliadau Blwyddyn 11 Gwerth Chweil! Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion blwyddyn 11 fuodd yn cymryd rhan heddiw yn y diwrnod cyfweliadau blynyddol. Roedd pob un wedi gwisgo a paratoi yn arbennig ar gyfer y diwrnod a presenoldeb ac ymrwymiad y disgyblion yn amlwg. Diolch yn fawr iawn i’r holl cyflogwyr lleol ddaeth i gefnogi y dydd a rhoi o’u amser i gyfweld y disgyblion ac i gynnig adborth proffesiynol iddynt are eu llythyrau cais, eu CVs, eu gwisg a’u cyfweliadau. Diwrnod gwerthfawr iawn i bawb. Diolch yn fawr iawn hefyd i’r holl staff fuodd yn rhan o’r diwrnod gan gynnwys tiwtoriaid blwyddyn 11, Mrs Gwenno Ifan, Mrs Glesni Rogers Jones, Mrs Tina McDonnell a Mrs Leah Jones. Diolch arbennig i Mrs Elliw Davies, Cydlynydd Addysg Gyrfaoedd a Byd Gwaith yr ysgol ac i Mrs Iona Owen am drefniadau ar gyfer a drwy gydol y dydd. Dyma ennillwyr y gwahanol cydrannau: CV gorau o bob grwp: Pwyll, Jess, Cara, Gwen, Tom, Osian, Gruff a Modlen. Y disgyblion mwyaf llwyddiannus ym mhob grwp: Ruben, Modlen, Bethany, James, Maimee, Pwyll, Alya ac Angharad. Ennillydd y swydd oedd: Ruben – llongyfarchiadau mawr iddo; efo Pwyll yn ail ac Angharad yn drydydd. Da iawn chi, blwyddyn 11 – rydym yn falch iawn ohonoch! |
|||
Ffair Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy: Oherwydd y tywydd bydd Ffair Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy 12/12/17 yn cael ei ohurio. |
Ymweliad Addysgol Clwb Robotics: Yn ddiweddar aeth grwp o ddisgyblion o Glwb Robotaidd Ysgol Dyffryn Conwy i ganolfan Pontio ym Mangor i weithdy robotaidd. Yn ystod y gweithdy cafodd y disgyblion gyfle i ryngweithio efo robotiaid o wahanol bersonoliaethau ac astudio eu ymatebion. Cawson nhw hefyd gyfle i gyfarfod Merel Bekking, un o’r staff sydd yn ymwneud a’r arddangosfa. Esboniodd pwrpas yr astudiaeth a cyflwynodd gweddill tîm Dylunio a Rhaglennu i’r disgyblion. Yn dilyn eu cyfranogiad yn yr astudiaeth cafodd y disgyblion gyfle unigryw i weld robotiaid newydd (‘Now’ a ‘Cosmo’). Cawsant hefyd gyfle i drafod yn anffurfiol efo’r dylunwyr wnaeth ateb eu cwestiynau brwdfrydig. Gadawodd y disgyblion yr arddangosfa ar y diwedd yn wen o glust i glust, wedi eu ysbrydoli ar gyfer y cystadleuaeth robotaidd maent yn gweithio tuag ato ym mis Mawrth. Diolch i Mr Thatcher am drefnu. |
|||
Nadolig Llanrwst 2017: Llongyfarchiadau mawr i Ela Evans, ennillydd y cerdyn Nadolig gorau yng nghystadleuaeth Nadolig Llanrwst eleni! Fel rhan o’i gwobr cafodd Ela yr anrhydedd o oleuo coeden Nadolig sgwar Llanrwst nos Wener y 1af o Ragfyr yn ystod y seremoni goleuo blynyddol. Llongfarchiadau mawr hefyd i Sara Roberts ennillydd yr ail wobr ac Alex Valentine, ennillydd y 3ydd wobr. Roedd llawer iawn o ddisgyblion wedi bod yn brysur dan arweiniad yr Adran Gelf yn dylunio eu cardiau Nadolig dros yr wythnosau diwethaf er mwyn cystadlu. Diolch yn fawr iawn i Gyngor Tref Llanrwst am eu cefnogaeth ac i’r Adran Gelf a pob disgybl fuodd yn cymryd rhan. Yn ystod y noson hefyd cymerodd criw o ddisgyblion blwyddyn 7 a disgyblion blwyddyn 9 a 10 ran yn y dathliadau Nadolig yn Eglwys Crwst. Roedd canmoliaeth uchel i’r merched fuodd yn canu dan arweiniad Miss Angharad Ellis. Diolch yn fawr iddynt am gymryd rhan. Rhoddwyd blas i ni o’r hyn fyddwn yn ei glywed yn ystod y Cyngerdd Nadolig yng Nghapel Seion, Llanrwst, nos Lun y 18fed o Ragfyr. |
Ennillwyr cystadleuaeth Llosgfynyddoedd Blwyddyn 9 2017: Yn dilyn sawl wythnos prysur o greu mae disgyblion blwyddyn 9 wedi cwblhau eu prosiectau unigol/grwp ar llosgfynyddoedd. Yn dilyn beirniadu pob un fu yn cystadlu, rydym yn falch iawn o gyhoedd ennillwyr eleni. |
Llawlyfr 6ed Dosbarth
2018 - 2019 Llawlyfr 6ed Dosbarth 2018 - 2019 - cliciwch yma |
Gwaith maes Lefel A – Cwm Idwal a Llanberis Fel ran o cyfoethogi ein profiadau yn y pwnc, roedd criw bach ohonym yn edrych ymlaen am daith addysgol i Blas Tan Y Bwlch. Golygodd hyn taith ychydig dros hanner awr mewn bws mini i Maentwrog ac o hynny allan i’r maes yng Nghwm Idwal. Cawsom ychydig o amser i fynd dros y gwaith yn ogystal a chyfarfod ein cyd-ddisgyblion o Ysgol Morgan Llwyd. Fe wnaethom wisgo yn gynnes i baratoi am dywydd oer a gwlyb ond buasom yn lwcus i beidio cael tywydd drwg. Allan yn y maes yng nghwm Idwal fe ddysgom ni am nifer o bethau diddorol yn cynnwys, sut y ffurfwyd rhewlifoedd miloedd o flynyddoedd yn ol a sut y newidiodd y tirwedd dros amser. Yn ogystal a hyn fe ddefnyddwyd dull i ddarganfod cyfeiriad y rhewlif a oedd yn ddiddorol iawn. Ar ôl taith llwyddiannus yng Nghwm Idwal fe aethom yn ol i Maentwrog i edrych dros ein gwaith a dadansoddi ein data. Ar yr ail ddiwrnod, aethom ar daith ymchwil i Llanberis. Roeddym yn Llanberis i astudio datblygiad yr ardal fel rhan o ein cwrs daearyddiaeth Lefel A. Tra yno fe ymwelwyd â ‘Snowdonia Watersports’ lle gawsom atebion diddorol i ein cwestiynnau. Cawsom hefyd y cyfle i ymweld â’r Amgueddfa Llechi ac yno cawsom drafodaeth difyr iawn eto. Roedd y ddeuddydd yn gyfle da i roi ein gwaith daearyddiaeth ar waith yn ymarferol ac i ganfod barn a dysgu o arbennigedd unigolion sydd yn gweithio yn lleol ac yn gwneud y mwyaf o’r daearyddiaeth – yn ddynol ac yn naturiol. Roedd pawb wedi mwynhau y gwaith maes yn fawr iawn – er yr her o’r tywydd yn Llanberis. Hoffwn ddiolch i’r Adran Daearyddiaeth am y trefniadau ac Ymddiriedolaeth Llanrwst am eu haelni yn cefnogi y daith. Meilyr Williams , Blwyddyn 12 |
Gwasanaeth Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy Capel Seiont Llanrwst, Dydd Llun, Rhagfyr 18fed, 7yh Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Amserlen Ffug Arholiadau Blwyddyn 11 Amserlen Ffug Arholiadau Blwyddyn 11, 29/11/17 hyd at 08/12/17 Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Prosiect Arloesol Digidol mewn Addysg Gorfforol: ‘Aspire2Be’ Llongyfarchiadau i Mali Edwards, Deio Williams, Cain Jones, Nel Metcalfe ac Aron Brenig Jones am gwblhau prosiect ar dechnoleg mewn chwaraeon a drefnwyd gan Aspire2Be. Pwrpas y prosiect oedd ffilmio rhaglen rygbi eu hunain i ddadansoddi perfformiad Cymru yn erbyn yr Alban yn Murrayfield. Disgwylir i'r disgyblion ymgymryd â rolau cyflwynwyr teledu, cyfwelwyr, sylwebyddion a dadansoddwyr. Wedi ffilmio, golygu a chyflwyno eu gwaith, cafodd y disgyblion eu llongyfarch am eu gwaith caled a'u gwahodd gan Aspire2Be i ddadansoddi gêm rygbi, i'w chwarae yng Nghaerdydd, yn y flwyddyn newydd. Cyflwynwyd clip ffilm y grwp yn ystod ein Seremoni Dathlu Llwyddiant Addysg Gorfforol diweddar lle roedd y disgyblion yn rhan o’r grwpiau/unigolion yn cael eu gwobrwyo. Da iawn chi. |
Ffair Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy 12/12/17 Mae disgyblion blwyddyn 11 wedi bod yn brysur ers wythnosau, fel rhan o’u her menter y BAC, yn creu cynnyrch a gweithgareddau ar gyfer ein Ffair Nadolig sydd yn cael ei chynnal yn Neuadd yr Ysgol ar y 12fed o Ragfyr. Bydd y noson yn cychwyn am 4 o’r gloch gyda mynediad am ddim. Cliciwch yma i weld y poster |
Canlyniadau trawsgwlad Conwy: Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion canlynol am eu llwyddiant yn cystadlu mewn pencampwriaeth Trawsgwlad Conwy yn ddiweddar. 1af yn eu dosbarth: Math Thomas, Tomos Land, Ella Grundy Llongyfarchiadau mawr hefyd i’r canlynol fuodd yn cystadlu: Will Neale, Matthew Cawley, Morgan Clwyd, Jonathan Driver, Gruffudd Edwards, Ynyr Euros, Elea Chennell, Enid Hughes, ac Erin Jones. |
Pencampwyr Pysgota Rydym yn falch iawn o glywed fod Dylan Jones, Gruffudd Edwards a Rooney Moore o Clwb Pysgota yr ysgol wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru! Dymuniadau gorau i’r bechgyn wrth iddynt gystadlu dros y flwyddyn. Maent wedi cael eu cefnogi drwy nawdd gan Ymddiriedolaeth Llanrwst – diolch yn fawr i’r Ymddiriedolaeth am ei cefnogi. Bydd hyn yn galluogi iddynt adnewyddu eu offer ar gyfer y cystadlu. |
Peldroediwr Ifanc yn chwarae i Gymru Yn dilyn llwyddiant mawr ym maes peldroed yr ysgol llynedd, rydym yn hynod o falch fod Jac Parry, Blwyddyn 13 wedi ei ddewis i chwarae yn y tîm dan 18 Cymru. Dymuniadau gorau iddo wrth iddo gystadlu efo’r tîm eleni. |
Canlyniadau gemau pel droed a Rygbi: Tymor yr Hydref 2017 Canlyniadau Pel Droed Dan 18 Dan 15 Dan 14 Dan 13 Dan 13 (Merched) Dan 12 Canlyniadau Rygbi Dan 18 Dan 16 Dan 13 Dan 12 |
Plant Mewn Angen 2017 Dydd Gwener y 17 o Dachwedd roedd yr ysgol yn llanw bwrlwm gyda diwrnod plant mewn angen . Roedd y disgyblion wedi gwisgo i fyny yn e dillad ei hun, ac ambell i un mewn gwisg ffansi. Bu'r cyngor ysgol a'r cyngor chwaraeon yn brysur yn cynllunio a threfnu llu o weithgareddau ar gyfer codi arian yn ystod amser cinio, rhai o'r gweithgareddau hwyliog oedd gwlychu'r athrawon, coluro a gwaith, gwerthu cacenni a siocled poeth a'r her mathemateg. Braf iawn oedd cael cefnogi taith Aled Hughes radio Cymru wrth iddo ymweld â Llanrwst ar y Dydd Iau 16 o Dachwedd. Bu Holly, Lucy a Mali yn cynrychioli'r ysgol ar ei rhaglen fore dydd Iau yn trafod ein gweithgareddau codi arian fel ysgol. Diolch yn fawr iawn i'r holl ddisgyblion a drefnodd a chefnogodd y gweithgareddau. Gydag ein gilydd mi gasglwyd dros £650 tuag at Blant Mewn Angen. Os am weld rhai o'r gweithgareddau ewch ar ein trydar ysgol @ysgdyffrynconwy. Cliciwch yma i weld mwy o lluniau |
Perfformiadau Drama TGAU Bl. 11 Ers wythnosau mae disgyblion blwyddyn 11 Drama TGAU wedi bod yn brysur tu hwnt yn creu a datblygu eu syniadau creadigol ar gyfer eu perfformiad dyfeisiedig ac ar Ddydd Llun y 20fed o Dachwedd bu perfformiadau arbennig yn yr ystafell ddrama. Perfformiodd y disgyblion i grwpiau o flwyddyn 9 a 10 yn ystod y dydd gan drosglwyddo drwy eu dramâu negeseuon amrywiol am hawliau cyfartal mewn cymdeithas a dyfodol yr iaith Gymraeg. Yn ystod nos Lun bu perfformiad cyhoeddus i deulu a ffrindiau'r disgyblion a braf oedd gweld yr ystafell ddrama yn llawn eto flwyddyn yma o gefnogaeth leol. Diolch yn fawr iawn i'r disgyblion am eu gwaith caled ac am gefnogaeth y rhieni. Er mwyn dilyn mwy am hanes yr adran ddrama a gweld perfformiadau dilynwch ein trydar @DramaYDC. |
Teams 4 U: Ymgyrch bocsys Nadolig i blant Eleni unwaith eto bu ein disgyblion ac athrawon yn cefnogi elusen bwysig iawn Teams 4 U gan gasglu amrywiol nwyddau cartref, i fachgen neu ferch ar gyfer llenwi bocs esgidiau ar gyfer y Nadolig. Braf iawn oedd cael trosglwyddo 43 o focsys llawn o deganau, nwyddau ac anrhegion Nadolig i'r elusen Teams4U ar fore dydd Llun y 20fed o Dachwedd. Diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth. Poster T4U - cliciwch yma |
Noson Agored 6ed Dosbarth Cynhelir Noson Agored 6ed Dosbarth Ysgol Dyffryn Conwy eleni ar nos Fawrth y 28ain o Dachwedd rhwng 5.30 a 7.30pm. Bydd drysau yn agored o 5.15pm. Yn ystod y noson bydd cyflwyniad ar yn hyn sydd gan y 6ed dosbarth i’w gynnig a cyfle i drafod efo athrawon pwnc am y cyrsiau 6ed dosbarth. Rhennir copi o Prospectws cyrsiau 6ed dosbarth 2018/19 yn ystod y noson. Hyderwn y bydd yn gyfle i ddechrau meddwl am opsiynau 6ed dosbarth ac i gymryd rhan mewn dewis rhydd ar gyfer cyrsiau a cyfrannu at opsiynau cwricwlwm ôl-16 ar gyfer 2018/19. Bydd cyfle dilynol yn ystod noson rhieni blwyddyn 11 ar nos Fawrth y 6ed o Chwefror i drafod ymhellachefo athrawon yn dilyn adroddiad llawn blwyddyn 11 eich plentyn. I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma |
Tîm Marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn Addington 2017 Llongyfarchiadau Mawr i’r Tîm Marchogaeth fuodd yn cystadlu yn ail rownd pencampwriaeth NSEA (National School Equestrian Association) yn Addington ar y 19fed a’r 20fed o Hydref. Bu Twm ac Eben yn cystadlu yn nghystadleuaeth 70cm, fe wnaeth y ddau farchogaeth yn gret, fe ddaeth Twm a'i geffyl Billy yn 3ydd mewn dosbarth o 55 plentyn arall. Camp arbennig – da iawn ti, Twm! Nos Iau fe fu'r ddau yn nhim neidio Ysgolion Cymru mewn dau gystadleuaeth 70cm ac 80cm, Twm oedd yr unig aelod o dim Cymru ar y 80cm i neidio yn glir, bu'r ddau dîm yn 3ydd. Ar y Dydd Gwener roedd Twm yn cystadlu hefo'i geffyl George, mewn cystadleuaeth 80cm, fe ddaeth yn 1af allan o 72 o blant dan 17 oed. Eto camp bendigedig! Ar y dydd Sadwrn bu Twm ac Eben, ynghyd a Harri a Jac yn cystadlu yng Nghystadleuaeth 90cm hefyd. Rydym yn falch iawn o lwyddiant y tîm talentog yma! Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Ymweliad Dafydd Chilton Dydd Iau, y 12fed o Hydref cawsom y pleser o gwmni’r awdur Dafydd Chilton yn ein gwers Gymraeg. Rydym yn astudio’r nofel Dim gan Dafydd Chilton fel rhan o’r cwrs TGAU. Roedd rhai o’r dosbarth yn nabod yr awdur achos mae’n byw yn lleol ac roedd rhai wedi ei weld ar ei feic o gwmpas y lle. Roedd yn garedig iawn wedi dod i mewn atom i ateb ein cwestiynau ar y nofel. Fe ddaeth â lluniau o’r llefydd sy’n cael eu henwi yn y nofel. Roedd yn ddiddorol iawn clywed ei straeon, am ei ardal enedigol a deall fod llawer o’i hanes personol ef yn y nofel “Fi ydy llawer o Dim” meddai. Esbonioddd fod dwy ffordd o fyw yn y nofel; y ffordd Brydeinig, ble mae trefn hierarchaidd,(y bobl gyfoethog ar y top a’r bobl dlawd ar y gwaelod) a’r ffordd Gymreig ble mae pawb yn hafal, yn parchu’i gilydd. Roedd ganddo gasgliad o lyfrau oedd o ei hun yn eu darllen yn ystod ei blentyndod. Yn bendant, fe wnaeth lwyddo i ddod â’r nofel yn fyw i ni. Mi wnaethom ni fwynhau ei gwmni. Ethan, Jack, Mathew, Sion |
Taith Gwaith Maes Daearyddiaeth Ar y 26ain o Fedi, teithiais i, a gweddill disgyblion blwyddyn 11 sy’n astudio Daearyddiaeth, i dri lleoliad gwahanol ar gwrs yr Afon Conwy er mwyn astudio’i llif. Cyn mentro at yr afon, gwisgasom drowsusau gwrth-ddŵr anferth a wellies trymion cyn cael esboniad o’r diwrnod o’n blaenau gan aelod o staff Rhyd-Y-Creuau – a oruchwiliodd rhediad y dydd yn ogystal a’n cynorthwyo drwy gydol y trip. Aethom wedyn at fan arall o’r afon ble ymunai dwy lednant â’i gilydd; roedd y dŵr yn ddyfnach ac felly’r disgyblion yn wlypach – gydag ambell i drochiad annisgwyl yn ysgafnhau’r gwaith. Ar y ffordd yn ôl i’r bws mini, gyda phawb ar eu cythlwng, sugnodd bwystfil y gors ddau aelod o’r grŵp a chawsom ddifyrrwch mawr yn eu gweld yn ceisio dianc – yn dal ynghlwm wrth eu wellingtons!
Hoffwn ddiolch, ar ran holl ddisgyblion Daearyddiaeth blwyddyn 11, i Ryd-Y-Creuau am ein cynorthwyo drwy gydol y diwrnod, i’r staff o Ysgol Dyffryn Conwy a yrrodd y bysus mini ac i bennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth, Mr Carwyn Meurig Williams, am yr holl drefniadau. |
|||
Radio Cymru yn ymweld â Ysgol Dyffryn Conwy Daeth Nia Cerys Gwynn draw i’r ysgol i ddysgu mwy am y cynllun arloesol ‘Let’s Think in English’ sydd yn cael ei ddatblygu yn yr Adran Saesneg. Bu yn arsylwi disgyblion blwyddyn 9 yn trafod yn frwd fel rhan o’r cynllun yn un o’u gwers Saesneg ar ddydd Llun y 9fed o Hydref. Bu Tommy, Brienne, Elen a Sion o’r dosbarth hefyd yn cael eu cyfweld ar gyfer rhaglen Post Cyntaf gan Nia am eu profiadau yn dysgu drwy’r cynllun a sut mae’n eu annog i drafod, datblygu meddwl a sgiliau rhesymu wrth ymateb i dasgau darllen heriol. Gallwch glywed y disgyblion a Mrs Tesni Chaka, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Mrs Anna Roberts, Cydlynydd Llythrennedd yr ysgol yn trafod drwy’r podcast canlynol: www.bbc.co.uk/programmes/b007rkzw/episodes/player |
Pianydd talentog o’r ysgol yn chwarae mewn digwyddiad elusenol yng Ngwesty Maenan Abbey Dyma disgrifiad Patrick Lynch o flwyddyn 11 am gymryd rhan yn y digwyddiad. “Cefais gyfle arbennig i chwarae y piano mewn digwyddiad elusennol i gasglu arian tuag at peiriant defibrilator ar gyfer y gymuned leol, dydd Gwener diwethaf yng Ngwesty trawiadol Maenan Abbey. Roedd hi’n ddigwyddiad ffurfiol felly penerfynais chwarae darnau heriol iawn er mwyn gweddu i’r awyrgylch soffistigedig ac i ddangos fy nhalentau. Y darnau wnes i chwarae oedd ‘The Lark’ gan Glinka, ‘Moonlight Sonata’ gan Beethoven a nifer o ddarnau gradd 7 ac 8 fel ‘The Butterfly’ a ‘Romance ans Paroles’. Roedd y cyfle yma yn un arbennig – digwyddiad byth gofiadwy!’ Roedd canmoliaeth arbennig i gyfraniad Patrick ar y noson. Diolch yn fawr iawn iddo am gynrychioli yr ysgol a cefnogi y gymuned leol. |
‘BAKE-OFF’ YSGOL DYFFRYN CONWY Dydd Gwener y 28ain o Fedi roedd Gampfa'r ysgol yn llawn cacennau amrywiol a blasus. Roedd yr Athrawon a'r chweched dosbarth wedi bod yn brysur iawn yn coginio ar gyfer y gystadleuaeth Bake-off. Braf iawn oedd cael gwahodd Rhian Williams o gwmni Siwgr a Sbeis i feirniadu'r gystadleuaeth. Wedi tipyn o flasu coronwyd Ms Julie Hall o'r adran Saesneg yn gyntaf ac ennill y wobr o'r Pobydd Perffaith gyda'i gacen tair haen o galonnau. Daeth Annest o flwyddyn 13 yn ail a Mrs Buddug Jones yn drydydd. Enillodd Elinor o flwyddyn 7 y gacen fuddugol ar y raffl a bu llu o gacennau bach ar werth gan y chweched dosbarth a'r cyngor ysgol. Codwyd £460 tuag at elusen Macmillan. Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ac yn enwedig i Rhian Williams Siwgr a Sbeis ar feirniadu. |
Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl Er gwybodaeth i rieni a rhanddeiliaid. Dyma’r ddogfen gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm rhwng 2017 a 2022 a gyhoeddwy wythnos diwethaf, 26/9/17 gan Swyddog y Cabinet ar gyfer Addysg. Mae’r ysgol yn ran weithredol o’r weledigaeth drwy ein rol fel Ysgol Arloesi ym Maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Cyflwynodd y Pennaeth Miss Elan Davies yn y gynhadledd lansio gyda Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams. |
Llwyddiant ym Mharc Gwledig Pen-bre, Llanelli - Welsh Road Relays: Llongyfarchiadau mawr i Math Lloyd Thomas o Lanrwst, disgybl blwyddyn 8 Ysgol Dyffryn Conwy ar ei lwyddiant yn cystadlu ym Mharc Gwledig Pen-bre, Llanelli mis penwythnos y 16 a 17 o Fedi. Yno roedd yn rhedeg ras Welsh Road Relays. Roedd yn rhedeg fel rhan o dîm athletau Menai. Enillodd y tîm wobr aur a hefyd cafodd Math fedal aur am redeg y lap cyflymaf yn y ras. Camp arbennig – da iawn ti, Math. |
Rhannu arferion rhagorol fel Ysgol Arloesi ar y Cwricwlwm Newydd: Neithiwr bu Miss Elan Davies, Pennaeth yn un o ddau gyflwynydd yn gyflwyno yn lansiad cynllun newydd ar gyfer ‘Cenhadaeth Addysg’ Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Addysg yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, Caerdydd. Roedd yn gyfle gwych i rannu arferion da yr ysgol a llwyddiannau y disgyblion gyda Ysgrifennydd y Cabinet a’r cynrychiolwyr eraill yn y lansiad. Gallwch ddarllen mwy am y Cenhadaeth Addysg newydd i Gymru drwy’r ddolen hon: http://learning.gov.wales |
Prospectws Newydd: I ddarllen y Prospectws Newydd - cliciwch yma |
Prif Ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy 2017/18: Llongyfarchiadau i Rhydian Jones a Mali Sion o flwyddyn 13 sydd wedi eu hethol fel Prif Ddisgyblion yr ysgol ar gyfer 2017/18. Etholwyd Meredydd Walker ac Eve Jones yn Ddirpwy Prif Ddisgyblion. Mae eu gwaith eisoes wedi cychwyn gan gynnwys y broses o gadeirio ac arwain y Cyngor Ysgol a gwethgareddau a blaenoriaethau ysgol. Roedd safon uchel iawn i gyflwyniadau yr holl ymgeiswyr eleni – da iawn chi! Edrychwn ymlaen yn fawr at waith eich disgyblion arweiniol dros y flwyddyn. |
Tim Marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn cystadlu mewn Pencampwriaeth Cenedlaethol: Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion fuodd yn cymryd rhan yn rownd gyntaf y Pencampwriaeth Cenedlaethol yn Southview dros penwythnos y 23ain o Fedi. Yn cystadlu roedd: Jac Cernyw, Efa Davies a Harri Williams o flwyddyn 12; Eben a Twm o flwyddyn 8 a Morgan o flwyddyn 7. Roedd y tîm talentog yn cymryd rhan mewn nifer o gystadleuthau Dressage a Neidio yn ystod y dydd gan gystadlu yn unigol a fel tîm. Rydym yn falch iawn o’u llwyddiannau ac edrychwn ymlaen yn fawr at glywed hanes y tîm dros y flwyddyn. Pencampwyr Marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy: Canlyniadau NSEA Southview 23/9/17 Dyma llwyddiannau y disgyblion: Morgan Haerr 3ydd Dressage |
|||
Erthygl gan Tomos MacDonald: Erthygl gan Tomos MacDonald, cyn ddisgybl a Dirprwy Prif Ddisgybl o Ysgol Dyffryn Conwy am fywyd i Gymro ym Mhrifysgol Rhydychen: Llongyfarchiadau i Tomos MacDonald ar ei erthygl i ‘Wales Online’ am ei brofiadau yng Ngholeg Brasenose Mhrifysgol Rhydychen. Gallwch ddarllen erthygl Tomos o’r linc isod. |
Prosiect Cyffroes mewn Partneriaeth â Coleg Prifysgol King’s Llundain: Fel rhan o’n gwaith fel ysgol Arloesi ar gyfer y Cwricwlwm Newydd, rydym wedi cychwyn partneriaeth cyffroes gyda Prifysgol King’s yn Llundain. Bydd aelodau o Adran Addysg y Brifysgol yn gweithio efo’r Adran Saesneg, Adran Gymraeg a Cydlynydd Llythrennedd yr Ysgol ar prosiect ‘Let’s Think in English’. Bwriad y prosiect fydd i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol, darllen a cwestiynu disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3. Er bod y prosiect wedi ei selio ar ddatblygu y sgiliau yn y Saesneg, mae’r prifysgol wrth eu bodd, nid yn unig i fod yn cydweithio efo yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ddefnyddio y cynllun, ond i weithio mewn partneriaeth ag ysgol Ddwyieithog ac ymchwilio i ddatblygu sgiliau yn y ddwy iaith ac ar draws y cwricwlwm. Mae Mr Laurie Smith, darlithydd yn y Brifysgol eisoes wedi ymweld â’r ysgol i gychwyn y prosiect drwy gynnal hyfforddiant a gwersi cychwynol efo disgyblion blwyddyn 7 ac 8. Bydd y prosiect yn cael ei ehangu dros y tymor ar draws gwersi darllen Saesneg CA3, a’r strategaethau yn cael eu treialu efo disgyblion yn y Gymraeg ac ar draws y cwricwlwm dros y flwyddyn. Bydd Laurie yn ymweld a’r ysgol yn ystod y flwyddyn i gefnogi a cynnal ymchwil gweithredol i’r prosiect. Edrychwn ymlaen yn fawr at ein camau nesaf efo’r Maes Dysgu a Profiad yn ystod y flwyddyn nesaf fel rhan o ddylunwyr y cwricwlwm newydd. Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld cynnydd y disgyblion drwy y prosiect ‘Let’s Think’ ac yn enwedig sut fedrwn bonito sgiliau rhwng ieithoedd ac yn draws-gwricwlaidd. Mae 2017/18 yn Flwyddyn o Ddarllen yma yn Ysgol Dyffryn Conwy gyda gwahanol gweithgareddau wedi eu cynllunio ar draws y flwyddyn. |
Prif Ddisgyblion 2017/18: Llongyfarchiadau mawr i Rhydian Jones a Mali Sion cafodd eu hethol fel Prif Ddisgyblion yr ysgol heddiw. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Eve Jones a Meredydd Walker fydd yn gweithredu fel eu Dirprwyon. |
Diwrnod gwisg eu hunain: Jeans for Genes ac elusen Macmillan: Diolch yn fawr iawn i bawb fu yn cymryd rhan yn y diwrnod gwisg eu hun heddiw. Llwddwyd i gasglu dros £400 tuag at ein dwy elus |
Noson Agored: Cliciwch yma i weld gwybodaeth am dan yr noson agored |
Adnoddau E-Ddiogelwch Defnyddiol i Rieni gan Llywodraeth Cymru: 1. Canllaw i rieni a gofalwyr: archwilio diogel yn Google a modd diogel YouTube; |
Ethol Prif Ddisgyblion 2017/18: Rhai o ddarpar Prif Ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy 2017/18 yn dilyn eu cyflwyniadau arbennig i ddisgyblion. Edrychwn ymlaen at gweddill y cyflwyniadau dydd Iau a'r broses ethol. Pob lwc i bawb! |
Newydd – Bwletin i Rieni Medi 2017 a Gwybodaeth am ddyddiadau pwysig: Newydd – Bwletin i Rieni Medi 2017 a Gwybodaeth am ddyddiadau pwysig, nosweithiau rhieni a calendr adroddiadau 2017/18. Cliciwch yma i weld y bwletin |
Ethol Prif Ddisgyblion Newydd ar gyfer 2017/18: Mae cryn bwrlwm yr wythnos hon wrth i ddisgyblion blwyddyn 13 ymgeisio am swyddi allweddol Prif Fachgen, Prif Ferch a’u Dirprwyon ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn dilyn cyflwyniadau ysbrydoledig gan Leusa a Russell, ein prif ddisgyblion arbennig dros 2016/17 mae’r broses o ymgeisio ac ethol wedi cychwyn. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at ceisiadau, cyfweliadau, cyflwyniadau ein disgyblion eleni a dymunwn yn dda iawn i bob un ohonynt fydd yn ymgeisio eleni. |
Noson Agored Byddwn yn cynnal Noson Agored i rieni a disgyblion blwyddyn 5 a 6 ar nos Fawrth y 10fed o Hydref. Bydd y drysau yn agor am 5.15pm gyda cyflwyniad yn y neuadd gan y Pennaeth ac Uwch Arweinwyr am 5.30pm a cyfle i gael taith o amgylch yr ysgol rhwng 6 a 7.30 y.h. Croeso cynnes i holl rhieni ein ysgolion cynradd partner. |
Seremoni Dathlu Llwyddiant Ysgol Dyffryn Conwy: 12/9/17
Aelod arall o’r 6ed dosbarth yn derbyn gwobr oedd Rebecca Elliott a dderbyniodd Gwobr Tref Llanrwst gan Maer Llanrwst, Cynghorydd Edgar Parry yn sgil ei gwaith yn hyfforddi timau peldroed merched iau yn Llanrwst. Derbyniodd Cadi Edwards a Dylan Roberts hefyd wobrau am eu canlyniadau AS rhagorol. Mae’r ddau wrthi yn astudio yn galed ar gyfer eu ail flwyddyn yn ein 6ed dosbarth. Roedd rhestr hir o ddisgyblion eleni yn derbyn gwobrau am canlyniadau TGAU rhagorol wedi eu noddi gan Rotari Dyffryn Conwy a’r ysgol. Derbyniwyd y gwobrau gan: Rosy Pearson, Efa Celyn Davies, Amaan Abassi, Ifan Kones, Mali Williams, Howard Wingfield, Brenig Hughes, Elan Jones, Trystan Jones, Abbie Wilding. Yn ychwanegol cyflwynwyd gwobrau i Jac Cernyw, Cara Gates, Chloe Thomas a Penri Metcalf. Roedd eu llwyddiant yn arbennig yn sgil newidiadau mawr i’r TGAU eleni. Rydym yn hynod o falch ohonyt ac i’r flwyddyn gyfan sydd wedi gweld canlyniadau yn rhagori yn lleol ac yn rhanbarthol, eu canlyniadau yn y TGAU Rhifedd heriol newydd yr ail allan o holl ysgolion uwchradd Gogledd Cymru. Cyflwynwyd y gwobrau iddynt gan is-llywydd Rotari Dyffryn Conwy, Mr Kevin Griffiths a Mr Richard Howe. Cafodd nifer o ddisgyblion iau yr ysgol hefyd cydnabyddiaeth am eu llwyddiannau. Y derbyn gwobrau am ragoriaeth yn CA3 eleni oedd: Mali Evans, Iolyn hennell, Ela Owen, Nel Davies, Sky Alfree, Gwenlli Jones, Haf Robets, Sara Roberts, Sion Dafydd Edwards, Flain Kones, Jac Lloyd a Sion-Meirion Williams. Derbyniodd 22 disgybl hefyd gwobr presenoldeb 100% wedi eu noddi gan Cwmni Llew Jones, Llanrwst. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl noddwyr am eu cefnogaeth. Ennillwyr gwobrau am gydnabyddiaeth arbennig eleni oedd Harri Roberts, Blwyddyn 11 am ei waith fel ffotograffydd ifanc yr ysgol yn ein cynorthwyo i gofio a dathlu nifer o ddigwyddiadau arbennig yn ystod y flwyddyn. Yn sgil rhagoriaeth yn eu arholiadau TGAU ar ddiwedd blwyddyn 10 derbyniodd triawd talentog – Elliw Ford, Gwen Arfon ac Ethan Witt gwobrau am ragoriaeth yn cynnwys cydnabyddiaeth eu bod wedi ennill A* yn eu TGAU Rhifedd a TGAU Saesneg blwyddyn yn fuan – dipyn o gamp! I gloi y seremoni, cyn mwynhau paned a bara brith wedi ei ddarparu gan Cwmni Popty Pen Uchaf, derbyniodd 16 disgybl wobrau am ragoriaeth yn profion cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 3. Eu rhagoriaeth nhw fydd yn arwain at lwyddiannau mewn arholiadau allannol TGAU a Lefel A i’r dyfodol. Noson arbennig – diolch i bawb fuodd ynghlwm a’r trefniadau. |
|||
Dyffryn Conwy – Wrth ein bodd ar canlyniadau TGAU 2017!
Diwrnod Canlyniadau 2017: 24/8/17
Rydym wrth ei bodd gyda canlyniadau TGAU ei disgyblion eleni, y canlyniadau cyntaf o dan y dangosyddion newydd a newidiadau i’r TGAU craidd. Mae’r canlyniadau yn tystio i waith caled y disgyblion dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r canlyniadau Mathemateg yn uchel iawn unwaith eto eleni – rhywbeth i ymfalchio ynddo yn sgil y newidiad i ddau gwrs TGAU Mathemateg a Rhifedd. Nododd y Pennaeth, Miss Elan Davies, “Hoffwn longyfarch ein holl disgyblion a’u teuluoedd ar eu canlyniadau arbennig hyn a ffrwyth eu llafur dros y ddwy flynedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at groesawu nifer ohonynt yn ôl i’n 6ed dosbarth ar ddechrau’r tymor”.
Ymysg y disgyblion ar frig y canlyniadau eleni mae Rosie Pearson sydd wedi ennill 11 gradd A* - Gwych Rosy! Hefyd Efa Celyn sydd wedi derbyn 8A*, a 3B; Ifan Jones, 6A*, 4A ac 1 B; ac Amaan Abassi, 7A*, 3A ac un B. Ymunodd Amaan â’r ysgol yn nhymor yr Haf llynedd yn dilyn symud o Liundain, ac mae wedi llwyddo yn arbennig i newid i’r cyrsiau TGAU gwahanol iawn sydd ar gael yng Nghymu o’u cymharu â Lloegr eleni.
Mae canlyniadau arbennig hefyd gan y disgyblion canlynol: Howard Wingfield 3A* ac un Anrhydedd Seren (D*), 4A, 2B; Mali Williams 3A*, 6A a 2Bs; Brenig Hughes 2A*, 2 Anrhydedd Seren (D*), 4A and 3B; Elan Jones, 3A*, 4A, 4B; Abbie Wilding 3A*, 4A, 1B, 3Cs; Trystan Jones, 3A*, 3A, 4B; Jac Cernyw 1A*, 8s 2C; Cara Gates A*, 5A, 4B, 1C; Penri Metcals, 2D*, 3A, 2C; Chloe Thomas, A*, 4A, 6B; Nicola Woods 7A a 4B; Ella Murphy 6A, 5B; a Mared Thomas 5A, 5B, 1C. Canlyniadau rhagorol gan bob un ohonynt ar draws eu pynciau TGAU sydd yn adlewyrchu perfformiad cryf yn yr uwch graddau eleni i flwyddyn 11 a’r disgyblion ym mlwyddyn 10 sydd wedi gwneud arholiadau buan.
Un o’r pynciau sydd wedi serenu eleni ydy’r cwrs Amaeth sydd yn cael ei gynnig drwy partneriaeth â Awdurdod Conwy a Coleg Glynllifon. Cafodd pob un o’r disgyblion eleni, gan gynnwys Brenig uchod, Anrhydedd Seren dwbwl am eu cwrs. Pwnc arall sydd wedi perfformio yn uchel iawn ydy Celf Gain lle mae dros hanner y disgyblion wedi derbyn A*/A gyda treuan ohonynt yn cael gradd A*.
Rwyf yn falch iawn o’r canlyniadau cryf eto eleni yn Ysgol Dyffryn Conwy, yn enwedig yng ngoleuni y newidiadau sydd wedi bod i nifer o’r cyrsiau TGAU. Hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch ein disgyblion ar eu canlyniadau a dymuno yn dda i bob un ohonyt i’r dyfodol, boed hynny yn y 6ed dosbarth, coleg neu byd gwaith. Rwyf yn falch iawn ohonynt ac edrychaf ymlaen at glywed eu llwyddiannau i’r dyfodol. Hoffwn ddiolch hefyd i’n staff am eu gwaith caled parhaus, ac i’n rhieni hynod gefnogol. Mae heddiw yn ddiwrnod o falchder a dathlu.
Elan Davies, Pennaeth, 25/8/17
Lle ym mhrif Ysgol Caergrawnt:
Llongyfarchiadau mawr i Jake Jones, Blwyddyn 13 ar gael lle ym Mhrifysgol Caergrawnt lle fydd yn astudio y Gyfraith. Dymunwn yn dda iawn iddo yno! Rydym yn falch iawn ohono ac o lwyddiant ein holl disgyblion. Da iawn ti, Jake.
Bwrlwm Diwrnod Canlyniadau Lefel A 2017: 17/8/17
Bu cryn bwrlwm bore ‘ma yn Ysgol Dyffryn Conwy ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A. Mae ein disgyblion, unwaith eto wedi perfformio yn hynod o dda gyda rhai canlyniadau arbennig! Mae’r canlyniadau eleni yn parhau i ddangos llwyddiannau yn y cyrsiau Lefel A traddodiadol a cyrsiau Galwedigaethol gan gynnwys cyrsiau BTEC. Ymysg rheini yn cyrraedd y brig eleni mae: Tomos Arfon, 3A*s; Jake Jones A*AAC; Russell Wingfield A*AA a B mewn AS Mathemateg Ychwanegol. Cafwyd graddau uchel iawn ar draws eu pynciau gan y disgyblion canlynol hefyd: Angharad Jones-Young, Charlotte Wright, Peri Smith, Lowri Jones, Leusa Ellis a Meirion Layton. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt.
Ymysg y lluniau mae Llun ein Prif Fachgen, Russell Wingfield sydd yn mynd ymlaen i astudio Peirianeg ym Mhrifysgol Leeds, a’n Dirprwy Prif Fachgen, Tomos Arfon fydd yn mynd ymlaen i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Birmingham. Dymunwn yn dda iddynt yn eu cyrsiau.
Mae heddiw yn ddiwrnod ar gyfer dathlu! Rydym ym hynod o falch o’n disgyblion a’u llwyddiant. Maent wedi gweithio yn galed dros y ddwy flynedd diwethaf er mwyn eu canlyniadau ac ar gyfer eu dyfodol. Hoffwn gymryd y cyfle ar ran yr ysgol a’i Llywodraethwyr i longyfarch y disgyblion a’u teuluoedd ar eu llwyddiannau. Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl staff am eu gwaith yn eu paratoi.
Dymunwn yn dda iawn i bob un o’r disgyblion ar gyfer y dyfodol. Edrychwn ymlaen at dracio eu llwyddiannau yn y Brifysgol, Addysg Bellach neu byd gwaith a gyrfaoedd i’r dyfodol.
Seremoni Ffeil Gynnydd Blwyddyn 13 2017:
Ar ddiwedd eu cyfnod ffurfiol yn Ysgol Dyffryn Conwy cynhaliwyd Seremoni Ffeil Gynnydd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 13 er mwyn dymuno yn dda iddynt yn eu arholiadau Lefel A a ffarwelio iddynt ar ddiwedd eu cyfnod yn Ysgol Dyffryn Conwy. Ein gwr gwadd yn ysod y seremoni oedd Mr Ifor Glyn Evans, cyn Bennaeth yr ysgol fuodd yn trafod y pwysigrwydd o fanteisio ar bob cyfle yn eu dyfodol. Cafodd y disgyblion hefyd eu cyfarch gan Miss Elan Davies, Pennaeth, gymerodd y cyfle i ddiolch yn benodol i'n prif disgyblion am y flwyddyn sydd wedi gweithredu yn arbennig fel tim gan arwain y Cyngor Ysgol, cynrychioli llais y disgyblion ar y Corff Llywodraethol ac eirioli ar ran yr ysgol a'i disgyblion mewn nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn: Prif Ferch, Leusa Ellis, Prif Fachgen, Russell Wingfield a'u Dirprwyon Lucy Brown a Tomos Arfon.
Cafodd y disgyblion eu cyfarch hefyd gan eu Pennaeth Blwyddyn balch iawn, Mrs Glenda Barlow oedd yn llawn canmoliaeth ohonynt. Diolchwyd i bawb fuodd yn rhan o'u profiadau yn yr ysgol a trefniadau y seremoni. Derbyniodd y disgyblion eu ffeiliau cynnydd gan Mr Evans a cafwyd eitemau cerddorol hyfryd gan ddisgyblion blwyddyn 11, Chloe Elliot a Ffion Cash. Ar ddiwedd y seremoni cawsom gyfle i fyfyrio, sgwrsio a hel atgofion dros lluniaeth ysgafn darparwyd gan Popty Pen Uchaf. Dymunwn yn dda iawn i'r holl ddisgyblion ar gyfer eu dyfodol ac edrychwn ymlaen at ddathlu efo nhw ar ddiwrnod eu canlyniadau ar yr 17eg o Awst.
Seremoni Ffeil Gynnydd a Prom Blwyddyn 11 2017:
Yn dilyn wythnosau o waith caled, roedd yn amser i flwyddyn 11 ddathlu a mwynhau noson yng nghwmni eu gilydd yn ystod y Seremoni Ffeil Gynnydd blynyddol yn neuadd yr ysgol, ac yna eu Prom yng Ngwesty yr Eryrod, Llanrwst. Roedd y disgyblion yn edrych yn fendigedig yn eu gwisgoedd crand a'u siwtiau ar gyfer y seremoni. Ymunodd aelodau o'u teuluoedd hefyd ar gyfer y seremoni i ddathlu diwedd eu llafur ar gyfer yr arholiadau TGAU a'u cyfnod o addysg statudol yn Ysgol Dyffryn Conwy. Yn siarad yn ystod y seremoni, dywedodd Miss Elan Davies fod y flwyddyn wedi gweithio yn hynod o galed, gan oresgyn nifer o heriau ar y ffordd, yn benderfynol o lwyddo i'w gorau. "Edrychwn ymlaen at fod efo nhw ar y 24ain o Awst pan fyddent yn derbyn ffwryth eu llafur yn eu canlyniadau TGAU. Edrychwn ymlaen hefyd at weld llawer ohonynt yn dychwelyd i'r 6ed dosbarth ym mis Medi. Beth bynnag fydd eu dyfodol tu hwnt i flwyddyn 11 - dymunwn pob llwyddiant a hapusrwydd iddynt."
Siaradwr gwadd y noson oedd Jess Kavanagh-Williams, aelod o sgwad Rygbi Merched Cymru. Rhannodd hanesion o'i llwyddant gan bwysleisio iddynt y pwysigrwydd o ddyfalbarhau a gwneud y mwyaf o bob cyfle. Cyflwynodd Jess pob disgybl efo'u ffeil cynnydd gan gael tynnu ei llun efo'r disgyblion yn eu tro. Soniodd Mrs Catrin Jones, Pennaeth Cynnydd blwyddyn 11 am eu balchder o'r disgyblion yn ystod y seremoni a cafwyd darlleniad gan Mrs Tesni Chaka a Mrs Anna Roberts. Roedd hefyd cyfle i ddiolch i'w tiwtoriaid a'r holl staff sydd wedi bod yn rhan o'u siwrne yn yr ysgol, yn enwedig yn ystod eu dwy flynedd TGAU. Ar derfym y seremoni aeth y disgyblion ar fws o'r ysgol i'r gwesty ar gyfer eu Prom. Roedd y gwesty wedi ei addurno yn arbennig ar eu cyfer a bu'r disgyblion yn mwynhau noson o fwyd, cwmni da, lluniau a dawnsio. Mae ein diolchiadau mawr i'r criw fuodd yn trefnu - Mrs Allsup, Mrs Algieri a Mrs Catrin Jones ac i'r holl staff ddaeth i gefnogi y noson. Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i westy yr Eryrod am gynnal ein prom unwaith eto. Roedd yn noson bendigedig - ffordd hyfryd o ffarwelio efo blwyddyn 11. Dymunwn pob lwc iddynt!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Diwrnod Robotaidd:
Ar ddiwedd y tymor cafodd criw o ddisgyblion o flwyddyn 7 ac 8 y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy Robotaidd. Thema y gweithdy oedd 'Y gofod' a llwyddodd y disgyblion i ddefnyddio adnoddau a meddalwedd i raglennu cerbyd i symud yn ystod y gweithdy. Trefnwyd y dydd gan Mr Carl Thatcher o'r adran Ffiseg. Roedd y disgyblion wedi dangos diddordeb yn y maes yn ystod eu gwersi ffiseg a/neu TGCh. Bydd timau o ddisgyblion o'r gweithdy yn cymryd rhan mewn prosiect yn ystod tymor yr Hydref 2017. Edrychwn ymlaen i glywed mwy am y prosiect cyffroes hyn!
Ysgol Dyffryn Conwy – Ysgol Arloesi ar gyfer Cwrciwlwm Newydd Cymru 2018-2021:
Mae gwaith yr ysgol fel un o’r Ysgolion Arloesi ar gyfer Cam 2 o’r cynllun cenedlaethol ar gyfer cwricwlwm newydd i Gymru – ‘Dyfodol Llwyddiannus’ - wedi dod i ben bellach. Buom yn cyfrannu drwy gyfarfodydd misol i’r Maes Dysgu a Profiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu gan rhannu ein profiadau fel ysgol dwyieithog efo ysgolion eraill y Maes Dysgu a Profiad. Mae’r Pennaeth, Miss Elan Davies hefyd wedi cael y briff o Cadeirio y Maes Dysgu a Profiad ar ran GWE.
Rydym hefyd wedi cyflwyno ein gwaith i ysgolion ar draws rhanbarth GWE mewn sawl cyfarfod rhannu. Byddwn yn symud ymlaen i Gam 3 ym mis Medi gan parhau i fod yn ran o gynllunio y fframwaith ar gyfer addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; yn parhau i ymchwilio i ragoriaeth yn y maes; ac yn arbrofi efo strategaethau dysgu ac addysgu ar lawr dosbarth.
Gallwch ddarllen mwy am lle mae’r gwaith o gynllunio y cwricwlwm wedi cyrraedd.
Cwricwlwm i Gymru / Cylchlythyr Gorffennaf 2016 Rhifyn: 07
Blwyddyn 10 – Wythnos profiadau byd gwaith a chyflogaeth
Ffocws wythnos blwyddyn 10 oedd profiadau byd gwaith a chafwyd amrediad eang o weithgareddau er mwyn eu paratoi ar gyfer y dyfodol. Cafwyd gweithdy Sgiliau Byd Gwaith gan y cwmni Learning Performance; Trefnwyd siaradwyr gwadd mewn meysydd gwahanol gyda Phrifysgol Glyndwr a Phrifysgol Abertawe gan drafod gyrfaoedd mewn Peirianneg, Meddygaeth, Dylunio, Busnes a’r Celfyddydau. Braf iawn oedd cael croesawu Siop Trin Gwallt a Harddwch lleol, Tsunami i wneud gweithdy arbennig gwallt a cholur gyda disgyblion hynny oedd â diddordeb yn y maes harddwch. Trefnwyd bod criw o ddisgyblion oedd â diddordeb yn y byd Amaeth yn ymweld â fferm leol Llwyn Goronwy i gael gweld yr adnoddau a chael mwy o wybodaeth ynglyn â’r diwydiant. Braf iawn oedd gwahodd yn ôl gweithdai Syniadau Mawr Cymru gyda’r Cwmni Siwgr a Sbeis ac Islwyn Jones o Hebogiaeth Pen Y Bryn i drafod byd busnes gyda’r disgyblion. Cafodd y disgyblion hefyd weithdy “Life Skills” gan gwmni Barclays oedd yn canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol yn y byd gwaith.
Bu’r disgyblion hefyd ar drip i’r cwmni Patchwork Pate a Chanolfan Fusnes y Rhyl i ddadansoddi a chael blas ar fyd busnes ymhellach. Ar ddydd Gwener yr wythnos cafodd y disgyblion gyfle i greu busnes eu hunain gan wneud ymchwil farchnad, logo a chynnyrch ei hunain a chyflwyno eu cynnyrch drwy gystadleuaeth ‘Dragon’s Den’ ar ddiwedd y dydd.
“Mi wnes i fwynhau gweithdy Celfyddydau gyda Huw Garmon. Carom ni lu o weithgareddau gwahanol a chyfle i weld enghraifft o waith prifysgol.” Siwan, blwyddyn 10.
“Uchafbwynt yr wythnos imi oedd cyflwyniad gan Islwyn Jones o Heogiaid Pen Y Bryn. Roeddwn yn meddwl fod ei gyflwyniad yn ddiddorol ac mi wnes i ddysgu llawer.” Cai, blwyddyn 10.
“Fy hoff weithdy yn ystod yr wythnos oedd gweithdy gan Brifysgol Abertawe ynglyn â’r byd Meddygaeth. Roedd yn rhoi blas o’r hyn oedd yn cael ei gynnig i ni a chyflwynwyd llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol.” Elliw , blwyddyn 10.
Bu pawb yn rhan o’r daith gerdded noddedig o amgylch coedwig Gwydir sydd yn 7 milltir o hyd gan fwyhau'r haul a’r awyr iach.
Wythnos Gweithgareddau Blwyddyn 8 a 9:
Blwyddyn 8
Bu disgyblion blwyddyn 8 yn treulio diwrnod yn Nant Bwlch Yr Haearn yn gwneud gweithgareddau amrywiol gan gynnwys cyfeiriannu, cwrs rhaffau a ceunantio. Cafwyd hefyd gweithgareddau STEM a datrys problemau. Bu disgyblion hefyd yn creu rhaglen ddogfen eu hunain gan ymchwilio, sgriptio, ffilmio a golygu. Mae enghreifftiau o’u gwaith i’w weld ar wefan yr ysgol. Aeth y disgyblion ar drip i ymweld ag ardal Penmachno a Llanberis lle ymwelwyd â Thy mawr Wybrnant a’r Amgueddfa lechi yn Llanberis.
Blwyddyn 9
Cafodd disgyblion blwyddyn 9 gyflwyniad theatr ‘Choose Life.’ Bu pawb yn ymwneud a gweithdai “Talk the Talk” gyda’r adran Saesneg, “Mi wnes i fwynhau'r gweithdai yn fawr gan ddysgu llawer am sut i fod yn fwy hyderus wrth siarad yn gyhoeddus.” (Elgan, blwyddyn 9.)
Braf oedd cael dychwelyd i gartref Hedd Wyn yn Nhryweryn eleni ar ôl iddo gael ei adnewyddu a chael blas ar fywyd y bardd a hanes y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r adran Hanes. Bu disgyblion blwyddyn 9 hefyd yn cael profiad o sgïo ym Mhlas Y Brenin gyda hyfforddwyr o Glwb Sgïo Gogledd Cymru.
Bu pawb yn rhan o’r daith gerdded noddedig o amgylch coedwig Gwydir sydd yn 7 milltir o hyd gan fwyhau'r haul a’r awyr iach. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi noddi ein disgyblion.
Braf iawn oedd gweld disgyblion o’r chweched dosbarth yn cefnogi'r gweithgareddau ac yn bydi’s i’r disgyblion iau yn ystod yr wythnos. Bu’r wythnos yn gofiadwy a phrysur i bawb a hoffem ddiolch i’r holl siaradwyr gwadd a busnesau a chynorthwyo ni gyda’r gwaith eleni. Diolch yn fawr iawn hefyd i bawb fuodd yn ran o’r trefniadau yn enwedig Miss Japheth, Mrs Allsup a Mrs Algieri fuodd ynghlwm a’r trefniadau i bawb, ac i’r holl staff fuodd yn cymryd rhan.
Wythnos Weithgareddau Ysgol Dyffryn Conwy
Cafodd disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy wledd o brofiadau amrywiol yn ystod wythnos weithgareddau ym mis Gorffennaf eleni. Dyma ychydig o’r hanes.
Blwyddyn 7
Bu disgyblion blwyddyn 7 yn derbyn cyflwyniadau cofiadwy gan nifer o asiantaethau allanol gan gynnwys y gwasanaeth tan, diogelwch ar y ffordd a gofalwyr ifanc.
Cafodd y disgyblion ddiwrnod o brofiadau chwaraeon oedd yn cynnwys tennis, beicio a dawnsio a braf oedd cael gweld cyn disgyblion yn dod yn ôl i gefnogi'r gweithgareddau. Bu disgyblion ar drip i’r Bala gyda’r adran Ddyniaethau gan ymweld â Byd Mari Jones a Llyn Brennig a gwneud helfa drysor o amgylch y Bala. Cafwyd hefyd cylchdro o weithgareddau ABCh gan gynnwys perfformiad theatr “Mirror Mirror” a gweithdy ymlacio,ysgrifennu creadigol, bwyta yn iawn a hunan ddelwedd. Dyma oedd gan rhai o ddisgyblion blwyddyn 7 i ddweud am yr wythnos;
“Roeddwn yn hoffi gweithgareddau Hunan ddelwedd dydd Gwener.”
“Fy uchafbwynt oedd y daith gerdded dydd Mercher a chael Disgo ar y cae yn y prynhawn.”
Bu pawb yn rhan o’r daith gerdded noddedig o amgylch coedwig Gwydir sydd yn 7 milltir o hyd gan fwyhau'r haul a’r awyr iach.
Braf iawn oedd gweld disgyblion o’r chweched dosbarth yn cefnogi'r gweithgareddau ac yn bydi’s i’r disgyblion iau yn ystod yr wythnos. Bu’r wythnos yn gofiadwy a phrysur i bawb a hoffem ddiolch i’r holl siaradwyr gwadd a busnesau a chynorthwyo ni gyda’r gwaith eleni.
Disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn cael eu ysbrydoli drwy ymweliad i CERN:
Cafodd criw o ddisgyblion o’r ysgol eu hysbrydoli ar ymweliad diweddar i CERN, cartref yr Hadron Collider Mawr (LHC). Yn ystod eu ymweliad ar y 15/7/17 mi wnaethant ddarganfod sut mae CERN yn helpu i ateb rhai o gwestiynau sylfaenol fel sut gychwynodd y Bydysawd? Beth yw rhannau sylfaenol mater? Oes unrhyw dimensiynau allan yna?
Dywedodd Carl Thatcher, athro ffiseg o’r ysgol: “Nod y daith oedd i ysbrydoli disgyblion i astudio ffiseg ac i godi eu ymwybyddiaeth am ffiseg yn y byd go iawn a’r byd gwaith. Mi roedd hefyd i brofi bod ffiseg hefyd yn faes ar gyfer merched a bechgyn nid yn faes i fechgyn yn unig. Fel rhan o’r daith ymwelodd y disgyblion a Bern a rhai adeiladau adnabyddus fel ty Albert Einstein, un o ffisegwyr mwyaf adnabyddus y byd lle bu’n byw tra yn gweitho er ei fformiwlau. Aethant hefyd i ymweld ag Amgueddfa Eintein.
Dywedodd un o’r disgyblion, Rosy Pearson, sydd yn bwriadu astudio y pwnc fel AS/A2 ym mis Medi ei bod hi, “wedi ei gwirioni efo’r cyfle i ymweld a CERN ac wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at y daith. Mi roedd yn daith arbennig, un sydd wedi fy ysbrydoli i feddwl am gwneud blwyddyn yn y Swisdir fel rhan o’u gradd ieithoedd yn y dyfodol er mwyn manteisio ar aml-ieithrwydd y wlad, a gobeithio cael cyfle i weithio yn CERN ei hun!
Cafodd y daith ei arwain gan aelodau o gymuned CERN wnaeth rhannu eu profiadau personol o weithio i CERN ac am eu cyfraniadau unigol i’r gwaith ymchwil sydd yn digwydd yno. Dywedodd Prif Weithedwr, CERN, Dr Brian Bosher fod maint y gwyddoniaeth a’r dechnoleg yn CERN yn syfrdanol a bod profi y lle yn uniongyrchol drwy ymweld a cyfarfod y staff yn modd pwerus iawn o ddylanwadu ar ein pobl ifanc.
Diolch yn fawr iawn i’r staff aeth ar y daith efo’r disgyblion: Miss Hannah Jones, Mr Penri Jones ac i drefnydd y daith Mr Carl Thatcher. Cyfle gwych a byth-gofiadwy i’r disgyblion!
Cyngerdd Diwedd Tymor yng Nghapel Seion, Llanrwst
Ar nos Fawrth y 18fed o Orffennaf cawsom gyfle gwych i wrando ar dalent disgyblion cerddorol Ysgol Dyffryn Conwy yn ystod cyngerdd arbennig diwedd tymor yng Nghapel Seion, Llanrwst. Diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth i'n cefnogi - bydd y casgliad yn mynd tuag at apel Ambiwlans Awyr ac i gefnogi gweithgareddau yr Adran Gerdd. Ymysg rheini oedd yn cymryd rhan cafwyd eitemau o'r Eisteddfod Ysgol diweddar megis Ensemble Geirionydd o Medli Disney wedi ei drefnu gan Cadi Edwards. Cawsom gyfle i wrando ar y parti merched a’r parti bechgyn iawn, gan gynnwys perfformiad ar y cyd o’n ‘anthem’ y tymor hon sef ‘Ty ar y Mynydd’ gan Maharishi. Cawsom ein dyddanu hefyd can y triawd talentog, Modlen, Angharad ac Elliw yn perfformio y gân ‘Angylion’. Cawsom hefyd rhagflas o ffrwyth llafur y Cor Ieuenctid fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst - dymuniadau gorau i'r côr! Cafwyd nifer o eitemau offerynol fel unawd Bariton Lily, a Grwp Telynau o ferched blwyddyn 7. Cafwyd llawer o unigolion yn canu hefyd – diolch yn fawr iawn i Erin, Afan, Beca, Cari, Awel a Gwion am eu perfformiadau pwerus. Bu deuawdau hefyd – diolch yn fawr i Lliwen a Lea ac i Gwern ac Aron. Gwledd o berfformiadau – diolch yn fawr iawn i chi gyd, ac yn enwedig i’r Adran Gerdd a’u cymdogion am eu holl gwaith paratoi, ymarfer, ac arwain ar y noson!
GWOBR CELF IORWERTH JONES
Er cof am/In Memory of Iorwerth 1970-2006
Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod y wobr eleni wedi ei wobrwyo i Lleucu Howatson, am ei hastudiaethau paentiedig ffigurol o anifeiliaid fferm, ac i Elin Cawley, a gynhyrchodd gyfres o astudiaethau agos o gathod! Llongyfarchiadau i Lleucu ac Elin, a diolch o galon i deulu Iorwerth am eu caredigrwydd.
Dyma ychydig o hanes Iorwerth:
‘Roedd Iorwerth yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy o 1981 -87. ‘ Roedd wedi dangos bod ganddo dalent arbennig mewn Celf a Ffotograffiaeth, a chafodd gymaint o fwynhad o’i gyrsiau, fel y penderfynodd ddilyn cwrs mewn Cyfryngau Clywedol a Gweledol yn Wrecsam. Rhoddodd y cwrs hwnnw sylfaen dda iddo fynd ymlaen i wneud HND mewn Ffilm, Ffotograffiaeth a theledu yng Ngholeg Celf Plymouth.
Ar ol cwblhau ei gwrs, cafodd gyfle i gyfarwyddo Ffilm ddu a gwyn, sef ‘Efelychiad’, a chafodd y ffilm ei dangos ar S4C. ,gyda llawer o ganmoliaeth. Arweiniodd llwyddiant y ffilm gyntaf hon i gomisiwn gan S4C i gynhyrchu ail ffilm, sef ‘Er Cof’. Bu ymateb ardderchog i’r ffilm hon pan y darlledwyd ar S4C; rhoddodd hyn hwb arbennig i Iorweth, ac arweiniodd y llwyddiant at yrfa liwgar a llwyddiannus yn y Diwydiant Ffilm a Theledu. ‘Roedd ei waith i S4C yn ei alluogi i deithio dros y byd, a chafodd gyfleon i weithio ar brosiectau niferus ac amrywiol dros y blynyddoedd.
‘Roedd Celf yn ganolig i fywyd Iorwerth, ac felly penderfynodd ei deulu ei bod yn briodol iawn cyflwyno gwobr flynyddol i ddisgybl o Adran Gelf Ysgol Dyffryn Conwy, lle cychwynnodd Iorwerth ar ei Siwrne Gelfyddydol.
‘Rydym yn hynod ddiolchgar i deulu Iorwerth am gyflwyno tlws er cof amdano, ac hefyd am wobr hael i ddisgybl neu ddisgyblion sydd wedi ymddangos gwir ymrwymiad i’w gwaith, a sydd wedi cynhyrchu gwaith o’r safon uchaf.
Gwion Roberts, Bl. 12 – Hyfforddwr Sboncen Ifanc Talentog!
Un o’n disgybl-hyfforddwyr penigamp yn ystod y gweithgareddau amlgamp oedd Gwion Roberts, disgybl blwyddyn 12 talentog iawn sydd wedi cael ei enwi fel hyfforddwr sboncen ifanc cenedlaethol yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr i Gwion ar ei lwyddiant, nid yn unig wrth chwarae sboncen ond hefyd wrth hyfforddi eraill yn y maes – dipyn o gamp! Diolch yn fawr iddo am ei gyfraniadau i’r diwrnodau amlgamp – braf iawn cael pencampwr fel Gwion yn ein mysg!
Twrnament Rygbi ac Amlgamp blwyddyn 5 a 6:
Cafwyd diwrnodau eraill cyffroes yng nghwmi blwyddyn 5 a 6 ysgolion ein dalglch yn ddiweddar pan gynhaliwyd Twrnament Rygbi a deuddydd o weithgareddau amlgamp fel rhan o Her Menter blwyddyn 10. Cafodd y disgyblion gyfle i gystadlu, i gydweithio ac i gael eu hyfforddi gan disgyblion hyn yr ysgol, aelodau yr Adran Addysg Gorfforol, ein Swyddog Rygbi, Mr Kevin Thomas ac ymarferwyr chwaraeon eraill. Roedd swn, bwrlwm a llwyddiant yn ran mawr o’r 3 diwrnod a diolch byth, llwyddodd y tywydd i gadw eithaf sych ar ein cyfer! Diolch i bawb fuodd yn ran o’r gweithgareddau, yn enwedig i staff yr Adran Addysg Gorfforol am eu holl trefniadau!
Diwrnodau Blasu Blwyddyn 6:
Wythnos diwethaf cawsom y fraint o groesawu blwyddyn 7 Medi 2017 atym ar gyfer dau ddiwrnod blasu. Yn ystod y dau ddiwrnod buodd y disgyblion yn cyfarfod eu tiwtoriaid newydd ar gyfer Medi 2017, cyfarfod ffrindiau newydd, ymgyfarwyddo a safle yr ysgol a trefn amser cinio, profi eu taith i’r ysgol a blasu rhai o’r gwersi fydd ar eu amserlenni newydd o Fedi 2017. Cawsom deuddydd bendigedig yn eu cwmni yn dechrau dod i adnabod disgyblion mwyaf newydd Ysgol Dyffryn Conwy. Yn ystod y dau ddiwrnod buont yn blasu gwersi: Cymraeg, Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Addysg Gorfforol, Drama a gweithdai Technoleg. Roedd cyfle hefyd ar y nos Fawrth i’r disgyblion a’u rhieni ymweld a’r ysgol er mwyn cael gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer Medi. Roedd yn braf iawn eu gweld a’u cyfarch nhw i gyd. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu croesawu i gymuned ysgol Dyffryn Conwy yn llawn ym mis Medi! Diolch yn fawr i bob un ohonynt am eu cwmni, i’r ysgolion Cynradd a rhieni am eu cefnogaeth ac i’r aelodau o staff fuodd ynghlwm yn y gweithgareddau. Dymunwn Haf braf i bob un ohonynt!
Bardd Ifanc:
Llongyfarchiadau mawr i Evan Burgess o flwyddyn 7 sydd wedi ennill y 3ydd wobr 11-15 oed am ei gerdd ‘Why?’ yng nghystadleuaeth ‘Turn Up the Volume poetry challenge’ ar safwe Young Poets Network. Gallwch ddarllen cerdd gwych, Evan drwy y linc canlynol: ypn.poetrysociety.org.uk
Profion Cenedlaethol Rhifedd a Llythrennedd Haf 2017:
Y linc at animeiddiad am y profion cenedlaethol Llythrennedd a Rhifedd fydd yn cael eu cyhoeddi diwedd tymor yr Haf 2017: Darllennwch yma
Y diweddaraf am adrodd i rieni ar llythrennedd a rhifedd: Darllennwch yma
Canllaw i Rieni am y cwricwlwm a trefniadau asesu 11-14: cliciwch yma (Saesneg yn unig)
EISTEDDFOD GADEIRIOL YSGOL DYFFRYN CONWY:
Ar ddydd Llun y 3ydd o Orffennaf cynhaliwyd EISTEDDFOD GADEIRIOL YSGOL DYFFRYN CONWY 2017. Roedd y dydd yn wledd o liw a talent gan gynnwys perfformiadau unigol a torfol ym maes dawns, canu, offerynnol, llefaru; ynghyd a cystadlu rhwng staff yn y meim athrawon; cystadleuaeth newydd ‘Trin Gwallt a Harddwch’ blwyddyn 10 ac uwch; Corau o bob ty; ac eitemau grwp fel y sgetch a ‘stori a sain’. Cynhaliwyd hefyd seremoni gadeirio ar gyfer y Gadair, y Goron, y Fedal Ddram a’r fedal Cyfansoddi, a cafwyd teulyngdod ym mhob un. Ar ddiwedd y dydd hwyliog cyhoeddwyd fod Geirionydd wedi ennill efo Gwydir yn ail, Hiraethog yn 3ydd a Crafnant yn y 4ydd safle. Diolch i’r holl staff a’r disgyblion am eu ymrwymiad i’r dydd a’u parodrwydd i gyfrannu a chefnogi. Diolch yn fawr iawn i Miss Andrea Parry am drefnu y diwrnod; i’n beirniaid – Mr Dilwyn Price, Miss Erin Rossington, Miss Angharad Jones-Young a Mr Rhodri Sion am ein cefnogi ar y diwrnod ac am eu adborth calonogol i’r holl gystadlu. Diolch yn fawr iawn hefyd i’n noddwyr hael am y tariannau yn y prif eitemau yn cynnwys y Cwpan terfynol, Cwpan y Parti Llefaru, gwobrau 1af dros y gwahanol categoriau. Braf iawn oedd fod ymhlith talent Ysgol Dyffryn Conwy dros y dydd.
I weld adroddiad 'A oes Heddwch?' - cliciwch yma
Tudalen Eisteddfod - cliciwch yma
Bwletin Rhifedd Gorffennaf 2017 - cliciwch yma
Bwletin Llythrennedd Mehefin 2017 - cliciwch yma
Pencampwyr Cwis Daearyddiaeth Prifysgol Bangor:
Llongyfarchiadau mawr i’r ddau dîm o flwyddyn 9 a fu yn cystadlu yng nghystadleuaeth Daearyddiaeth Cymru, ‘WelshWise’ ym Mhrifysgol Bangor ar y 29ain o Fehefin. Ennillodd y criw y wobr gyntaf – a’r ail wobr, gyda tîm YDC1 ar 70 o farciau (2ail Safle) a tîm YDC2 ar 75 o farciau (Safle Gyntaf). Roedd 8 tîm o ysgolion y Gogledd yn cystadlu. Rydym yn falch iawn o lwyddiant y criw. Bydd y tariant yn cael ei gadw am y flwyddyn nesaf gan yr ysgol. Diolch yn fawr iawn i Mr Carwyn Williams, Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth am drefnu y weithgaredd ac i Mr Kevin Thomas am ddreifio y bws mini.
Llongyfarchiadau mawr I’r Cyngor-Eco ar ennill y Faner Werdd Eco-Ysgolion:
Mae’r Cyngor Eco, dan arweiniad Mrs Anna Roberts wedi bod yn brysur iawn eleni yn eu ymgyrchoedd o amgylch yr ysgol gan gynnwys eu ymgyrch casglu sbwriel diweddar. Mae eu gwaith wedi arwain at nifer o welliannau a lleihad yn y sbwriel o amgylch safle yr ysgol a thu hwnt. Mae llwyddiant eu gwaith bellach wedi cael ei gydnabod yn ystod ymweliad diweddar gan Catrin Hughes, o ymgyrch ‘Cadw Cymru’n Daclus’ i asesu cynnydd yr ysgol tuag at y Wobr Faner Werdd. Roedd canmoliaeth i waith y criw a llwyddiant eu ymgyrchoedd yn ystod yr ymweliad a rydym bellach wedi derbyn y Wobr yn swyddogol! Da iawn chi! Byddwn yn parhau i weithio ar y cynllun ac ymateb i’r argymhellion cyn ein ymweliad nesaf mewn dwy flynedd.
Ysgol Dyffryn Conwy Yn Ennill Gwobr Ryngwladol - cliciwch yma
Llwyddiant yn Eisteddfod Gadeiriol Llanrwst: | ||
Bu disgyblion o 7 Garmon a Pandy yn cystadlu yn Eisteddfod Gadeiriol Llanrwst yn ddiweddar. Ysgrifennodd y disgyblion cerddi ar y testun 'Storm'. Llwyddodd Eben Davies i ennill y wobr gyntaf am ei gerdd. Cafodd Owain Williams ail safle a Ffion Phillips y 3ydd wobr. Llongyfarchiadau mawr i'r 3 ac i ymdrechion yr holl ddisgyblion. |
Tim Marchogaeth - llwyddiannau yn Swydd Henffordd
Fe aeth dau aelod or clwb i Kings Bromyard yn Swydd Henffordd dros y penwythnos (18/6/17), i gystadlu. Daeth Eben Davies yn 3ydd hefo ei geffyl Ben yn y gystadleuaeth 75cm, mi fydd o yn cael mynd ymlaen i gystadlu ym mhencampwriaeth y blat yn Keysoe, hefyd mae yn cael cynrychioli tim neidio ysgolion Cymru yn Addington Manor. Fu Twm Cernyw yn cystadlu yn y gystadleuaeth neidio 85cm ac fe fu'n llwyddianus fe enillodd o y gystadleuaeth hefo'i geffyl George ac yn 4yd hefo'i geffyl Billy. Mae o wedi sicrhau fod y ddau geffyl yn cael cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yn Addington Manor ac hefyd Billy yn cael mynd i Keysoe. Llongyfarchiadau mawr i'r ddau - canlyniadau arbennig!
Eco Ysgol | ||
Fel rhan i ymgyrch Cyngor Eco Ysgol Dyffryn Conwy i leihau ysbwriel o amgylch y safle ac o amgylch Llanrwst bu’r disgyblion yn casglu ysbwriel ar Ddydd Mawrth y 6ed o Fehefin. Bu’r tîm o ddisgyblion ac athrawon yn brysur yn ystod y prynhawn yn casglu ysbwriel ar hyd safle’r ysgol ac ar hyd Ffordd Nebo. Braf iawn oedd cael dweud bod llai o sbwriel wedi ei gasglu y tro hwn nac a bu yn y gorffennol sydd yn ganolog i ymgyrch y Cyngor Eco. Diolch i’r gymdeithas a gweddill disgyblion a staff yr ysgol am ein cefnogi. |
Cystadleuaeth Ddringo Ysgolion CONWY a GOGLEDD CYMRU:
Bu disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn cystadlu mewn gŵyl ddringo yn Ysgol Gogarth yn ddiweddar. Roedd pedwar tîm brwdfrydig o’r ysgol yn cymryd rhan – roedd eu mwynhad yn amlwg! Dyma ddisgrifiad o’i phrofiadau gan Elea Chennell (Blwyddyn 7).
Pan dderbynion ni'r llythyr am y gystadleuaeth ddringo roeddem yn anghredadwy ac yn hapus iawn!
Yr wythnos ganlynol roeddem ar fws mini yn teithio i Ysgol y Gogarth i gynrychioli ein hysgol a chystadlu yn erbyn ysgolion eraill o Gonwy.
O’r diwedd, cyrhaeddodd y bws Ysgol y Gogarth. Wrth i ni gerdded drwy'r coridorau croesawgar, gwelsom y wal ddringo liwgar a nifer o bobol yn ei ddringo. Roeddem yn gwybod ei fod am fod yn bnawn arbennig!
Yn dilyn gwisgo ein sgidiau ddringo pwrpasol, a sicrhau fod yr harnesau yn ddiogel – i ffwrdd a ni, yn dringo a dringo i’r uchelder dro ar ôl tro. Roedd hi’n braf iawn byrlymu i fyny'r waliau ac yn deimlad gwych wrth gyrraedd yr uchafbwyntiau. Ond wrth i’r amser a’r dringo mynd heibio daeth blinder, a phopeth yn anodd wedyn. Ond nid oedd hynny yn ddigon i’n stopio rhag ymdrechu eto ac eto.
Yna daeth terfyn ar ein hamser ar y wal ddringo. Roeddem yn barod am ‘frêc’ yn dilyn yr holl flinder corfforol. Roedd y bechgyn hyn wedi llwyddo i ddringo pob llwybr, a rhyngddyn, llwyddodd ein tîm ni, y tîm merched iau, i ymdrechu i ddringo'r mwyafrif helaeth ohonynt.
Ychydig o ddiwrnodau yn ddiweddarach cawsom newyddion arbennig – newyddion da. Roedd Ysgol Dyffryn Conwy wedi ennill y gystadleuaeth yng Nghonwy a byddai rhai ohonom yn mynd ymlaen i gynrychioli Conwy yn y rownd nesaf.
Dyma hanes y rownd derfynol lle ymunodd ein tîm bechgyn hyn a merched iau efo timau o 2 ysgol arall ar Ynys Môn. Roedd y rownd nesaf yn mynd i fod yn fwy heriol na’r cyntaf.
Y tro yma roeddem yn dringo tu allan yn hytrach nag ar wal ddringo – dipyn mwy o her. Roedd mwy o ryddid gennym yn y dringo a phroblemau wedi eu graddio o 4a i 7a (y mwyaf heriol!). Roeddem yn cystadlu yn erbyn disgyblion o Ynys Môn a De Gwynedd. Cawsom 3 cyfle ar bob her – 20 o heriau dros y cyfan. Unwaith eto roedd yn flinedig a heriol. Mi wnaethon ni fwynhau yn fawr er mae ni oedd y 4ydd tro hyn.
LLWYDDIANT YN EISTEDDFOD PEN Y BONT A’R OGWR:
Llongyfarchiadau i bawb fuodd yn cystadlu yn yr Eisteddfod dros hanner tymor. Bu llwyddiant mawr i’r canlynol ar y llwyfan:
Christopher Sabisky, blwyddyn 7 – gafodd 2ail n yr Unawd Chwythbrennau i flwyddyn 7-9;
Modlen Alun, Blwyddyn 10 – ennillodd 3ydd yn yr Unawd Alaw Werin i flwyddyn 10 a than 19 oed, 1af yn yr unawd cerdd dant, a 3ydd yn yr Unawd allan o Sioe Gerdd Blwyddyn 10 a dan 19 oed.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i’r canlynol a fu yn llwyddiannus yn y cystadlaethau gwaith cartref a’r adran Gelf a Chrefft:
Cai Williams, 3ydd – Mwgwd neu Byped Bl. 7, 8 a 9
Mali Bleddyn Evans, 2ail – Print Monocrom Bl. 7, 8 a 9
Sion Pyrs Owen, 1af – Creu Arteffact Bl 7, 8 a 9
Cadi Gwyn Edwards, 1af a 3ydd – Cyfansoddi Cerddoriaeth Bl. 12 a 13
Diolchiadau i’r staff a rhieni fuodd yn eu cefnogi.
Rygbi Merched Blwyddyn 8/9
Llongyfarchiadau mawr i tim rygbi marched blwyddyn 8/9 a ennillodd y cystadleuaeth rygbi 7 bob ochr yr Urdd yn y Bala ddoe (7/6/17). Curodd y merched tim Brynhyfryd yn y rownd gynderfynol a Llanidloes yn y ffeinal. Diolch i Mr Kevin Thomas, Swyddog Rygbi yr Ysgol am drefnu y weithgaredd.
Diweddariad Llwyddiannau Rygbi Ysgol Dyffryn Conwy Haf 2017:
Llongyfarchiadau mawr i’r timau rugby ar eu llwyddiannau diweddar. Diolch yn fawr iawn i Mr Kevin Thomas, Swyddog Rygbi yr ysgol am eu hyfforddi, arwain ac am drefnu y cystadlu. Dyma grynodeb:
Ffeinal Cwpan Eryri Dan 18:
YDC 20/10 Ysgol Brynrefail
Ffeinal Cwpan Eryri Dan 13:
YDC 46/0 Ysgol Botwnnog
Ffeinal Cwpan Gogledd Cymru Dan 13
Ysgol Uwchradd Caereinion 12 - 38 YDC
Ceisiau Tal Taylor 2, Morgan Jones -2, Owain Morris -1, Deio Williams -1.
Trosiad Ilan Roberts -4.
Llongyfarchiadau i Fflur Williams
chwaraewraig pel droed penigamp! Mae Fflur wedi cael ei ddewis i'r Tîm Merched o dan 18 unwaith eto ym mis Mehefin. Mi fydd hi yn mynd i Gaerdydd i chwarae yn erbyn y tim Merched o dan 19 ! Mae hi yn aros hefo’r Tim Merched Cymru ac mynd i wylio'r y UEFA Women's Champions League Final! Da iawn Fflur – dymunwn bob llwyddiant i ti!
Noson Ddiogelwch ar y we
Hoffem eich hysbysu y bydd Noson ddiogelwch ar y we yn cael ei gynnal yn yr ysgol ar Nos Lun y 19eg o Fehefin o 18:00 ymlaen. Bydd croeso i rieni'r ysgol a rhieni cynradd y dalgylch ymuno a ni wrth i dîm troseddau seibr Gogledd Cymru gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar y rhyngrwyd. Croeso cynnes i bawb.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Eisteddfod Yr Urdd | |
Rydym fel ysgol yn hynod o falch unwaith eto eleni o gael dathlu llwyddiant ein holl ddisgyblion yn yr Urdd, cystadlaethau gwaith cartref yn ogystal â chystadlaethau llwyfan. |
Twrnament Rygbi yn Ffrainc | |
Bu bechgyn Ysgol Dyffryn Conwy dan 13 oed a dan 14 oed i Baris yn ystod gwyliau’r Pasg i chwarae yn nhwrnamaint Disneyland Paris. Cafwyd llwyddiant arbennig yno gyda ‘r tîm Dan 14 oed yn gorffen yn 3ydd yn y gystadleuaeth gwpan; enillodd y tîm dan 13 oed eu cystadleuaeth cwpan. Dewiswyd Siencyn Metcalfe fel Chwaraewr y Twrnamaint a dyfarnwyd tîm Ysgol Dyffryn Conwy fel tîm y twrnamaint. Yn eu gem olaf gurodd Dan 14 oed Clwb Rygbi Truro 17 i 5 a dod yn 3ydd yn y gystadleuaeth. Ceisiau gan Luke Roberts (2) a Carwyn Jones (1) a throsiad gan Siencyn Metcalfe. |
Cynllun Ysgrifennu Creadigol
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae dosbarth o ddisgyblion blwyddyn 7 wedi bod yn rhan o gynllun ar y cyd a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod y cynllun oedd i’r disgyblion a’u hathrawes Mrs Michelle Mosley o’r adran Saesneg ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol drwy gyfrwng y Saesneg. Ynghyd a datblygu eu sgiliau ysgrifennu aethpwyd ati hefyd i weithio ar ddatblygu ei sgiliau celf drwy ddod a’u straeon a cherddi yn fyw drwy ddarluniau amrywiol. Cafodd y disgyblion gyfres o ddeg gweithdy gyda’r ysgrifenwraig proffesiynol Heather Dyer a’r artist proffesiynol Alana Tyson. Ar ddiwedd y cynllun daeth y disgyblion a’u gwaith at ei gilydd ac fe gyhoeddwyd llyfryn o’u gwaith ‘Creative Kids of Y.D.C.”
I ddathlu llwyddiant y cynllun a holl waith y disgyblion cafwyd noson arbennig yn Neuadd yr ysgol ar Nos Lun y 15fed o Fai lle gwahoddwyd rhieni'r disgyblion hynny a fu yn rhan o’r cynllun i mewn i glywed yr hanes a chael blas ar gynnwys y llyfr a gwaith creadigol y disgyblion.
Dyma oedd gan rhai o ddisgyblion blwyddyn 7 i ddweud am y cynllun a’r profiad arbennig yma.
• “Mi rydw i wedi mwynhau cymryd rhan yn y cynllun ac rwyf wedi datblygu sgiliau newydd.”
• “Mi wnes i fwynhau cymryd rhan yn y cymllun wrth ini argraffu ein gwaith celf ein hunain a creu streon.”
• “Rwyf wedi mwynhau y cynllun yma yn fawr iawn, rwyf wedi dysgu gymaint amdanaf fy hun.”
THE CREATIVE KIDS YCD 1 cliciwch yma
THE CREATIVE KIDS YCD 2 cliciwch yma
THE CREATIVE KIDS YCD 3 cliciwch yma
THE CREATIVE KIDS YCD 4 cliciwch yma
I gael fwy o flas ar waith y disgyblion cliciwch yma
Cyflwyniad “Bin it”
Cafwyd perfformiad theatr o’r ddrama ‘Bin it’ i ddisgyblion blwyddyn 7 a 8 ar Ddydd Gwener y 12fed o Fai yn Neuadd yr ysgol. Roedd neges y perfformiad ynglyn ag ailgylchu a rhoi ein hysbwriel yn y bin yn glir ac yn cyd-fynd gydag ymgyrch Cyngor Eco'r ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf sef cadw Llanrwst yn daclus. Bydd disgyblion y Cyngor Eco a’r Cyngor Ysgol yn mynd ati i gasglu ysbwriel o amgylch Ffordd Nebo, Llanrwst ac o amgylch safle'r ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu a rhoi ysbwriel yn y bin. Mae’n bendant wedi bod o gymorth wrth godi ymwybyddiaeth a lleihau y sbwriel ar y cae amser cinio!
Gwybodaeth i Blwyddyn 11
Amserlen Arholiadau Ac Adolygu Bl 11 Haf 2017 - cliciwch yma
Llythyr Sesiynau Adolygu Blwyddyn 11 - cliciwch yma
Cwpan Ysgolion Cymru Dan 18
Dyddiad: 7/5/2017
Lleoliad: Stadiwm Park Hall, Y Seintiau Newydd, Croesolltwallt
Cafwyd llawer o gyffro ar ein daith i’r rownd derfynol o’r Cwpan Ysgolion Cymru eleni ac roedd rhai o’r disgyblion yn edrych ymalen at eu hail rownd derfynol yn y tair bynedd diwethaf, tra bod eraill yn flasu’r profiad am y tro cyntaf… I ddarllen mwy cliciwch yma (Cymraeg yn Unig).
Taith Sgio Pasg 2017: gan Nanw Grug
Adroddiad Sgïo Les Deux Alpes 2017
Buom yn edrych ymlaen at y trip sgïo I Ffrainc yn arw, ag roedd y cyffro’n cynnyddu wrth I’r dydd nesau. Roedd angen codi’n fuan bore dydd Gwener, Ebrill y 7fed I ddod I’r ysgol I fynd ar y bws. Cyrrheaddais I mewn I’r ysgol a gweld pawb gyda’u cêsys lachar, cafodd pob un eu llusgo I cefn y bws yn eu tro. Dyma’ daith yn dechrau. Pawb yn eistedd ar y bws yn llawn cyffro, am y daith hir.
Ar ôl cyrraedd y gwesty “Moutet Pied” wedi blino’n lân, rhoddwn ein cêsys mewn ystafell yn y gwesty. Roeddem yn cerrded o gwmpas y pentre fyddwn yn aros yn am y pump diwrnod nesaf yn edmygu’r golygfeydd hyfryd. I unryw gyfeiriad roeddwn yn edrych arno, roedd mynyddoedd uchel wedi’w gorchuddio mewn blanced wen o eira. Aethom ni I nôl ein gêr sgïo I ddefnyddio’r borau tranoeth. Cawsom swper blasus cyn mynd I ein llofftydd. Erbyn hyn roeddwn yn hydynoed fwy cyffroes I sgïo yn y bore.
Gadawom ein ystafell wedi newid tua 7:15 a dod I lawr grisiau I’r ystafell fwyta. Roedd bob math o ddewis yno, grawnfwyd, tost, bara siocled neu ffrwyth. Gyda bôl llawn, rhedais yn ôl I fynnu’r grisiau I wisgo’r ‘sallopettes’ mawr, ‘fleece’ pinc a fy nghot glas. Roeddwn yn hoff o’r lifft I fynd I’r mân sgïo; cylfe I ymlacio cyn dechrau’r sesiwn sgïo. Nancy oedd yn ein dysgu ni. Ar y diwrnod cyntaf, cefais llawer o hwyl yn disgyn I bob man, a blas ar be fydd I ddod.
Wedi blino, cerddais unwaith eto I lawr y grisiau am frecwast. Heddiw, roeddem yn cael mynd yn bellach ar yr eira, ar y “Magic carpet”. Roedd hyn yn llawer o hwyl, a sgïo yr holl ffordd I lawr. Heno, roedd bowlio deg wedi ei drefnu ini ar ôl cael spwer yn y gwesty.
Ar y trydydd diwrnod, roedd y blinder yn fy nharo. Ond cariais ymlaen. Yn y bore, roeddem a y “magic carpet” unwaith eto, ac yn y prynhawn roeddem yn gorfod sgïo I mewn ag allan trwy coniau plastig, a dod yn ôl I fynnu gyda rhaff y nein llusgo, gyda’r haul yn llachar, roeddem yn llosgi yn y gwres. Mi nos, aethom I’r arced a gwario llawer o newid sbar.
Y diwrnod olaf llawn o sgïo oedd y pedwerydd diwrnod. Felly heddiw aethom ar y llethr glas yn y pynhawn. Y diwrnod hwn oedd y gorau o bell ffordd, sgïo ar ochor y mynydd a edmygu’r golygfaedd. Roeddem yn mynd ar y “chair lifft” I gyrraedd y top. Ar y ffordd I lawr roedd yr awel yn chwythu’n gryf yn ein gwynebau. Erbyn diwedd y dydd, aethom ar y llethr yma tua 4 gwaith. Heno oedd y noson olaf, felly aethom ni allan I gael pitsa I swper. Roedd y pitsa’n flasus iawn. Mi wnes I gysgu’n dda y noson yma, wedi blino’n llwyr.
Ar y diwrnod olaf, roedd rhaid dychwelyd a’r gêr sgïo yn ôl I’r siop. Penderfynnais I a rhai o fy ffrindiau I aros ar ôl y bore hwn, I dacluso’r llofftydd a pacio’r cêsys. Erbyn hyn, roeddwn yn edrych ymlaen I fynd adre I weld fy nheulu a cael cysgu’n gwely fy hun, ond roedd yn siom gyrfod gadael Ffrainc. Ar ôl I bawb ddychwelyd o’r llethrau, fe wnaethom ni’r mwyaf o’r haul a mynd I dorheulo. Roedd y bws yn gadael tua pump o’r gloch y.h, ac roeddem adref y diwrnod wedyn tua tri o’r goch.
RAFFL WYAU PASG
Hoffem ddiolch yn fawr i Mrs Bassett am ei chyfraniad hael o wyau Pasg i’r ysgol yn ystod yr hanner tymor diwethaf. Cafodd disgyblion blwyddyn 7 profiad o fynd o amgylch staff a disgyblion yr ysgol yn gwerthu ticedi raffl ar gyfer y cyfle i ennill y wyau Pasg hyfryd yma. Diolch i’r haelioni cododd yr ysgol dros £200 tuag at gronfa'r ysgol. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gefnogi’r achos yma.
CYFANSODDWRAIG IFANC Y DYFFRYN : ENILLWR CAN I GYMRU 2017
Rydym yn hynod o falch fel ysgol o dalent ein disgyblion a chafwyd newyddion ardderchog nos Sadwrn y 11eg o Fawrth wrth i Cadi Gwyn Edwards, disgybl blwyddyn 12, ennill y gystadleuaeth Cân i Gymru 2017 gyda'i chan “Rhydd.”
Mae Cadi yn gerddorol tu hwnt ac wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers oedd hi’n ddeg oed. Mae’n feistr ar chwarae’r gitâr, piano ac wrth gwrs canu a braf oedd clywed am ei llwyddiant arbennig. Rydym yn dymuno gorau iddi ac yn sicr byddwn yn clywed mwy am y gyfansoddwraig dalentog yma i’r dyfodol.
Taith gwaith maes daearyddiaeth i Fanceinion
Aeth yr adran Ddaearyddiaeth a chriw TGAU blwyddyn 11 a lefel A ar ddiwrnod o waith maes trefol i Fanceinion ar dydd mawrth, Mawth 21ain. Aethom i ardal Salford Quays i ddechrau i gael gweld yr holl waith ail ddatblygu sydd wedi digwydd yno. Cawsom sgwrs gan weithiwr o’r ganolfan siopa y Lowry Outlet cyn mynd am dro i weld Media City a gwnud ychydig o waith mapio defnydd tir a brasfapio. Ar ol cinio blasus yn ardal y dociau, aethom i weld arddangosfa sut oedd y diwydinat cotwm a thecstiliau yn gweithio yn yr Amgueddfa Diwydiant a gwyddoniaeth – cawsom gyfle yma I grwydro o gwmpas y gwahanol arddangosfeydd diddorol am hanes y diwydiant yn y ddinas.
Yn y prynhawn, cerddasom i ganol y ddinas a chael gweld sut mae’r CBD wedi datblygu. Caswom gyfle i weld sut mae’r ganolfan Arndale yn ymateb i ddiwydiant busnes cyfoes. Cyn mynd adre aethom draw gyda’r bws i weld Stadiwm yr Etihad yn nwyrain y ddinas – cartref Manchester City cyn troi am adref. Cawsom ddiwrnod prysur a diddorol iawn a’r tywydd ffafriol yn bonws ini hefyd. Rydym yn gobeithio fod yr ymweliad wedi ein cynorthwyo i ddeall cyd-destun ddaearyddol trefol a gwahaol iawn i ardal wledig Dyffryn Conwy.
Taith Ymchwil i Hong Kong | |
Yn ystod mis Mawrth bu Miss Japheth bu yn cynrychioli’r ysgol gyda’r Cyngor Prydeinig lle y bu yn ymchwilio mewn i’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth o fewn yr ystafelloedd dosbarth. Cafodd y cyfle arbennig i fynd i ymweld â disgyblion ac ysgolion ar draws y ddinas a gweld eu defnydd o ipads a robotiaid o fewn yr ystafell ddosbarth. Dyma oedd gan Miss Japheth i ddweud am ei phrofiad. |
CYFANSODDWRAIG IFANC Y DYFFRYN : ENILLWR CAN I GYMRU 2017
Rydym yn hynod o falch fel ysgol o dalent ein disgyblion a chafwyd newyddion ardderchog nos Sadwrn y 11eg o Fawrth wrth i Cadi Gwyn Edwards, disgybl blwyddyn 12, ennill y gystadleuaeth Cân i Gymru 2017 gyda'i chan “Rhydd.”
Mae Cadi yn gerddorol tu hwnt ac wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers oedd hi’n ddeg oed. Mae’n feistr ar chwarae’r gitâr, piano ac wrth gwrs canu a braf oedd clywed am ei llwyddiant arbennig. Rydym yn dymuno gorau iddi ac yn sicr byddwn yn clywed mwy am y gyfansoddwraig dalentog yma i’r dyfodol.
Conwy a'r Rhyfel Mawr : "Y Rhwyg"
Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur yn ymchwilio a pharatoi cynhyrchiad drama yn seiliedig ar straeon o adran Dyffryn Conwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf., "Y Rhwyg." Bydd dau berfformiad yn cael ei gynnal o'r ddrama hon sydd wedi ei chynhyrchu gan Eilir Jones. Bydd cynhyrchiad yn Neuadd Ysgol Dyffryn Conwy ar nos Fercher y 5ed o Ebrill. Braf byddai cael eich cefnogaeth. Pob lwc i'r disgyblion a'r holl baratoi sydd yn digwydd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cwis Dydd Gwyl Dewi
Cyfle i ddisgyblion ennill gwobrau Cymreig drwy gystadlu yn ein Cwis Dydd Gwyl Dewi.
Dydd Gwyl Dewi | ||
Bu disgyblion a staff yr ysgol yn gwisgo lliwiau cymreig fel rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi eleni ar Fawrth y cyntaf gan gasglu dros £300 tuag at Ty Gobaith. Cafwyd cerddoriaeth Cymraeg yn y ffreutur wedi ei drefnu gan y Cyngor Ysgol yn ystod y dydd. |
Llwyddiant arbennig gyda Sgio!
Mae Scott disgybl o flwyddyn 7 wedi bod yn brysur iawn ers cychwyn y flwyddyn yn cystadlu mewn amryw o gystadleuaeth sgïo yng Nghymru a dros y cyfandir.
Ar yr 20fed o Ionawr trafaeliodd i’r Swistir, taith o 22 awr lle y bu am dridiau yn cymryd rhan hyfforddiant ar gyfer cystadlaethau amrywiol. Ar y 26ain o Ionawr bu yn cystadlu mewn ras Giant Slalom, cwrs 250 metr. Mi ddaeth yn 19eg yn y ras gydag amser o 1:22.18. Y diwrnod canlynol bu yn cystadlu mewn ras arall 240 metr o’r enw Stubby Slalom lle ddaeth yn 20fed yn y ras gydag amser o 39.29 munud. Bu hefyd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Clwb Gogledd Cymru a dod yn gyntaf.
Ar ddiwedd yr holl gystadlu cafwyd noson wobrwyo a bu Scott yn ffodus o gael tynnu ei lun gyda Richard Parks, un o gyn chwaraewyr rygbi Cymru ryngwladol ac sydd bellach yn llysgennad ar gyfer Sgïo yng Nghymru. Ar ddiwedd yr antur anhygoel hon mi gymrodd Scott 25 awr o deithio er mwyn cyrraedd yn ôl i Ogledd Cymru.
Mae Scott wedi ei gofrestru fel rasiwr ar gyfer Sgïo yng Nghymru ac sydd yn aelod o glwb sgïo Plas Y Brenin yng Nghapel Curig. Rydym yn hynod o falch o'i lwyddiant yn ystod y misoedd diwethaf ac yn sicr y byddwn yn cael fwy o hanes ei rasio i’r dyfodol. Pob dymuniad da i ti Scott.
Cyfansoddwraig Ifanc Y Dyffryn
Rydym yn hynod o falch fel ysgol o dalent ein disgyblion a chafwyd newyddion ardderchog wythnos diwethaf sef bod un o ddisgyblion blwyddyn 12, Cadi Gwyn Edwards a’i chan bop “Rhydd” wedi llwyddo i ddod i’r 10 olaf yng nghystadleuaeth Cân I Gymru 2017.
Mae Cadi yn gerddorol tu hwnt ac wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers oedd hi’n ddeg oed. Mae’n feistr ar chwarae’r gitâr, piano ac wrth gwrs canu. Mae ei chyfansoddiad diweddar, “Rhydd”, yn trafod trais o fewn perthynas ac eisiau torri’n rhydd o sefyllfa sy’n eich gwneud i chi deimlo’n gaeth. Mae yn bleser gwrando ar Cadi yn perfformio ei chaneuon sydd bob yn gwefreiddio'r gynulleidfa.
Yn ogystal ag astudio Cerddoriaeth, Ffrangeg, Saesneg, Cymraeg a’r Fagloriaeth Gymreig fel pynciau Lefel A mae Cadi yn brysur yn cefnogi gwahanol weithgareddau o fewn ei chymuned. Mae’n aelod brwd o Aelwyd Llangernyw ac yn aelod o Gôr Hyn yr Ysgol. Cafodd hefyd un o brif rannau ein Sioe Gerdd ddiweddar “Gris” wrth iddi berfformio rôl Rizzo yn ardderchog.
Bydd Cadi yn perfformio yn fyw o lwyfan ‘Can I Gymru' ar nos Sadwrn yr 11eg o Fawrth am 8:30 o’r gloch y nos, byddwn i gyd yn Ysgol Dyffryn Conwy yn ei chefnogi. Rydym yn gobeithio bydd y gan “Rhydd” yn eich plesio chithau hefyd ac y byddwch yn codi'r ffon ac yn bwrw eich pleidlais dros Cadi, y gyfansoddwraig dalentog o Ddyffryn Conwy. Pob dymuniad da i ti Cadi!
Cystadleuaeth Dringo Ysgolion:
Llongyfarchiadau mawr i'r timau brwdfrydig cymerodd rhan yn y cystadeuaeth dringo ysgolion cyntaf. Roedd y cystadlu yn frwd ond death y tim merched blwyddyn 7 ac 8 allan yn y safle gyntaf efo sgor uchel o 260 - ardderchog! Daeth merched blwyddyn 9-11 yn drydedd efo sgor o 153 - da iawn chi genod. Llwyddodd bechgyn blwyddyn 9-11 i ddod gyntaf efo 480 o farciau ac yn sgil llwyddiant bob un o'r timau death yr ysgol gyntaf ar draws y cystadlu efo sgor o 950. Diolch yn fawr i bawb gymerodd rhan a llongyfarchiadau i bob un ohonoch!
Cofio'r Holocost: ymweliad gan Arek Hersh:
Ar ddydd Mawrth y 31ain o Ionawr, yn dilyn diwrnod Cofio'r Holocost ar y 27ain o Ionawr cafodd disgyblion yr ysgol y fraint o wrando ar profiadau Arek Hersh sydd yn 88 ac yn wreiddiol o Wlad Pwyl. Llwyddodd i oroesi profiadau erchrydus mewn sawl camp yn ystod yr Holocost. Roedd disgyblion sydd yn astudio Hanes o flwyddyn 10 i 13 wedi eu syfrdanu wrth wrando arno yn son am ei brofiadau a death erchrydion yr Holocost yn fyw iddynt wrth iddynt wrando yn astud arno. Roedd yn bleser hefyd croesawu disgyblion a staff o Ysgol John Bright i'r digwyddiad byth gofiadwy hon. Roedd y neuadd yn orlawn. Diolchwn yn fawr iawn i Arek am ddod i rannu efo disgyblion a staff yr ysgol ac i Sharn Asbridge o'r Cymdeithas Cofio'r Holocost yn Llandudno am drefnu y digwyddiad efo Ms Beca Brychan, Pennaeth yr Adran Hanes.
Ysgol Dyffryn Conwy - un o YSGOLION ARLOESI NEWYDD ar gyfer Cwricwlwm y dyfodol:
Yn sgil y gwaith hyn a'n cydnabyddiaeth fel Ysgol Arweiniol ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn genedolaethol, rydym hefyd wedi cael ein adnabod yn ddiweddar fel un o'r 25 Ysgol Arloesi newydd ar gyfer y Cwricwlwm Newydd. Fel Ysgol Arloesi byddwn yn cydweithio efo ysgolion eraill yn Genedlaethol ac yn lleol drwy'r Rhwydwaith Arloesi i ddatblygu y Maes Dysgu a Phrofiad 'Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu'. Bydd hyn yn gyfle arbennig i'n staff, disgyblion a'n rhanddeiliad fod yn ran uniongyrchol o gynllunio a chyfrannu at y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Gallwch ddarganfod mwy am yr Ysgolion Arloesi a'r Cwricwlwm newydd o'r doleni canlynol yn cynnwys cyfraniad Ysgol Dyffryn Conwy fel Ysgol Arloesi Newydd ar BLOG 'Cwricwlwm i Gymru':
• http://learning.gov.wales/news/
• https://cwricwlwmigymru.llyw.cymru/
• http://learning.gov.wales/news/
Categoreiddio Ysgolion 2017:
Categoreiddio Ysgolion 2017: Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am berfformiad a Categorieddio yr ysgol ar gyfer 2017
Yn dilyn cyhoeddi Categoreiddio ysgolion 2017 ar y 31ain o Ionawr rydym yn falch iawn o'r cydnabyddiaeth sydd yno eleni o'n gallu fel ysgol i gynnal ein gwelliant, i godi safonau ac i ddatblygu ein hunain a cefnogi ysgolion eraill. Mae'r newid yn ein categoreiddio am ein capasiti i hunan wella o B i A yn cydnabod y gwaith sydd wedi digwydd dros amser i wella safonau, i ddatblygu dysgu ac addysgu ac ymateb i flaenoriaethau yr ysgol ar bob lefel. Rydym hefyd yn gweithredu fel ysgolion arweiniol ar iaith, llythrennedd a rhifedd ac mae'r newid hyn yn cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud efo ysgolion eraill ar draws rhanbarth GWE. Gallwch ddarllen mwy drwy'r ddolen uchod yn cynnwys canllaw i rieni am y broses Categoreiddio ysgolion.
Profion Cenedlaethol Rhifedd a Llythrennedd Haf 2017:
Gwybodaeth i rieni blwyddyn 7-9: Profion Cenedlaethol Rhifedd a Llythrennedd Haf 2017. Llythyr ac amserlen y profion. - cliciwch yma.
Cwpan Eryri dan 13:
Llongyfarchiadau mawr i'r tim rygbi dan 13 ennillodd yn eu gem diweddar ar gyfer Cwpan Eryri dan 13 yn erbyn Ysgol Friars. Ennillodd y bechgyn 37 i 10 gyda'r canlynol yn sgorio:
Ceisiau: Tal Taylor -4
Kyle Kelly -1
Morgan Mc Breeze -1
Cain Jones -1
Trosiad: Aron Davies -1
Da iawn chi fechgyn! Diolch yn fawr iawn i Mr Kevin Thomas, Swyddog Rygbi yr ysgol am eu hyfforddi a'u cefnogi i gystadlu.
Peldroedwyr Pen-i-gamp!
Llongyfarchiadau Mawr i Owain Jones a Sam Roberts fuodd yn chwarae peldroed yn erbyn Awstralia i dîm dan-18 Cymru yng Nghaerdydd ar y 19eg o Ionawr. Dyma oedd gan Sam i ddweud am ei brofiadau:
“Eleni rwyf wedi cael yr anrhydedd o chwarae i Gymru dan 18 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn TNS. Yn anffodus ni wnaethon ennill y gêm hynny fodd bynnag roedd yn brofiad arbennig o ddatblygu fel tîm. Rwyf hefyd wedi chwarae yn nhîm ysgolion Cymru dan 18 mewn gêm yn erby Awstralia. Ennillodd Cymru 7-4 tro hynny! Rwyf yn gobeithio cael fy newis ar gyfer gemau y ddau dîm i’r dyfodol ac i ennill Capp rhyngwladol am gynrychioli Cymru mewn gêm cystadleuol. Mae twrnament yn fuan ar gyfer tîm bechgyn ysgolion Cymru lle fyddent yn cystadlu yn erbyn Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Lloegr. Rwyf yn gobeithio yn fawr cael fy newis ar gyfer y twrnament yma gan y bydd yn brofiad arbennig ac yn gyfle i ddatblygu fy ngwybodaeth a’n sgiliau a deall dulliau newydd o chwarae. Sam Roberts, Blwyddyn 12
Pel Droed:
Llongyfarchiadau mawr i dîm Peldroed y 6ed dosbarth ennillodd eu gêm yn erbyn Syr Hugh Owen 7-2 pnawn dydd Iau 12/1/17. Sgoriodd - Sam Roberts (3), Owain Jones (2), Jac Parry (1), AronHughes (1). Da iawn chi! Maent nawr yn anelu am y gêm nesaf – yn yr 8 olaf yng Nghymru.
Llongyfarchiadau hefyd i Sam Roberts ac Owain Jones, dau aelod o’r tîm llwyddiannus sydd yn cynrychioli Cymru yn erbyn Awstralia ar y 19eg o Ionawr yng Nghaerdydd. Anrhydedd mawr a cyfle arbennig.
Noson Agored 6ed Dosbarth
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am dan y Noson Agored
Cliciwch yma i weld llawlyfr 6ed Dosbarth
Cwrs Arweinyddiaeth Rygbi Lefel 2RGC ac URC
Her Mathemateg
Gala Nofio yr Urdd
Gwasanaeth Carolau diwedd tymor:
Yn ystod bore olaf y tymor cynhaliwyd gwasanaeth carolau i flynhyddoedd 7 ac 8, a 9 a 10. Roedd hyn yn gyfle i ni ddathlu diwedd y tymor ac ystyried gwir ystyr y Nadolig efo’n gilydd. Diolch yn fawr iawn i’r staff a disgyblion 6ed dosbarth fuodd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth ac i Mrs Glenda Barlow a Mrs Rhian Evans am drefnu. Cyfle da i orffen y tymor yn cyd-ganu a chyd-addoli.
Bocsys Nadolig i Blant: Ymgyrch blwyddyn 7-9
Diwrnod Siwmperi Nadolig 2016: 16/12/16
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm COPE blwyddyn 10 a lwyddodd i gasglu dros £400 tuag at elusenau yn cynnwys ‘Achub y Plant’, ‘St John’s Ambulance’ a Hosbis Ty Gobaith drwy gynnal raffl a nifer o weithgareddau eraill yn ystod diwrnod olaf y tymor. Bydd y gwaith yn cyfrannu at un o’u cymwysterau TGAU ac yn cefnogi y 3 elusen mae’r grwp wedi adnabod. Roedd y staff a disgyblion a ennillodd yn y raffl yn gadael yr ysgol yn hapus iawn heddiw! Hoffwn ddiolch ar ran y disgyblion a’r ysgol i’r cwmniau lleol fuodd yn garedig iawn yn eu rhoddion tuag at ymgyrch y disgyblion – diolch yn fawr iawn i chi!
Sioe Gerdd ‘Gris’ yn Ysgol Dyffryn Conwy!
Perfformiad Anhygoel: Sioe Gerdd ‘Gris’ yn Ysgol Dyffryn Conwy!
Llongyfarchiadau Mawr i’r holl cast fu yn perfformio yn Sioe Gerdd ‘Gris’ dros yr wythnos diwethaf. Roedd y sioe yn anhygoel! Gwledd o berfformiadau cryf iawn gan yr holl cast gan gynnwys y ddau dim o brif gymeriadau fuodd yn rhannu cyfrifoldeb ar a thu ôl i’r llwyfan dros y 4 perfformiad. Ar fore Llun y 12fed o Ragfyr cawsom y pleser o groesawu disgyblion o’n ysgolion cynradd yma i weld perfformiad cyntaf y sioe ac i gymryd rhan yn y perfformiadau yn dilyn gweithdai dros yr wythnosau diwethaf efo Miss Angharad Ellis, Miss Llio Japheth a rhai o’r cast. Roedd eu mwynhad a’u brwdfrydedd yn arbennig – diolch yn fawr iawn disgyblion blwyddyn 5 a 6!
Nos Lun cafwyd y perfformiad cyntaf o’r sioe i’r cyhoedd – y neuadd yn orlawn, y tensiw yn uchel a’r perfformiadau yn rhagorol! Noson cyntaf llwyddiannus iawn. Bu criw menter disgyblion blwyddyn 12 yn cynnal raffl hefyd fel rhan o’u her menter ac yn cynnig paned a bisged i’r cynulleidfa yn ystod y toriad. Roedd pawb yn gadael wedi llwyr fwynhau y profiad o berfformio neu gwylio. Diolch yn fawr iawn i bawb fuodd yn ein cefnogi dros y tair noson.
Ar ôl diwrnod haeddiannol o orffwys ar ddydd Mawrth roedd y perfformiad yn ôl yn y neuadd nos Fercher a nos Iau – y neuadd yn orlawn a’r cynulleidfa yn syfrdannu ar safon uchel y perfformiadau gan y cast a’r prif cymeriadau yn cyfnewid rhwng y ddwy noson. Unwaith eto roedd canmoliaeth uchel iawn i’r perfformiadau proffesiynol iawn gan yr holl ddisgyblion fuodd yn rhan o’r perfformiad – da iawn chi, bob un ohonoch!
Diolch yn fawr iawn hefyd i bob un ddaeth i wylio y perfformiadau; pawb fuodd yn noddi ac yn cefnogi efo’r raffl a’r paned; yr holl staff a partneriaid yr ysgol am eu cefnogaeth hefyd; i’r band a’r cwmni sain (MAD); i’r rhieni am gefnogi yr ymarferion a’r perfformiadau; ac yn arbennig i’n tîm rhagorol yn yr Adran Cerdd a’r Adran Ddrama – Miss Llio Japheth, Miss Angharad Ellis a Mr Chris Roberts! Campwaith anhygoel!
Bwletin Rhagfyr:
Bwletin i Rieni - Rhagfyr 2016 - cliciwch yma
Ffug Gyfweliadau Blwyddyn 11
Llongyfarchiadau mawr i flwyddyn 11 ar eu perfformiad yn eu ffug-gyfweliadau dydd Gwener 9/12/16. Braf iawn oedd eu gweld yn eu gwisgoedd ffurfiol a’u gweld yn tyfu yn eu hyder yn ystod y dydd. Cawsant gyfle i gymryd rhan mewn cyfweliadau ffurfiol, gan ennill gwobrau am y cyfweliadau gorau, gwisg mwyaf trwsiadus, CV gorau a’r llythyr cais gorau. Ar ddiwedd y dydd cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar gyfer ennillwyr y 7 grwp ynghyd a’r ennillwyr terfynol. Llongyfarchiadau mawr i bawb gafodd tystysgrifau ac yn benodol i Ifan Jones ddaeth gyntaf, Rosie Pearson oedd yn ail ac Amaan Abassi oedd yn drydedd. Diolchwn i bawb o’n cymuned fuodd yn ran o’r broses cyfweld am eu hamser, eu harbennigedd a’u adborth i’r disgyblion. Darllenwch mwy am y disgyblion a’u llwyddiannau yn ystod y dydd yma.
Dathlu gwobr Ysgol y Flwyddyn ar gyfer Addysg Gorfforol 2016: Ymweliad gan Ashley Dykes
Fel rhan o ddathliad Ysgol y Flwyddyn Addysg Gorfforol Conwy 2016 cafodd ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 gyfle i gael cyflwyniad gan Mr Ashely Dykes. Mae Mr Dykes yn Athletwr Eithafol, ennillydd record ‘2X World First’ ac Anturieuthwr Prydeinig enwog. Mae wedi cael ei wahodd i 10 Stryd Downing ar 2 achlysur, wedi ei gefnogi gan enwogion fel Bear Grylls, Sir Ranulph Fiennes, Duncan Bannatyne ac wedi ennill wobr Anurieuthwr y Flwyddyn ym Mhrydain yn 2015. Yn 2016 ennillodd Anturieuthwr y Flwyddyn yng Nghymru hefyd.
Yn 2014 – fo oedd y person cyntaf i gerdded ar draws Mongolia ar ben ei hun heb gymorth, dros Mynyddoedd Altai, y Gobi Desert a Steppe Mongolia – sef 1,500 o filltiroedd mewn 78 diwrnod tra’n tynnu ei offer oedd yn pwyso 120kg efo fo.
Yn 2016 – fo oedd y person cyntaf i gerdded ar draws hyd Madagascar gan deithio drwy y wlad a dros 8 o;r mynyddoedd uchaf ar y 4ydd ynys fwyaf yn y byd – 1,600 milltir mewn 155 diwrnod.
Yn amlwg roedd y disgyblion wrth eu bodd yn gwylio a gwrando ar ei gyflwyniad. Holwyd cwestiynau da iawn ganddynt ar y diwedd. Profiad gofiadwy iddynt!
Gem Rygbi gorllewin RGC dan 15:
Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol sydd wedi cael eu dewis i garfan Gorllewin RGC ar gyfer gem yn erbyn Ysgolion Abertawe ar Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 10fed sydd i’w chwarae ar gae Saint Helen yn Abertawe.
Hoffwn ei cymeradwyo ar eu hymroddiad i'r sesiynau ymarfer diweddar, a'u llongyfarch ar fod yn rhan o'r garfan ar gyfer y gem yma.
Sam Jones - Dyffryn Conwy a Nant Conwy
Osian Dobson - Dyffryn Conwy a Nant Conwy
Deian Roberts - Dyffryn Conwy a Nant Conwy
Dylan Jones - Dyffryn Conwy a Nant Conwy
Pencampwyr Cymru: Tim Rybgi Merched 2016
Llongyfarchiadau mawr i'r tim o ferched aeth i gystadlu ym Mhencampwriaeth Merched Rygbi RGC yng Nghaerdydd Ddoe! Daethant yn fuddigol dros Gymru. Diolchwn yn fawr i'r genod am eu ymdrechion yn y gemau yn ystod y dydd - rydym yn hynod o falch o'u gallu i gyd-dynnu fel tim a llwyddo yn y modd arbennig hyn! Da iawn chi genod! Diolch hefyd i'w hyfforddwyr - yn benodol Kevin Thomas, a Mrs Nia Roberts aeth a'r criw i gystadlu yn y Brif ddinas. Mae ein diolchiadau hefyd i'n partneriaid sydd wedi ein cefnogi i benodi Swyddog Rygbi.
Gwasanaeth y Cadoediad 11/11/16: Capel Melin y Coed
Ar ddydd Gwener yr 11eg o Dachwedd aeth Pwyll o flwyddyn 10 i gynrychioli yr ysgol yn y Gwasanaeth Cofio dydd y Cadoediad yng Nghapel Melin y Coed. Diolchwn yn fawr iawn am y gwahoddiad ac i Pwyll am gynrychiol yr ysgol yn y Gwasanaeth.
Dros y cyfnod at y dydd hefyd bu disgyblion y 6ed dosbarth yn gwerth bathodynau pabi ar ran y Lleng Brydeinig. Llwyddwyd i gasglu dros £100 tuag at yr ymgyrch. Diolch i’n prif ddisgyblion, Russell Wingfield a Leusa Ellis am drefnu.
Canlyniadau TGAU Gorau Conwy 2016!
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Dyffryn Conwy yn falch iawn o
gyhoeddi fod yr ysgol, yn ychwanegol i ddathlu ein
canlyniadau gorau Haf 2016, hefyd yn dathlu canlyniadau
TGAU gorau Conwy yn y prif ddangosyddion TGAU gan
gynnwys y canran o ddisgyblion sydd wedi llwyddo i gael 5A*-
C neu fwy yn cynnwys Mathemateg a’r Gymraeg a/neu
Saesneg. Llwyddodd 73% o’n disgyblion i gyrraedd y
dangosydd hwn, yn uwch na thargedu uchelgeisiol yr ysgol o
70% a chyfartaledd Conwy o 52% a Chymru o 60%.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ymwelwyr anghyffredin: 29/11/16 | ||
Ar ddydd Mawrth y 29ain o Dachwedd glaniodd balwn aer ar gae Ysgol Dyffryn Conwy yn ystod amser cinio braf a thawel. Roedd gwledd o liw i'r balwn a cryn gyffro gan y disgyblion ddaeth allan i wylio'r balwn yn hedfan ac yna yn glanio. Cafodd y disgyblion gyfle i wylio y criw fu yn ei hedfan yn ei newid o anghenfil llawn aer i becyn trwm a basged i fynd i gefn eu modur. Dipyn o gamp! Amser cinio diddorol iawn i bawb! |
Ymarferion Sioe Gerdd 'Gris' | ||
Mae ymarferion sioe gerdd 'Gris' yn bwrw ymlaen - dyma gip olwg ar rhai o'r actorion sydd yn cymryd rhan yn y sioe eleni. Tocynnau ar gyfer y perfformiadau ar y 12fed, 14eg a'r 15fed ar werth o dderbynfa yr Ysgol. |
Ysgol y Flwyddyn 2016
Cydnabyddiaeth Bwysig i’r ysgol yn Seremoni Blynydol Awdurdod Addysg Conwy, 25/11/16
Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi fod yr Adran Addysg Gorfforol wedi eu adnabod fel ‘Ysgol y Flwyddyn 2016’ gan Awdurdod Conwy yn eu seremoni dalthlu llwyddiannau blynyddol nos Wener 25/11/16. Mynychodd aelodau’r Adran Addysg Gorfforol, Mr John Roberts, Dirprwy yr ysgol a disgyblion y cynnwys Llysgenad Ifanc, Angharad Jones Young y dathliad yn Venue Cymru. Mae’r wobr yn cydnabod yr holl waith cwricwlaidd ac allgyrsiol mae’r Adran a’r disgyblion wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn yn hybu ac yn datblygu gweithgareddau allgyrsiol, profiadau addysg gorfforol amrywiol a sgiliau addysg gorfforol disgyblion. Rydym yn hynod o falch o’r cydnabyddiaeth hyn o waith yr ysgol yn y maes. Mae ein diolchiadau yn mynd i’r staff, disgyblion, rheini a’n partneriaid sydd yn ein cefnogi yn frwd ym maes Addysg Gorfforol, Ffitrwydd a gweithgareddau allgyrsiol.
Diweddariad Plant Mewn Angen
Bellach rydym wedi casglu dros £1,000 tuag at elusen Plant Mewn Angen!
Plant Mewn Angen
Bu cryn fwrlwm a gweithgareddau yn ystod y dydd heddiw fel ran o ddathlu diwrnod ‘Plant mewn angen’.
Codwyn dros £860 drwy amrywiol weithgareddau yn cynnwys – diwrnod gwisg eu hun; ffair gweithgareddau a danteithion amser cinio; gweithgareddau chwaraeon; taflu spwng at yr athro a gwisg ffansi staff. Cafwyd cryn hwyl a sbri yn ystod y diwrnod. Diolchiadau mawr i bawb fuodd yn rhan o’r gweithgareddau yn enwedig i’r staff a disgyblion fuodd yn arwain ar y gweithgareddau gan gynnwys aelodau y Cyngor Ysgol, Cyngor Chwaraeon, Miss Japheth a Miss Iola Jones.
Yn y lluniau mae’r aelodau staff yn eu gwisgoedd ffansi a rhai o’r stondinau a danteithion ar werth - cliciwch yma
Pêl Rwyd
Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion fuodd yn cystadlu yn erbyn St. David’s yn pêl rwyd. Canmoliaeth mawr i Leah 7M ac i Elan 8T a gafodd eu enwebu yn chwaraewraig y gêm yn eu gemau unigol. Da iawn wir i ferched blwyddyn 8 ennillodd 6-4. Cychwyn da iawn i tîm blwyddyn 7 hefyd. Da iawn chi genod!
Cystadleuaeth Llosgfynyddoedd
Llongyfarchiadau i ddisgyblion blwyddyn 9 sydd wedi bod wrthi yn brysur yn creu llosgfynyddoedd fel rhan o’r cystadlu brwd yn yr adran ddaearyddiaeth. Yn y llun mae Tomos ac Aron 9T ennillwyr 2016/17.
AMSERLEN FFUG ARHOLIADAU BLWYDDYN 10,11, 12 a 13 Tachwedd/Rhagfyr 2016
Cliciwch yma i weld yr amserlen
Her Mathemateg Hŷn
Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion blwyddyn 11 a 13 fuodd yn cystadlu yn yr Her Mathemateg Hŷn yn ddiweddar. Bu blwyddyn 11 yn hynod o lwyddiannus gan ystyried mae cystadlu yn erbyn disgyblion 6ed dosbarth oeddynt! Da iawn chi! Llwyddodd y canlynol i dderbyn gwobrau:
Russell Wingfield Gwobr Arian / Silver Award
Meirion Layton Gwobr Arian / Silver Award
Charlott Wright Gwobr Efydd / Bronze
Howard Wingfield Gwobr Efydd / Bronze
Trystan Jones Gwobr Efydd / Bronze
Rosy Pearson Gwobr Efydd / Bronze
Bydd dau grwp yn cystadlu yn y rownd nesaf yn Rydal. Pob lwch i Russell, Charlotte, Howard a Trystan; Meirion, Gwion, Rosy ac Amaan.
Rotari Dyffryn Conwy | ||
Diolch yn fawr iawn i gynrychiolwyr Rotari Dyffryn Conwy a ymwelodd a’r ysgol yn ddiweddar i wobrwyo disgyblion yn ein Hwb Dysgu efo geiriaduron lliwgar. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu rhodd gwerthfawr. |
Arteffactau | ||
Bu disgyblion blwyddyn 7 yn ddiweddar yn cyflwyno arteffactau yn eu gwersi hanes. Cafwyd nifer o gyflwyniadau diddorol iawn gan y disgyblion am hanes yr artiffactau buont yn cyflwyno. Cyfle da i rannu hanes ac atgofio lleol a pwysig i’r disgyblion. |
Seremoni Wobrwyo Addysg Gorfforol a Chwaraeon
Ar nos Fawrth yr 8fed o Dachwedd cynhaliwyd seremoni dathllu llwyddiant ym maes addysg gorfforol a chwaraeon. Roedd yn noson fendigedig ac yn cyfle da i gychwyn traddodiad newydd yn yr ysgol. Bellach mae cymaint o lwyddiannau ym maes chwaraeon ac addysg gorfforol – yn cynnwys llwyddiannau yn yr elfen pynciol ac academaidd, allgyrsiol a chystadleuol mae hi wedi bod yn anodd cydnabod hynny yn ein seremoni llwyddiant blynyddol. Cyfle felly i gael noson i ddathlu llwyddiannau ym maes chwaraeon ac addysg gorfforol yn unig. Roeddym yn falch iawn o lwyddiannau yr holl disgyblion gafodd wobrau ar y noson. Gallwch ddarllen mwy am y gwobrau yn y llyfryn atodedig.
Roedd y noson hefyd yn gyfle da iawn i gydnabod y cymorth rydym yn ei gael gan clybiau ac asiantaethau allannol gan gynnwys Clwb Rygbi Nant Conwy, Clwb Pysgota a Chlwb Ieuenctid Llanrwst, Clwb Peldroed Llanrwst a swyddogion chwaraeon a ffitrwydd yr Awdurdod Lleol. Roedd cyfle hefyd i groesawu Mrs Ann Davies yn ol i’r ysgol ac i gwmni yr Adran a disgyblion i gyflwyno y gwobrau. Ymysg rhai o wobrau y noson oedd y wobr am y Tim Gorau aeth eleni i’r Tîm Marchogaeth am eu holl llwyddiannau a gwaith caled yn cystadlu yn enw yr ysgol dros y blynyddoedd – roedd cynrychiolaeth da iawn o’r clwb yn y noson. Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl rheini ddaeth i gefnogi y noson. Cydnabuwyd cyfraniadau arbennig Angharad Jones Young yn ystod y noson hefyd. Mae Angharad yn Llysgennad Addysg Gorfforol yn yr ysgol a bu ei grwp dawns yn perfformio yn arbennig ar agoriad y noson. Mae gwaith ac ymroddiad Angharad i’w maes diddordeb ac i weithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol yn syfrdanol!
Ennillodd Tomos Land wobr Christie Holt sydd yn cael ei wobrwyo yn flynyddol i athletwr gorau yr ysgol yn enw Christie, cyn ddisgybl yn yr ysgol a fuodd farw. Rydym yn hynod ddiolchgar i delu Christie am eu cefnogaeth i’r rhodd ac am eu cefnogaeth ar y noson. Braf iawn oedd gallu cofio Christie a dangos teurnged iddi fel rhan o’r noson. Yn cyflwyno y wobr i Tomos, nododd Mr Roberts y Dirprwy bod talentau Tomos yn llawer mwy na llwyddiannau ym maes Athletau lle mae’n rhagori. Mae Tomos yn dalentog iawn mewn llawer iawn o feysydd – roedd hynny yn amlwg yn y rhestr o lwyddiannau ym maes athletau, chwaraeon traddodiadol a cyfoes mae Tomos wedi bod ac yn cystadlu ynddynt.
Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd a fu yn cefnogi y noson. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r Adran Addysg Gorfforol am eu gwaith caled ac am drefnu y noson. Mae ein diolchiadau hefyd yn mynd i’n partneriaid WRU, Zip World a Clwb Rygbi Nant Conwy sydd wedi ein cynorthwyo i ddatblygu ac ehangu ein profiadau cwricwlaidd ac allgyrsiol drwy noddi ein Swyddog Datblygu Rygbi, Mr Kevin Thomas. Diolch!
Edrychwn ymlaen at ddathlu eto yn nhymor yr Hydref 2017!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau / Cliciwch yma i weld y rhaglen
Dydd y Cofio
Fel rhan o trefniadau Dydd y Cofio, Dydd Gwener 11/11/16 cyfrannodd Pwyll o flwyddyn 10 i wasanaeth yng Nghapel Melin y Coed drwy ganu ei utgorn fel rhan o’r gwasanaeth. Gwnaeth yn arbennig o dda yn y seremoni ac wrth chwarae yn ystod ein munud i gofio yn yr ysgol. Diolch yn fawr iawn iddo am ei gyfraniad.
Ymweliad Cyn-ddisgybl, Tolly Taylor: Project Trust | ||
Yn ddiweddar cafodd disgyblion y 6ed dosbarth gyfle arbennig o gyflwyniad gan Tolly Taylor, cyn ddisgybl yn yr ysgol. Bu Tolly yn ran o gynllun Prosiect Trust Llynedd yn cymryd rhan mewn ymgyrch yn Guyanna i addysgu pobl ifanc ac atal difreintedd. Roedd profiadau arbennig Tolly yn wledd o luniau a hanesion am ei brofiadau yn ystod ei flwyddyn yn gweithio i Prosiect Trust. |
||
Rhannodd ei brofiadau o’i gais a casglu nawdd, drwy ei flwyddyn dramor a’r holl brofiadau gafodd. Gwrandawodd y disgyblion yn arbennig i’w gyflwyniad ysgogol. Braf iawn oedd cael Tolly yn ol yn yr ysgol. Dymunwn yn dda iawn iddo eleni yn y Brifysgol. Dwi’n siwr y daw yn ol eto yn y dyfodol i rannu ei hanesion efo ni! Cewch fwy o wybodaeth am yr elusen o’r ddolen hon: projecttrust.org.uk |
Gwaith Maes Daearyddiaeth Blwyddyn 12 | ||
Yn ddiweddar aeth disgyblion blwyddyn 12 ar waith maes Daearyddiaeth i Blas Tan y Bwlch. Darllenwch eu profiadau yn yr erthygl canlynol gan Lois Williams - cliciwch yma |
Sioe Gerdd ‘Gris’ | |
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd perfformiadau o Sioe Gerdd ‘Gris’ yn cael ei gynnal nos Lun y 12fed, Nos Fercher y 14eg a Nos Iau y 15fed o Ragfyr. Bydd tocynnau ar gael o swyddfa yr ysgol o’r 21ain o Dachwedd. Mae’r ymarferion yn symud ymlaen yn arbennig o dda ac edrychwn ymlaen yn fawr iawn at y perfformiad! Pob hwyl i’r cast! Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Cystadleuaeth Tîm Trawsgwald y Sir
Ar brynhawn oer ym mis Tachwedd cystadlodd tîm trawsgwald Ysgol Dyffryn Conwy Mharc Eirias yng nghystadleuaeth y Sir. Llwyddodd ein dysgwyr i ragori eto, gyda nifer ohonynt yn cymhwyso ar gyfer y cylch nesaf o gystadleuaeth sydd i'w gynnal yn Nolgellau yn gynnar yn 2017. Y perfformiadau oedd yn sefyll allan:
Math Thomas 1af
Evan Burgess 2il
Nel Metcalfe 3ydd
1af Tomos Land, a
Gruffudd Edwards 6ed.
Llongyfarchiadau mawr i bob un oedd yn cystadlu!
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
Llongyfarchiadau i Evan, blwyddyn 7 sydd wedi dod yn gydradd gyntaf hefo cystadleuaeth ffotograffiaeth i gyd-fynd â’r gyfres ar S4C ‘Y Gemau Gwyllt’. Y dasg oedd danfon llun o ‘Gymru Wyllt’ .
Roedd gwobrau yn cynnwys camera a dewis o weithgareddau antur.
I weld y darlun cliciwch yma
DIGWYDDIAD ‘SKILLS CYMRU’, VENUE CYMRU
Ar ddechrau Hydref, trefnwyd trip i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12 yr ysgol fynychu digwyddiad cenedlaethol ‘Skills Cymru’. Roedd llawer o bethau gwahanol i’w wneud yno o drin gwallt, i goginio i adeiladu. Roedd yn ddigwyddiad gwych i’n disgyblion gael blas a rhoi tro ar wahanol weithgareddau o fewn sectorau gwahanol gyda nifer o gyflogwyr mawr cenedlaethol yn cymryd rhan. Roedd hefyd yn gyfle i dderbyn mwy o wybodaeth am y cymwysterau angenrheidiol i ddilyn gyrfa mewn rhai meysydd pendodol ac i siarad gyda’g arbennigwyr a derbyn cyngor. Cyfle gwych beth bynnag ddiddordeb ein disgyblion. Roedd pawb i weld wedi elwa a mwynhau’r digwyddiad yn fawr gan edrych ymlaen am ddychwelyd y flwyddyn nesaf!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
WYTHNOS BRENTISIAETH
Braf iawn oedd cael gwahodd Gyrfa Cymru a siaradwyr gwadd i gynnal sesiwn cwestiwn ac ateb gyda phawb o ddisgyblion blwyddyn 11 ar y 18fed o Hydref fel rhan o wythnos brentisiaeth. Cafodd ein disgyblion gyfle i holi cyflogwr o fewn y proffesiwn ynglyn â gyrfaoedd posibl i'r dyfodol gan gasglu llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer eu dyfodol.
DIWRNOD SGILIAU
Bu dydd Iau'r 6ed o Hydref yn ddiwrnod gwahanol i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy wrth i bawb dderbyn diwrnod sgiliau gyda gweithgareddau amrywiol. Bu disgyblion blwyddyn 10 a 12 yn rhan o ddiwrnod sgiliau gyrfaoedd yn Venue Cymru gan ddysgu am y gwahanol yrfaoedd posibl iddynt i'r dyfodol. Roedd blwyddyn 9 hefyd yn datblygu eu gwybodaeth ynglyn â'r gwahanol yrfaoedd a'r opsiynau posibl wedi gadael yr ysgol a chafwyd cyflwyniadau a gweithdai gan Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch, Gaz Thomas o Gaz Thomas Media Ltd, Islwyn Jones o Pen y Bryn Falconry a Timm Penn. Cafodd blwyddyn 13 ddiwrnod yn datblygu eu sgiliau adolygu gyda'r cwmni Learning Performance. Roedd blwyddyn 8 yn brysur iawn yn dysgu am Ddiogelwch ar y we gyda gwersi diddorol yn cael eu dysgu gan PC Meirion Williams. Fel rhan o'u pontio i'r ysgol uwchradd cafodd disgyblion blwyddyn 7 weithdai a gweithgareddau Meddylfryd Twf gyda phawb yn cael cyfle i gwblhau her chwaraeon a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
DIWRNOD AILGYCHWYN Y GALON
Ar ddydd Mawrth y 18fed o Hydref cafodd disgyblion blwyddyn 8 ddiwrnod cyffroes a gwahanol wrth iddynt gael y cyfle i ddysgu CPR fel rhan o'r diwrnod ailgychwyn y galon yn genedlaethol. Roeddem yn ffodus iawn fel ysgol o gael dau ymatebwr gyntaf yn y gymuned y gwasanaeth ambiwlans gogledd Cymru gyda ni drwy'r dydd yn rhedeg y gweithdai yn neuadd yr ysgol i grwpiau bychan o flwyddyn 8. Erbyn diwedd y dydd roedd pawb o flwyddyn 8 wedi cael y cyfle i ddysgu'r sgil yma ar gyfer achub bywydau i'r dyfodol.
Gwrs Arweinyddiaeth RYLA
Bu tri disgybl o’r 6ed dosbarth ar gwrs arweinyddiaeth RYLA yn ystod gwyliau yr Haf 2016. Mae’r cwrs yn cael ei drefnu a’i noddi gan Rotari Gogledd Cymru a noddwyd lle ar y cwrs gan Rotari Dyffryn Conwy, Ymddiriedolaeth Llanrwst a’r Ysgol ar gyfer tri disgybl – Tomos, Ffion a Lucy ar y cwrs eleni. Cafodd y disgyblion a’u rhieni gwahoddiad yn ddiweddar at Rotari Dyffryn Conwy ar y 17eg o Hydref i gyflwyno hanes eu profiadau ar y cwrs ac effaith y profiad arnynt. Roedd yn gyfle byth-gofiadwy i ddatblygu sgiliau arwain, sgiliau cydweithio a datrys problemau ac i fwynhau cyfle unigryw i ddysgu drwy profiad yn yr awyr agored yng Nghanolfan Arthog. Aeth Mrs Glenda Barlow, Pennaeth Cynnydd blwyddyn 12 a 13 gyda’r disgyblion i’w cyflwyniadau i’r Rotari. Roedd yn falch iawn o gyflwyniadau hyderus a diddorol y disgyblion yn ystod y noson. Diolchwn yn fawr i’r Rotari am drefnu ac i’r Rotari ac Ymddiriedolaeth Llanrwst am eu nawdd i’r cwrs.
Sgiliau Mathemateg
Cymorth ar gyfer datblygu sgiliau mathemateg a rhifedd. Cefnogaeth i ddisgyblion TGAU ar gael am ddim drwy’r ddolen hon - cliciwch yma
Llongyfarchiadau i Tîm Kayak Ysgol Dyffryn Conwy
Bu y tîm yn cystadlu yn frwd ym Mhlas y Brenin ar Medi’r 28ain. Yn y tîm oedd yn cystadlu oedd Tomos Land (arweinydd y tîm), Tomos Jones, Owain Williams, Deio Jones, Sam Roberts, Jacob Duncalf ac Evan Burgess. Mi gystadlodd pob un dwy waith efo’u amser gorau yn cael ei ddyfarnu wedyn ar gyfer lleoliad yn y Regatta. Ar ddiwedd yr holl gystadlu cafodd y tîm y wobr gyntaf! Byddent yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd nesaf, rownd Eryri yn Llyn Padarn ar y 13eg o Hydref. Pob lwc iddynt yn y rownd nesaf!
DIWRNOD BLASU BLWYDDYN 6
Braf iawn oedd cael disgyblion blwyddyn 6 ysgolion cynradd y dalgylch yn ymuno efo ni am eu diwrnod blasu cyntaf ar ddydd Llun y 3ydd o Hydref. Yn ystod y dydd cawsant gyfle i flasu gwersi: Cerdd, Saesneg, Mathemateg, Technoleg a Ffrangeg. Bu disgyblion y 6ed dosbarth yn eu cefnogi yn ystod y dydd a’r staff a disgyblion yn mwynhau yn fawr eu cwmni. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu ymweliadau eraill yn ystod y flwyddyn gan gynnwys perfformiad ‘Gris’ ym mis Rhagfyr, diwrnodau amlgamp efo disgyblion blwyddyn 10, a diwrnodau blasu pynciau eraill. Mi fydd ail ddiwrnod ymweld yn cael ei gynnal ar ddydd Llun y 3ydd o Orffennaf efo noson rhieni y noson honno hefyd.
Peldroed blwyddyn 7
Llongyfarchiadau mawr i dîm Peldroed blwyddyn 7 a ennillodd eu gêm cyntaf 6-2 yn erbyn Ysgol Aberconwy.
Tîm Rygbi Bechgyn
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm rygbi bechgyn dan 18 ar eu buddugoliaeth Dydd Mercher 28/9/16 yn erbyn Ysgol Eirias. Ennillodd y tîm o 32 i 12.
Ceisiau 2 - 6 Penri Metcalfe (1), Russell Wingfield (1), Brychan Dafydd (1), Gethin Roberts (1), Kieran Russell (2)
Trosiad 1 -1 Steffan Morris (1)
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr i Tîm Peldroed dan 18 ennillodd 8-0 nos Lun 26/9/16 mewn gêm cartref rownd gyntaf Cwpan Cymru.
Llongyfarchiadau i’r Tîm Marchogaeth
Llongyfarchiadau Mawr i’r Tîm Marchogaeth fuodd yn cystadlu yn Sir Gaer – canlyniadau arbennig! Llongyfarchiadau i bob un a fu’n cystadlu ac i’r rhieni a teuluoedd fuodd yn eu cefnogi yno. Dyma’r canlyniadau – diolch yn fawr iawn i Ceri am ei harweiniad ac am y diweddariad.
“Dydd Sadwrn 24/9/16
• Tîm Dressage, Mared a Harri Williams, Jac a Twm Cernyw yn 4ydd
• Neidio Gyda Steil Twm Cernyw 3ydd allan o 40 o blant dan 17 oed a jesd n methu allan ar fynd ir Bencampwriaeth yn Adington
Dydd Sul 25/9/16
• Twm Cernyw 2il yn Unigol allan o 58 o blant dan 14 oedac yn sicrhau lle yn y Pencampwriaeth yn Addington
• Tim dan 17 Oed (80 cm) Harriet Williams, Alex Neale, Jac a Twm Cernyw yn gyntaf gyda Jac yn 5ed allan o 77 o gystadleuwyr - rhain hefyd yn sicrhau eu lle yn y bencampwriaeth
• Tim dan 17 Oed (90cm) Harriet Williams, Efa Davies a Jac Cernyw yn 3ydd gyda Harriet yn 3ydd fel unigolyn a Jac yn 4ydd (36 yn cystadlu)
Fe fu Eben Davies a Cari Jones yn cynrychioli'r ysgol hefyd, roedd pawb yn gefnogol iawn o'u cyd aelodau, hyd yn oed yn rhannu esgidiau, gan fod un aelod wedi'w anghofio! Diolch i'r adran ymarfer corff am y crysau rygbi gwych! Pob lwc i bob un fydd yn cystadlu yn y rownd nesaf yn Addington!”
Noson Gwybodaeth Diogelwch y Wê i Rieni
Ar nos Fawrth y 27ain o Fedi cynhelir noson gwybodaeth diogelwch y wê i rieni yn Neuadd yr ysgol. Cynhelir y noson gan Dîm Troseddau Seibr Heddlu Gogledd Cymru ar y cyd ag RhGCYCG. Mi fydd swyddog Heddlu yr ysgol, PC Meirion Williams yno hefyd i ateb unrhyw gwestiynau. Am fwy o fanylion cliciwch ar y flier.
Gallwch gael fwy o wybodaeth am y pwnc hefyd o’r safwe canlynol: http://hwb.wales.gov.uk/esafety-parentzone
Cysylltiadau ychwanegol i wefanau cefnogaeth i rhieni:
Prif Fachgen a Prif Ferch
Roedd Dydd Gwener y 16eg o Fedi yn ddiwrnod cyffroes i ddisgyblion chweched dosbarth a staff Ysgol Dyffryn Conwy wrth iddynt bleidleisio ar gyfer ein Prif ddisgyblion newydd. Yn gynharach yr wythnos honno cafodd saith aelod o flwyddyn 13 gyfweliadau gwych gyda’r Uwch Dim Rheoli ac yna ar fore'r 16eg cafodd bob un ohonynt y cyfle i gyflwyno i’w cyd-ddisgyblion eu gweledigaeth am y flwyddyn. Yn ystod y bore bu disgyblion a staff yr ysgol yn pleidleisio ac rydym yn falch iawn o gael cyhoeddi mai ein Prif Ddisgyblion yw Leusa Ellis a Russell Wingfield gyda dau ddirprwy Lucy Brown a Tomos Arfon. Rydym yn dymuno yn dda iddynt yn eu rôl newydd o fewn yr ysgol.
Diwrnod Gwisg ein Hunain
Ar Ddydd Gwener yr 23ain o Fedi 2016 bu hi’n ddiwrnod gwisg ein hunain ar gyfer disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy er mwyn codi arian at ddwy elusen sef Jeans for Genes a Macmillan. Bu’r diwrnod yn un llwyddiannus gyda dros £500 yn cael ei casglu, mi fydd yr arian yn cael ei rhannu rhwng y ddwy elusen. Diolch i bawb am eich cefnogaeth.
Noson Agored i rieni a disgyblion blwyddyn 5 a 6 - 4/9/16 4-30pm – 6.30pm | |
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Seremoni Dathlu Llwyddiant 2016: Nos Fawrth 13/9/16
Rhai o’r disgyblion a dderbyniodd Gwobr Rotari Dyffryn Conwy am ganlyniadau TGAU rhagorol gan Mr John Mitchell a Mr Richard Howe o Rotari Dyffryn Conwy. |
Ar nos Fawrth y 13eg o Fedi cynhaliwyd Seremoni Dathlu Llwyddiant blynyddol yr ysgol. Roedd y noson yn gyfle i ddathlu llwyddiant arbennig disgyblion yr ysgol yn eu canlyniadau Lefel A, AS, TGAU, Cyfnod Allweddol 3 a Profion Cenedlaethol. Ein gwr gwadd ar y noson oedd Mr Paul Matthews Jones, Pennaeth Ysgol Syr Hugh Owen a cyn-bennaeth yr ysgol. Roedd yn braf ei groesawu yn ôl i’r Dyffryn am berlau o ysbrydoliaeth a chanmoliaeth. Nododd fod yr ysgol yn dathlu canlyniadau uchaf Conwy yn y prif dangosyddion TGAU a blwyddyn arall o ganlyniadau arbennig ar gyfer lefel A. Derbyniodd Luca Carpenna ysgoloriaeth William J Lewis am ganlyniadau uchaf lefel A y flwyddyn. Yn derbyn ysgoloriaeth Dr Harold Williams am eu canlyniadau Lefel A arbennig hefyd oedd Tomos MacDonald a Luyba Donskaya. Derbyniodd Hannah Cash ac Elin Angharad Evans ysgoloriaeth Holt hefyd. Aelodau eraill o’r 6ed dosbarth dderbyniodd ysgoloriaethau oedd Maisie Bowker, Talitha Fenton a Hannah Cash a dderbyniodd ysgoloriaeth Celf Alfred Davies ar y noson. Roeddym hefyd yn ddiolchgar iawn am y gwobrau a dderbyniodd Guto Jones, Tomos MacDonald ac Alannah Russell gan Cymdeithas Hanes Llanrwst tuag at eu astudiaethau o Hanes yn y Brifysgol.
Angharad Jones Young yn derbyn ei gwobr gan Maer Llanrwst |
Yn derbyn gwobr Llywodraethwyr yr Ysgol am eu canlyniadau rhagorol AS oedd Tomos Arfon a Russell Wingfield. Bu yn gyfle i gydnabod gwaith Angharad Jones Young efo disgyblion iau yr ysgol a’r dalgylch yn ei gwersi dawns cyfoes. Derbyniodd Angharad wobr Tref Llanrwst gan Maer Llanrwst, Cynghorydd Ian Jenkins.
Yn dilyn canlyniadau gorau yr ysgol yn y TGAU roedd yn braf iawn gallu dalthlu llwyddiant y 9 unigolyn gafod y canlyniadau uchaf mewn blwyddyn arbennig iawn drwy gwobr blynyddol Rotari Dyffryn Conwy. Bu yn gyfle hefyd i longyfarch unigolion a lwyddodd i oroesi anawsterau i gyrraedd eu canlyniadau TGAU drwy wobr cydnabyddiaeth arbennig. Roedd hefyd yn gyfle i gydnabod llwyddiannau Clwb Pysgota yr Ysgol ac i gefnogi eu ymgyrchoedd a’u cystadlu i’r dyfodol. Roedd Presenoldeb uchel hefyd yn cael ei gydnabod ar y noson efo’r 14 disgybl o flwyddyn 7 i 10 llynedd wnaeth ddim golli unrhyw diwrnod rhwng Medi’r 1af 2015 a’r 20fed o Orffennaf 2016 yn derbyn gwobrau a noddwyd gan Cwmni Llew Jones. Roedd gwobrau hefyd i’r 11 disgybl llwyddodd gorau ar draws eu holl bynciau ar ddiwedd blwyddyn 9, ac i’r 15 disgybl wnaeth orau yn y profion darllen Cymraeg a Saesneg, a’r profion rhifedd cenedlaethol ym mis Mai 2016.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl noddwyr, i’r rhieni a disgyblion a fynychodd y seremoni gan gynnwys Cadi a Siôn Edwards, Modlen Alun, Elliw Jones ac Angharad Butler fuodd yn perfformio fel rhan o’r seremoni. Diolchwn hefyd i’r holl staff fuodd yn rhan o’r trefniadau ar gyfer ac yn ystod y noson, ac i Mr Paul Matthews Jones ein gwr gwadd. Edrychwn ymlaen nawr at Seremoni Gwobrwyo yr Adran Addysg Gorfforol fydd yn cael ei gynnal nos Fawrth yr 8ed o Dachwedd.
Am fwy o wybodaeth darllenwch rhaglen y noson yma
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Seremoni Gwobrwyo
Byddwn yn cynnal ein seremoni gwobrwyo blynyddol nos Fawrth y 13eg o Fedi a 6.30pm. Bydd hyn yn gyfle i longyfarch yn ffurfiol y disgyblion sydd wedi ennill ysgoloriaethau llywodraethwyr, ysgol a partneriaid lleol am eu canlyniadau Lefel A, AS, TGAU, CA3 a profion cenedlaethol rhagorol. Bydd hefyd yn gyfle i longyfarch disgyblion am bresenoldeb 100% ac am gyfraniadau i gymuned yr ysgol a’r gymuned leol. Ein gwr gwadd ar y noson fydd Mr Paul Matthews Jones. Lluniau a mwy o wybodaeth i ddilyn ar ol y noson.
Ysgol Dyffryn Conwy yn dathlu eu canlyniadau gorau hyd yma! | ||
Llongyfarchiadau mawr i flwyddyn 11 2016 am ennill canlyniadau TGAU gorau yr ysgol hyd yma! |
Canlyniadau Lefel A arbennig 2016 | ||
Llongyfarchiadau i’n holl ddisgyblion lefel A ar eu canlyniadau arbennig! Dymunwn yn dda iawn i ddisgyblion blwyddyn 13 yn eu llwybrau i’r dyfodol yn y brifysgol, byd gwaith neu coleg addysg bellach. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn i glywed eu hanesion a’u llwyddiannau i’r dyfodol. Edrychwn ymlaen hefyd at groesawu blwyddyn 12 yn ol er mwyn parhau efo’u astudiaethau ar y 5ed o Fedi. |
||
Rydym yn falch iawn o’n canlyniadau eleni. Mae’r ysgol wedi llwyddo i gyrraedd 100% yn y prif dangosydd sef bod pob disgybl oedd wedi eu cofrestru am 2 gwrs lefel A neu mwy wedi llwyddo i basio. Mae llwyddiant y disgyblion yn y fagloriaeth Cymreig hefyd i’w ganmol yn fawr eleni efo 98% yn llwyddo i gael y fagloriaeth uwch eleni! Cafwyd nifer uchel hefyd o graddau uchel – mae llwyddiant nifer ohonynt wedi ei gynwys yn natganiad y wasg. Llongyfarchiadau mawr i bob un o’n disgyblion! Cliciwch yma i ddarllen mwy Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Wythnos Sgiliau a Gweithgareddau 2016 | ||
Rhai o swyddogion blwyddyn 12 ar gyfer y daith gerdded efo Mrs Ann Davies, Cydlynydd Addysg Iechyd yr ysgol fuodd yn trefnu’r daith. |
Rhedwyr y Daith Gerdded yn cynnwys y 3 buddugol – Tomos Land, Gruffudd Edwards a Dylan Jones. Hefyd yn y llun, Mr Eurig Williams a Miss Hannah Jones. |
Criw cyntaf blwyddyn 7 yn cychwyn ar y daith cerdded efo Miss Angharad Ellis, Pennaeth Cynnydd Blwyddyn 7. |
Yn ystod wythnos yr 11eg o Orffennaf bu blwyddyn 7, 8 a 9 yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau yma yn yr ysgol ac ar grwydr ar draws Gogledd Cymru. Dyma rai o luniau’r wythnos. Hoffwn ddiolch I’r staff a partneriaid fuodd yn trefnu ac yn cymryd rhan yn ystod yr wythnos. Hoffwn hefyd ddiolch i’n rhieni am eu cefnogaeth i’r wythnos. Roedd yn wythnos prysur a blinedig i ni gyd yn cynnwys amrywiaeth o brofiadau.
|
Taith Daearyddiaeth a Hanes i’r Eidal Haf 2016 | ||
|
||
Yr oedd y daith 2016 i’r Eidal yn addysgiadol ac yn bleserus. Dros y chwe diwrnod fe lwyddom i ymweld â nifer o safleoedd hanesyddol, megis adfeilion hynafol Pompeii, ac ardaloedd daearyddol megis arfordir Amalfi. I mi, diwrnod gorau’r daith oedd ein hymweliad a’r Fatican. Er mai gwlad fechan iawn ydi’r Fatican, mae’n llawn i’r ymylon o hanes crefyddol a phensaernïaeth odidog. Bu cyfle tra roeddem yn Sorrento i ymweld â’r llosg fynydd enwog Vesuvius. Yr oedd y llwybr serth ar hyd y mynydd yn cynnig golygfeydd o’r dref islaw, ac roedd y tywysydd yn darparu gwybodaeth am hanes a daearyddiaeth yr ardal, gwybodaeth fydd yn sicr o ddefnydd addysgiadol i mi yn y dyfodol. Heb amheuaeth mi fyddwn i yn mynychu’r daith yma eto ac rwy’n annog eraill i wneud yr un fath. Yr oedd yn addysgiadol ac roedd digon o amser i hamddena er mwyn i ni gael crwydro strydoedd yr Eidal a phrofi ffordd wahanol o fyw. Shannon Jones, Blwddyn 10 |
||
Allan o’r teithiau i gyd, heb os nac oni bai, yr Eidal oedd y gorau. Gyda’i olygfeydd prydferth a’i safleoedd hanesyddol, yn sicr roedd yn daith i’w chofio. Fy hoff ymweliad o bell ffordd oedd yr un i’r Colosseum. Yr oedd yn addysgiadol, ac fe roddodd y cyfle i ni ddilyn yn ol-droed y gladiatoriaid. Hoff le arall gennyf oedd arfordir Amalfi. Buom ni’n teithio ar ei hyd am ran helaeth o’r diwrnod ac roedd y golygfeydd yn rhyfeddol o bob man. Yr oeddem yn gallu adnabod ffordd o fyw gwahanol ac yn gallu profi diwylliant gwahanol. Rhoddodd y daith cwch golygfeydd anhygoel o bersbectif gwahanol i ni o’r trefi ar hyd arfordir Amalfi. Yn bendant mi fyddwn yn dychwelyd ar y daith yma oherwydd yr oedd, nid yn unig yn addysgiadol, ond hefyd yn bleserus, ac mi fyddwn yn sicr yn ei argymell i eraill. Jemma Roberts, Blwyddyn 10 | ||
Yn Mehefin eleni, aeth criw ohonom ar daith ysgol i’r Eidal. Yn ystod yr wythnos fe wnaethom ymweld â Sorrento a Rhufain. Yn Sorrento, fe wnaethom ymweld â llawer o safleoedd hanesyddol a daearyddol. Ar y diwrnod cyntaf aethom i Herculaneum, sef pentref gafodd ei ddinsitrio gan y llosgfynydd Vesuvius. Fe wnaethom hefyd gerdded fyny llosgfynydd Vesuvius, a cawsom sgwrs hynod ddiddorol yn llawn ffeithiau gan ddaearegwr arbennigol ar gopa y llosgfynydd. I ni dyma oedd un o’r pethau mwyaf diddorol ar y daith oherwydd fe wnaethom ddysgu llawer o ffeithiau am y llosgfynydd a Napels. Yna aethom i lawr i edrych ar ddinas Pompeii, sydd hefyd wedi cael ei ddinistrio gan Vesuvius, ar ôl cael ei gladdu yn y lludw poeth pan echdorodd y llosgfynydd. Cawsom y cyfle i edrych ar yr holl gyrff a gafodd eu claddu yn y lludw, a cawsom hefyd ein tywys o amgylch Pompeii ei hun. Tuag at ddiwedd ein hamser yn Sorrento, cawsom gyfle i ymweld ag arfordir trawiadol Amalfi a chael nofio yn y môr. Aeth rhai ar daith mewn cwch tra bod eraill wedi dewis cerdded o gwmpas tref Amalfi, i weld yr holl leoedd gwahanol. Ar ddiwedd yr wythnos buom yn ymweld â Rhufain. Yn ystod y cyfnod hwn aethom i ymweld â'r Fatican, a cawsom weld dinas Rhufain a'i thirnodau enwog megis y Colosseum. Ar y diwrnod olaf aethum i siopa o gwmpas canol dinas hardd Rhufain, a cawsom gyfle i ymweld â nifer o fwytai hyfryd a siopau. I gloriannu y cyfan, roedd hwn yn drip ysgol hyfryd, a byddem ein dwy wrth ein bodd yn mynd eto cyn bo hir. Izzy Roberts a Harriet Williams, Blwyddyn 10 |
Dyddiadau o Bwys | |
Bydd yr ysgol yn cau i staff a disgyblion ar ddydd Mercher yr 20fed o Orffennaf 2016 ac yn ail-agor i ddisgyblion ar ddydd Llun y 5ed o Fedi 2016. Manylion pellach am tymhorau a diwrnodau HMS yr ysgol yn ystod 2016/17 ar gael yn y ddogfen yma. Bydd yr ysgol yn agored i ddisgyblion blwyddyn 13 o 9am-12.30pm ar ddydd Iau y 18fed o Awst ar gyfer derbyn canlyniadau Lefel A. Bydd canlyniadau disgyblion blwyddyn 12 ar gael o 10am – 12.30am. |
|
Bydd canlyniadau TGAU disgyblion ar gael iddynt rhwng 9am a 12pm ar ddydd Iau y 25ain o Awst efo cyfle i ddisgyblion sydd yn dymuno dychwelyd i’r 6ed ddod i drafod eu dewisiadau pwnc ar fore y 26ain o Awst rhwng 9am a 1pm. Bydd cyfle a croeso cynnes i unrhyw ddisgyblion all-dalgylch sydd yn dymuno mynychu ein 6ed dosbarth i ddod am sgwrs rhwng 11am a 1pm ar ddydd Iau y 25ain o Awst neu i wneud apwyntiad ar gyfer bore y 26ain o Awst. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at ddathlu llwyddiannau ein disgyblion ar y dyddiadau hyn yn sgil eu holl waith caled yn adolygu ac eistedd eu arholiadau ac asesiadau allannol. Dymunwn Haf braf iawn i’n holl ddisgyblion a’u teuluoedd dros y gwyliau Haf. |
Gwobr Ansawdd Cenedlaethol gan Gynllun Ysgolion Iach Cymru
Mae’r ysgol newydd derbyn Gwobr Ansawdd Cenedlaethol gan Gynllun Ysgolio Iach Cymru yn dilyn ymweliad 2 ddiwrnod gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Yn ystod yr ymweliad cyflwynodd disgyblion o Gyngor yr Ysgol, Cynllun Bwyta’n Iach (BOBs), Cyngor Chwaraeon a Cyngor Eco yr ysgol wybodaeth a thystiolaeth am eu gwaith yn cefnogi lles a iechyd disgyblion yn yr ysgol. Rhai or rhagoriaethau a nodir yn yr adroddiad yw: “y Cyngor Ysgol trefnus a llwyddiannus”; “cyfranogiad disgyblion ar draws yr ystod oedran yn yr ysgol ac aeddfedrwydd y disgyblion wrth ymateb i’w cyfrifoldebau”; “ymddygiad a chwrteisi y disgyblion”. Cydnabuwyd hefyd cyfraniadau gwerthfawr iawn rhai o bartneriaid allweddol yr ysgol fel nyrs yr ysgol, Mrs Sian Edwards a Cwnselydd yr ysgol, Ms Jill Riley. Cafodd gwaith yr Adran Addysg Gorfforol, gan gynnwys yr ystod o weithgareddau allgyrsiol hefyd ei gydnabod fel cryfder yn yr adroddiad.
Yn ei adborth i’r disgyblion yn yr adroddiad, noddodd Mrs Eurwen Hulmston eu bod y disgyblion yn groesawgar ac yn agored iawn yn eu trafodaethau; bod ymddygiad yr holl ddisgyblion yn “ragorol – cwrtais, hapus a croesawgar.’ Nododd hefyd fod yr awyrgylch hapus a dawel yn yr ysgol yn deillio o’r ffaith fod disgyblion yn teimlo yn hapus a diogel yn yr ysgol. Mi aeth ymlaen i nodi: “Mae cyfranogiad disgyblion o fewn yr ysgol yn arbennig o uchel a braf yw gweld pobl ifanc sydd mor barod i rannu eu hamser, eu sgiliau a’u haeddfedrwydd gyda disgyblion eraill i’w cynorthwyo i fyw bywydau mwy iach a mwy diogel. Mae gwaith y Bydis Addysg Rhyw, y Llys Genhadon Chwaraeon, y cyngor ysgol, y BOB’s a thimau’r 6ed yn arbennig o dda. Da iawn chi i gyd.” Mae staff a disgyblion yn falch iawn fod yr holl waith caled, cyfraniadau ac ymddygiad y disgyblion wedi cael ei gydnabod yn yr adroddiad canmoliadwy iawn. Diolchwn hefyd am waith y Cydlynydd Addysg Iechyd yr ysgol, Mrs Ann Davies ynghyd a swyddog cefnogi Conwy, Mrs Wendy Ostler a Pennaeth Cynorthwyol, Miss Llio Japheth am eu holl waith yn paratoi ar gyfer ac yn cydlynnu gwaith yr ysgol yn y maes. Diolchwn yn fawr iawn hefyd i’r staff, disgyblion a partneriaid allweddol a gymerodd ran yn yr ymweliad.
Byddwn yn derbyn y wobr yn ystod seremoni ar y 14eg o Orffennaf a gynhelir gan Awdurdod Addysg Conwy. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal: adroddiad arfer orau
Fel ysgol rydym yn hynod o falch o gydnabyddiaeth ein gwaith yn cefnogi disgyblion sydd mewn gofal fel un o 12 astudiaeth achos yn adroddiad thematig newydd Estyn ar ‘Godi Cyrhaeddiad, Cyflawniad, Dyheuadau Plant sy’n Derbyn Gofal’. Mae’r ysgol wedi ei gydnabod fel arfer dda yn dilyn ein arolwg yn 2014 ac ymweliad dilynol gan Arolygwr Estyn yn nhymor yr Hydref 2015. Mae ein diolchiadau i’r disgyblion a’u rhieni maeth, i’r gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau allanol sydd yn cydweithio efo ni fel ysgol ac i’r staff yn yr ysgol sydd yn cefnogi ac yn gofalu am ein disgyblion. Gallwch ddarllen yr adroddiad drwy’r cysylltiad canlynol - cliciwch yma
Gwobr Mrs Elizabeth Jones er Côf am Iorwerth 2016 | ||
Hoffwn longyfarch ennillwyr y wobr bwysig blynyddol hon a roddir er cof am Iorwerth gan Mrs Elizabeth Jones. Y disgyblion sydd wedi derbyn y rhodd eleni yw Lowri Jones Bl12, a Peri Smith o flwyddyn 12. Mae lluniau o’u gwaith celf arbennig ynghlwm. |
Gwobrau Gŵyl Flodau Eglwys St Crwst
Llongyfarchiadau hefyd i'r canlynol fuodd yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Celf Eglwys St Crwst yn Llanrwst dros y penwythnos diwethaf (3ydd o Orffennaf): 2ail Elen Jones 7 Pandy a 3ydd Gwenllian Lawrance 7Machno. Da iawn chi genod!
Dehongli canlyniadau’r profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
Mae’r gwybodaeth diweddaraf gan Llywodraeth Cymru am sut mae’r proffion darllen a rhifedd cenedlaethol i ddisgyblion blwyddyn 7-9 yn cael eu asesu wedi ei gyhoeddi ar y linc yma
Eisteddfod Bro Aled
Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol fuodd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Bro Aled dros y penwythnos. Derbyniodd y disgyblion rhan o’r wobr celf arbennig am eu gwaith celf amrywiol:
Rosie Pearson, Blwyddyn 10 – 1af
Ella Murphy, Blwyddyn 10 – 2ail
Becky Cash, Lauren Taft, Trystan Jones ac Alys Erin Hughes, Blwyddyn 10 – cydradd 3ydd
Seremoni Ffeil Gynnydd Blwyddyn 11 | |
Braf iawn oedd dathlu efo blwyddyn 11 yn ystod Seremoni Ffeil Gynnydd blwyddyn 11 ac yna yn dilyn efo Prom arbennig yng Ngwesty’r Eryrod yn Llanrwst. Ein gwraig gwadd ar y noson oedd Ms Alwen Williams, cyn ddisgybl i’r ysgol sydd bellach yn Gyfarwyddwr BT Cymru. Cafwyd cyflwyniad diddorol ac ysbrydol ganddi yn ystod y seremoni wedi ei ddilyn gan cyflwyno ffeiliau cynnydd i’r disgyblion. Yn dilyn y seremoni aeth y disgyblion a nifer o staff ymlaen i westy yr Eagles ar gyfer y prom. Roedd y disgyblion yn wledd o liw yn eu gwisgoedd. Mwynhawyd bwyd a disgo yn y gwesty. Roedd llawer o luniau hefyd yn cael eu tynnu yn ystod y noson gan ffotograffwyr proffesiynol. Cafwyd noson arbennig iawn. |
Grant GAD
Datganiad Grant Amddifadedd Ysgol Dyffryn Conwy 2016 - 2017 - cliciwch yma
Ymweliad Blwyddyn 6 a gweithgareddau amlgamp her cymunedol blwyddyn 10
Braf iawn oedd croesawu disgyblion blwyddyn 6 yn ôl i’r ysgol ar gyfer diwrnod ymweld ar ddydd Llun y 27ain o Fehefin. Cafodd y disgyblion gyfle i flasu nifer o bynciau gan gynnwys gweithgareddau drama, technoleg bwyd, addysg gorfforol, daearyddiaeth a gwyddoniaeth. Roedd yn braf iawn croesawu y disgyblion yma a’u gweld yn mwynhau y gweithgareddau, yn ymgartrefu ar y safle ac yn mwynhau cwmni ffrindiau newydd. Ar ddiwedd y dydd cynhaliwyd cyfarfod i rieni a disgyblion er mwyn rhannu gwybodaeth, cael cyfle i brynnu gwisg ysgol/ymarfer corff ac ailymweld a’r ysgol. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu y disgyblion yn llawn atym ar y 5ed o Fedi 2016 pan fydd yr ysgol yn ail-agor i ddisgyblion yn dilyn y gwyliau Haf.
Bu ymweliadau dilynol hefyd dan arweiniad disgyblion blwyddyn 10 sydd wedi ei hyfforddi i fod yn arweinwyr chwaraeon ar y 29ain a’r 30 ain o Fehefin. Dan eu arweiniad mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 disgyblion y dalgylch wedi bod yn gwneud ystod o weithgareddau – er gwaeledd y tywydd! Gweithgareddau yn cynnwys tennis, ffitrwydd a datrys problemau, pelrwyd a pelfasged, rygbi a peldroed. Braf iawn oedd gweld yr holl ddisgyblion yn mwynhau a brwdfrydedd disgyblion blwyddyn 10 wrth eu hyfforddi. Mae ein diolchiadau yn mynd i’n ysgoloion cynradd am eu cefnogaeth ac i‘r Adran Addysg Gorfforol a disgyblion blwyddyn 10 am drefnu y dydd.
Clwb Pysgota yr Ysgol
Llongyfarchiadau mawr i Clwb Pysgota yr ysgol fuodd yn fuddugol yn genedlaethol am bosiect pysgota gwledig. Mwy o fanylion a fideo o’u cyflwyniad nos Wener ar tudalen Facebook Gwasanaeth Ieuenctid Conwy - cliciwch yma
Aeth Dylan Jones a Gruffudd Edwards i’r seremoni ar ran y Clwb. Llongyfarchiadau mawr iddynt!
Gwborau Presenoldeb | ||
Llongyfarchiadau i ein holl ddisgyblion sydd wedi llwyddo i gael presenoldeb lawn yn ystod y tymor diwethaf. Y tymor hwn fel rhan o’r raffl presenoldeb gafodd ei gynnal cafodd y digyblion canlynol wobrau. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd. Gwobrau Blwyddyn 7 yn mynd i Poppy, Angharad a Michael; Blwyddyn 8 Rhys a James; Blwyddyn 9 Modlen a Jacob a gwobrau blwyddyn 10 yn mynd i Cail, Chloe a Katie. |
Ymweliadau Ysgol y Gogarth
Braf iawn oedd gwahodd ddisgyblion o Ysgol y Gogarth draw i Ysgol Dyffryn Conwy ar brynhawn Dydd Mercher yr 8fed o Fehefin i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r Adran Addysg Gorfforol ac arweiniad Mr Ricky Jones. Mae’r gweithgareddau yn cael eu harwain gan ein llysgenhadon aur ac arian sydd wedi cwblhau gweithdy 'Cynhwysiant mewn Chwaraeon.’ Mae’r gweithdy yn cael ei gynnal drwy Chwaraeon Cymru ac rydym yn falch iawn fel ysgol bod ein llysgenhadon ifanc yn defnyddio'r sgiliau a dysgon nhw er mwyn darparu'r gweithgareddau yma i blant Ysgol y Gogarth. Ein llysgenhadon a arweiniodd y sesiwn diwethaf ar Ddydd Mercher yr 8fed o Fehefin oedd Angharad Jones Young, Rebecca Elliot a Harry Thomas a bydd rhai o ein llysgenhadon eraill yn arwain y gweithgareddau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Blwyddyn 12 : Gweithdy CV’s a Datganiadau Personol gyda Prifysgol Glyndwr | ||
Braf iawn oedd cael estyn croeso yn ôl i Brifysgol Glyndwr ar ddydd Iau'r 24ain o Fehefin i gyflwyno a chydweithio gydag ein disgyblion blwyddyn 12 ar ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu CV a datganiadau personol. Roedd y diwrnod o fydd mawr i’r disgyblion a datblygwyd nifer o’u sgiliau hanfodol ar gyfer y dyfodol er mwyn eu paratoi ar gyfer gwneud ceisiadau Prifysgol ac ymgeisio am swyddi. |
Gwirfoddoli
Cafodd disgyblion blwyddyn 12 yr ysgol gyfle i ddatblygu eu sgiliau arwain a chydweithio ar ddydd Llun y 20fed o Fehefin wrth iddynt wirfoddoli yn Ysgol Gynradd Bro Gwydir gan gefnogi’r athrawon a’r disgyblion gyda'u diwrnod ‘Meddylfryd Twf.’ Bu’r diwrnod yn un llwyddiannus tu hwnt gyda blwyddyn 12 yn annog y disgyblion iau i ddyfalbarhau gyda’r gweithgareddau a’u mwynhau. Rydym yn falch iawn o bob un ohonoch am gynrychioli’r ysgol cystal ag yn diolch i Ysgol Bro Gwydir am ein gwahodd ni draw.
Blwyddyn 10 : Gweithdy Sgiliau Talk the Talk | ||
Ar Ddydd Mawrth y 21ain o Fehefin trefnwyd gweithdy ‘Talk the Talk’ i bawb o flwyddyn 10 fel rhan o weithgareddau’r adran Saesneg. Cafodd y disgyblion ddiwrnod o weithdy oedd yn datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno’r disgyblion. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr gyda disgyblion yn cyflwyno eu barn yn hyderus ar bwnc o’u dewis nhw a’r ddiwedd y dydd. Bydd y sgiliau yma o fydd mawr i’r disgyblion wrth iddynt baratoi ar gyfer eu harholiadau TGAU flwyddyn nesaf a hefyd i’r dyfodol. |
Eisteddfod Yr Urdd | ||
Pleser o’r mwyaf oedd cefnogi ein disgyblion yn ystod gwyliau’r hanner tymor yn Eisteddfod Yr Urdd Sir y Fflint. Roedd ymdrech ac ymroddiad yr holl ddisgyblion i’w canmol, a diolch arbennig i’r holl rieni a staff a ymunodd gyda ni yn yr eisteddfod i gefnogi. Hoffem fel ysgol longyfarch yn fawr ein hunigolion a ddaeth i’r brig eleni. Braf iawn oedd eich gweld ar y llwyfan a chael gweld eich gwaith llaw ardderchog yn cael ei arddangos ar faes yr Eisteddfod. Ar Ddydd Mercher yr Eisteddfod cafodd Sion Dafydd Edwards a Modlen Alun ail gyda'u Deuawd Cerdd Dant blwyddyn 9 ac iau swynol. Hefyd ar y dydd Mercher cafodd Christopher Sabisky yn drydydd gyda’r Unawd Telyn blwyddyn 7 - 9. Yna ar y Dydd Iau daeth Sion Dafydd Edwards i’r llwyfan unwaith eto gan ennill yr ail wobr yn yr Unawd Bechgyn 7-9. Nid ar y llwyfan yn unig bu llwyddiant, mae gennym dalent amlwg yn yr adran waith cartref a gwaith llaw. Cafodd Cadi Gwyn Edwards 1af a 3ydd yn y gystadleuaeth Cyfansoddi; Lliwen Dafydd Williams - 1af am emwaith Bl.7, 8 a 9; Mali Bleddyn Evans - 2il am gyfres o brintiau monocrom yn yr adran ffotograffiaeth Bl. 7, 8 a 9 ac Elan Williams yn derbyn 1af am wau a llaw/crosio Bl.7,8 a 9 . Rydym yn hynod o falch o bob un ohonoch, llongyfarchiadau mawr i chi gyd. Er nad chafwyd llwyfan gyda’r parti merched, parti bechgyn, côr, parti dawnsio a chyflwyniad dramatig braf iawn yw cael dweud bod perfformiadau pob un ohonynt o’r safon uchaf ac wedi cael beirniadaethau rydym fel ysgol yn falch iawn ohonynt gyda nifer o’r beirniad yn nodi ein bod yn “agos iawn iawn i’r llwyfan.” Llongyfarchiadau mawr i chithau a diolch i chi gyd am eich holl waith caled. |
Cefnogi Cymru | ||
16/6/16 – disgyblion yn mwynhau gwylio gêm peldroed Cymru a Lloegr. |
Cystadleuaeth creu logo ar gyfer wefan ‘Y Clwb Pysgota Llanrwst’
Llongyfarchiadau mawr i Gruffudd Edwards Bl.9 ddaeth yn fuddugol am y logo gorau i Glwb Pysgota Llanrwst. Ennillodd wobr o £20.
Derbyniodd yr holl aelodau o glwb Pysgota Ysgol Dyffryn Conwy ‘permitt’ trwydded i bysgota am y flwyddyn ar afon Llanrwst gan Mr Pierino Algieri cynrychiolydd o Clwb Pysgota Llanrwst am gymryd rhan yn y cystadleuaeth. Diolch yn fawr iawn i Eifion a Garth am eu gwaith efo'r Clwb Pysgota a'u annogaeth i'r criw gystadlu.
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm rygbi merched dan 15 | ||
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm rygbi merched 7 bob ochr dan 15 fuodd yn fuddigol ddoe yn rownd derfynol yr Urdd ddoe (9.6.16). Ennillodd y genod yn y rownd derfynol 27:0. Ardderchog merched! |
Clwb Llyfrau Darllen Saesneg Scholastic
Mae’r gwybodaeth diweddaraf ar gyfer Clwb Llyfrau Scholastic ar gael drwy’r ddolen canlynol: http://schools.scholastic.co.uk/dyffryn-conwy-sec-lower. Mae pob £1 sydd yn cael ei wario yn y cynllun yn codi 20c tuag at adnoddau addysgol drwy gynllun gwobrwyo Scholastic i ysgolion uwchradd.
Mae’r cyfnod archebu yn cau ar y 17eg o Fehefin, 2016.
Llongyfarchiadau mawr i Tom o Ysgol Dyffryn Conwy - aelod band buddugol cyfres Pwy Geith y Gig 2016! | ||
Bu Tom yn cystadlu yn y gyfres ‘Pwy Geith y Gig?’ diweddar ar S4C a bu yn llwyddiannus yn ennill lle yn y band buddugol. Darlledwyd y gyfres yn ystod yr wythnos hanner tymor a bu’r perfformiad terfynol ar faes yr Eisteddfod yn Sir Fflint yn ystod yr wythnos. Bydd perfformiad cyntaf y band ymlaen ar S4C nos Fercher, 8 Mehefin yn dilyn perfformiad y band ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint. Llongyfarchiadau mawr i Tom ar ei lwyddiant a’i berfformiad. |
Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint
Llongyfarchiadau mawr i bawb fuodd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint dros yr hanner tymor. Estynwn llongyfarchiadau penodol i’r canlynol ar eu buddugoliaeth ar lwyfan yr Eisteddfod: Sion Dafydd Edwards, ail yn Unawd y Bechgyn blwyddyn 7-9; Sion a Modlen, ail yn y deuawd cerdd dant; Christopher Sabisky, trydydd yn yr unawd telyn bl. 7-9. Rydym yn falch iawn o bob un fuodd yn cystadlu ac i’r athrawon fuodd yn eu hyfforddi a’r rhieni fuodd yn eu cefnogi. Da iawn chi!
Seremoni Ffeil Gynnydd Blwyddyn 13 | ||
Ar fore dydd Gwener y 27ain o Fai 2016 cawsom gyfle i ffarwelio â disgyblion blwyddyn 13 yn ystod eu Seremoni Ffeil Gynnydd. Ein gwestai yn y seremoni oedd yr Athro Arwyn Tomos Jones sydd yn darlithio ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Roedd yn gyflwyniad arbennig wnaeth ein diddannu ac ysbrydoli ein disgyblion wrth iddynt gyrraedd diwedd eu cyfnod ffurfiol yn yr ysgol. | ||
Roedd cyfle yn dilyn y seremoni i drafod a hel atgofion dros paned a lluniaeth ysgafn. Diolch i pawb fuodd yn cymryd rhan yn y seremoni gan gynnwys ein Prif Ddisgyblion, Hannah Cash a Sam Power ac i’r staff fuodd yn paratoi at y seremoni, yn enwedig Mrs Gwyneth Griffiths fuodd yn gyfrifol am drefnu yr holl ffeiliau a trefniadau yr achlysur braf hyn. Roedd yn achlysur melys iawn pan cyflwynwyd Mrs Griffiths efo blodau gan ddisgyblion y 6ed fuodd hi yn eu cefnogi dros eu cyfnod yn yr ysgol. Dyma fydd seremoni olaf Mrs Griffiths – dymunwn yn dda iawn iddi yn ei ymddeoliad ar ddiwedd y tymor. Dymunwn yn dda iawn i’r disgyblion yn eu cyfnod nesaf o arholiadau a dros y gwyliau Haf estynedig. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddathlu eu llwyddiant ar ddiwrnod canlyniadau lefel A, 18/8/16. Pob lwc i chi gyd! |
Blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Conwy | |
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion blwyddyn 12 ar eu cyflwyniadau Busnes gwych wythnos diwethaf fel rhan o Her Menter y BAC. Ar ôl misoedd o weithio yn galed yn cydweithio ar ddatblygu eu syniadau busnes eu hunain bu disgyblion blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Conwy ar y 10fed a 11eg o Fai yn cyflwyno eu syniadau i’r Panel o ddreigiau fel rhan o’u Her Menter a Busnes ar gyfer Y Fagloriaeth Gymreig. Cafwyd cyflwyniadau o safon uchel gyda phrototeipiau wedi eu creu a nifer o syniadau diddorol a chreadigol dros ben. Braf oedd gweld entrepreneuriaid y dyfodol yn serennu o flaen y panel. Llongyfarchiadau mawr i bawb a fy yn rhan o’r cyflwyniadau ac i’r dreigiau.
|
|
"Rocket Science" | |
Mis yma mae'r adran Wyddoniaeth yn cymryd rhan mewn arbrawf cyffroes a diddorol o'r enw "Rocket Science" gyda disgyblion o flwyddyn 7 fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ddylanwad ymchwil yn y gofod ar ein bywydau ni. Plannwyd dau fath o hadau rhai sydd wedi bod i'r gofod a rhai sydd heb. Bydd y disgyblion yn ystod yr wythnosau nesaf yn monitro tyfiant y gwahanol hadau ac yn eu cymharu. Ar ddiwedd y cyfnod byddant yn casglu'r holl ddata ac yna yn dod i'r casgliad pa hadau sydd wedi bod i'r gofod gan anfon eu canfyddiadau i'r European Space Agency. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i ein disgyblion ddatblygu eu gwybodaeth o'r meysydd gyrfaoedd gwahanol sydd ynghlwm a Gwyddoniaeth. Pob lwc blwyddyn 7! |
Clyweliadau 'Rondo'
Braf oedd cael gwahodd Cwmni teledu Rondo i'r ysgol mis yma i gynnal clyweliadau ar gyfer rhaglen deledu newydd ar S4C. Bu bechgyn a merched o flwyddyn 8,10,11 a 13 yn rhan o'r clyweliadau gyda'r cwmni ac awdur y gyfres newydd a fydd yn cael ei darlledu'r flwyddyn nesaf. Braf iawn i'w cael cyhoeddi bod Mali Sion o flwyddyn 11 wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael ei galw yn ôl ar gyfer ail glyweliad. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i ti Mali.
"King Lear"
Aeth criw o ddisgyblion chweched dosbarth i weld perfformiad o'r ddrama enwog "King Lear" gan gwmni Theatr Tarawa yn y Royal Exchange Theatre Manceinion ar y 5ed o Fai gyda'r Adran Saesneg. Roedd y disgyblion a'r staff wedi mwynhau yn fawr. Roedd y perfformiad yn cynnwys golygfeydd trawiadol iawn, er enghraifft pan yr oedd hi'n glawio tu mewn i'r theatr! Bydd y perfformiad yma yn paratoi ein disgyblion tuag at eu harholiad Saesneg Llen yn yr haf. Pob dymuniad da i bob un ohonynt.
Gweithgareddau STEM Cymru
Braf oedd gwahodd Stem Cymru atom fel Ysgol i’r adran Dechnoleg dan arweiniad y Pennaeth Adran Mrs Heledd Griffiths i gynnal gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth ynglyn â sgiliau coding er mwyn paratoi ein disgyblion tuag at yrfa mewn byd busnes yn y dyfodol. Cafwyd canmoliaeth mawr i’r disgyblion a’r gweithgareddau. Cafodd criw o ddisgyblion o flwyddyn 7 a 8 y cyfle i fod yn rhan o’r gweithgareddau.
“Roeddwn wedi mwynhau gwneud y gweithgareddau STEM. Fy hoff ran oedd creu’r goleuadau traffig gyda’r cyfrifiadur a’r goleuadau LED. Mi wnes ddysgu llawer o’r diwrnod.” Chelsea, Blwyddyn 7.
Llwyddiannau ym maes chwaraeon | |
Llongyfarchiadau i ddisgyblion blwyddyn 10 am gwblhau'r cymhwyster Arweinydd Chwaraeon. Er mwyn cwblhau'r cwrs trefnodd y disgyblion ddiwrnod llwyddiannus o weithgareddau ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Bro Gwydir. Llongyfarchiadau mawr hefyd i tim 7 bob ochr rugby bechgyn blwyddyn 7 fuodd yn fuddigol yn eu twrnament ar ddydd Gwener y 29ain o Ebrill. |
|
Amserlen arholiadau ac adolygu blwyddyn 11 2016 diweddaraf
Cliciwch yma i lawrlwytho'r amserlen
Trip Bethesda 2016 | |
Fel rhan o’n cwrs llafar Lefel A Cymraeg, fe aethom fel dosbarth i Fethesda i gyfarfod yr awdur John Elwyn Hughes a oedd yn ffrindiau da â Charadog Prichard, sef awdur y nofel Un Nos Ola Leuad rydym wedi ei hastudio. Cawsom fynd ar daith difyr gyda J. Elwyn Hughes o amgylch y pentref a fe ddangosodd i ni llawer iawn o leoliadau a oedd yn cael eu crybwyll yn y nofel UNOL. Dechreuom ein taith ar droed drwy stryd fawr Bethesda gan gael cyfeiriad at Y Blŵ Bel, Y Rheinws, Capel Bethesda a llawer mwy sef adeiladau sydd yn y nofel. Yna aethom ar y bws mini heibio mannau a ddylanwadodd yn fawr ar Caradog Prichard wrth ysgrifennu’r nofel e.e. y cwt glo yr oedd ei fam wedi cloi ei hun ynddo, ac aethom ar hyd y Lon Bost sydd yn cael ei chyfeirio ati yn aml yn y nofel gan weld cip olwg o’r Cae Pêl-droed sy’n cynnal y gêm fawr yn y nofel. Buom yn lwcus hefyd i gael caniatad i fynd at Chwarel y Penrhyn i weld ble gollodd tad Caradog Prichard ei fywyd. Gwelsom lawer o’r lleoliadau roedd y bachgen yn y nofel yn mynd iddynt fel Ysgol Glanogwen (Rysgol), Eglwys Glan Ogwen (Reglwys) a’r cartrefi roedd C.P wedi byw ynddynt. Cyn gadael cawsom ein tywys gan J.Elwyn Hughes i’r fynwent lle mae bedd Caradog Prichard a’i wraig Mati, gan gyfeirio at feddi unigolion enwog eraill yr ardal fel R.Williams Parry. Cawsom ddiwrnod diddorol a defnyddiol iawn a wnaeth ehangu ein dealltwriaeth a rhoi darlun byw o’r nofel gan ein paratoi at yr arholiad llafar. Cara Bryn Williams. 13C |
|
Ennillwyr Cwpan Eryri | |
Llongyfarchiadau mawr i dîm rygbi bechgyn dan 13 Ysgol Dyffryn Conwy ennillodd Cwpan Eryri neithiwr yn y gêm derfynol yn Ysgol Syr Hugh Owen neithiwr (20/4/16). Llongyfarchiadau mawr hefyd i’r tîm rygbi merched Ysgol Dyffryn Conwy dan 15 ennillodd 5 rownd yn ystod y dydd gan ddod yn fuddugol ym mhob un ac ennill y rownd derfynol! Canlyniadau arbennig iawn i’r ddau dîm. Diolch yn fawr iawn i Mr Kevin Thomas, Swyddog Rygbi yr ysgol am yr holl drefniadau ac i’r rhieni a staff fuodd yn cefnogi y timau. |
Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau mawr i'r canlynol: Tomos Arfon, Russell Wingfield ac Annest Jones, blwyddyn 12 fuodd yn fuddigol wrth gystadlu yn y Cystadleuaeth Dadansoddwyr Ifanc yn Adran Cemeg Prifysgol Bangor dros gwyliau'r Pasg. Rydym yn falch iawn o'u gwaith fel rhan o'r cystadlu ac o'r tlws sydd wedi ei gyflwyno i'r ysgol yn sgil eu gwaith. Diolchwn hefyd i Dr Mark Thomas, Pennaeth yr Adran Cemeg am drefu iddynt gystadlu. Bydd gweithdy dilynol yn yr ysgol yn dilyn eu gweithgaredd. | ||
Sports Relief
Braf iawn oedd gweld gymaint o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn mynd ati i gasglu arian ar gyfer elusen "Sports Relief" cyn gwyliau'r Pasg. Dan arweiniad ein Cyngor Chwaraeon yr ysgol cynhaliwyd nifer o weithgareddau chwaraeon yn ystod amser dydd Gwener y 13eg o Fawrth er mwyn codi arian at yr elusen. Yn ogystal â hyn bu disgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 yn gweithio mewn timoedd o fewn eu gwersi chwaraeon i redeg marathon noddedig. Casglwyd dros £800 tuag at yr elusen. Hoffem fel ysgol ddiolch yn fawr i bawb a fu yn rhan o'r ymgyrch.
Myfyrwyr Yn Awyddus i godi Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth | |
Mae disgyblion chweched dosbarth Conwy yn awyddus i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion a'r anawsterau sy'n wynebu plant a phobl ifanc ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth (ASD). I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion [14-18 Mawrth 2016] mae Tîm ASD Conwy wedi bod yn cyfarfod myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd lleol i rannu gwybodaeth ac adnoddau a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am awtistiaeth. Diolch i rodd hael o amser bws a gyrrwr gan Arriva Cymru Y Rhyl, roedd modd i'r Tîm Allgymorth ASD ymweld ag Ysgol Dyffryn Conwy ar y diwrnod. |
|
Gwahoddwyd myfyrwyr y chweched dosbarth ar y bws ym mhob ysgol i gael gwybod mwy am Awtistiaeth ac i gasglu adnoddau y byddant yn gallu eu defnyddio mewn gweithdai a gwasanaethau ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf, wrth iddynt helpu i ledaenu'r gair ymhlith eu cyd-ddisgyblion am pam ei bod mor bwysig i ddeall a derbyn awtistiaeth. Dywedodd y Cynghorydd Wyn Jones, Aelod y Cabinet dros Addysg, "Mae'r Tîm Allgymorth ASD yn rhan o Wasanaeth Addysg Conwy ac maent yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth i gael mynediad i ysgolion prif ffrwd. Rhan fawr o integreiddio yw helpu pobl eraill yng nghymuned yr ysgol i ddeall bod awtistiaeth yn gyflwr sbectrwm sy'n effeithio ar bob unigolyn yn wahanol. Nod yr ymweliadau ag ysgolion yr wythnos, yn ogystal â’r gweithdai a’r cynulliadau a drefnwyd gan y chweched dosbarth eu hunain, yw ceisio helpu disgyblion i ddeall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu a sut y gellir goresgyn y rhwystrau hyn gyda'r addasiadau a'r cymorth iawn. |
Neges Bwysig - Gwyliau y Pasg
Bydd tymor y Gwanwyn yn gorffen i ddisgyblion 3.30pm ar ddydd Mercher y 23ain o Fawrth eleni. Mae dydd Iau y 24ain o Fawrth yn ddiwrnod HMS a dydd Gwener y 25ain yn Gwyl Banc eleni. Bydd yr ysgol yn ail-agor i staff a disgyblion ar ddydd Llun yr 11eg o Ebrill, 2016. Dymunwn Pasg Hapus i'n holl disgyblion, staff a'u teuluoedd.
Disgyblion AS/lefel A Daearyddiaeth yn trafod gwahanol sefyllfaoedd llifogydd | ||
Yn y lluniau mae aelodau o’r gymuned a disgyblion cwrs AS/lefel A Daearyddiaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn trafod gwahanol sefyllfaoedd llifogydd er mwyn casglu barn pobl ifanc am lifogydd. Bydd yr NRW yn defnyddio y barn a gasglwyd er mwyn gwella eu cynlluniau gwahanol i leihau effaith llifogydd o amgylch Cymru. |
Gwybodaeth am Brofion Rhifedd a Llythrennedd Blwyddyn 7, 8 a 9 2016 | |
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Llythyr am brofion Rhifedd a Llythrennedd Blwyddyn 7, 8 a 9 2016 - cliciwch yma |
Perfformiadau Drama Blwyddyn 12 | |
Nos Wener y 4ydd o Fawrth estynnwyd croeso i rieni a disgyblion i wylio perfformiadau drama disgyblion blwyddyn 12. Cafwyd cynulleidfa wresog i’r tri pherfformiad. Perfformiodd y disgyblion detholiad o’r ddrama “Y Crochan’ / The Crucible’ gan Arthur Miller, yn ddwyieithog, yn arddull yr ymarferwr Berkoff a theatr gorfforol gan ddilyn gyda dau berfformiad dyfeisiedig o arddull Theatr Greulondeb yr ymarferwr Artaud. Roedd un perfformiad wedi ei selio ar hanes dioddefaint yr ail ryfel byd a’r llall o amgylch iechyd meddwl. Hoffai’r adran Ddrama ddiolch o galon i’r rhieni, disgyblion ac athrawon a gefnogodd yr achos, noson lwyddiannus dros ben. |
|
Trip blwyddyn 9 : Cyfiawnder y Dydd |
Bu criw bychan o ddisgyblion blwyddyn 9 yn rhan o weithdai drama ‘Cyfiawnder y Dydd’ yn Llandudno ar ddydd Gwener y 4ydd o Fawrth. Yn ogystal â chael dysgu yn ymarferol am y system gyfiawnder cafodd y disgyblion y cyfle i ymweld â’r llys yn Llandudno. Diolch i Theatr Clwyd a Heddlu Gogledd Cymru am y cyfle i fod yn rhan o’r diwrnod, profiad bythgofiadwy i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy. |
Ymweliad Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygaeth Cymru | |
Ysgol Dyffryn Conwy yn edrych ymlaen at ymweliad Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygaeth Cymru. Mae Dr Hussey yn gyn-ddisgybl o’r ysgol ac yn ymweld i siarad efo disgyblion y 6ed dosbarth a blwyddyn 11 am lwybrau gyrfa ym maes meddygaeth a iechyd. Gallwch ddarganfod mwy am swydd Dr Hussey drwy y linc yma |
|
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi | |
Roedd diwrnod Gŵyl Ddewi 2016 yn ddiwrnod i ddathlu. Cychwynnodd y dydd efo gwasanaeth Dydd Gŵyl Ddewi. Yn ystod yr wythnos cymerodd disgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 ran mewn cwis enwogion Cymru. Morgan Jones oedd yr ennillydd. Yn y llun mae’r disgyblion ddaeth yn ail ac yn drydydd.
|
|
Roedd dipyn ymlaen yn yr ysgol yn ystod y dydd gan gynnwys cyfle i wrando ar gerddoriaeth Cymraeg yn ystod amser egwyl a cinio. Diolch i aelodau’r 6ed dosbarth am rannu eu sgiliau ‘D.J.’! Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i ddisgyblion a staff gefnogi ymgyrch elusen Macmillan Cancer Care gan gyfrannu drwy brynnu un o gennin pedr yr ymgyrch. | |
Ennillwyr eraill ar y dydd oedd Patrick Lynch o flwyddyn 9 sydd wedi ennill cystadleuaeth ysgrifennu creadigol. Llongyfarchiadau mawr iddo – derbyniodd ei wobr yn ystod y gwasanaeth. Bu hefyd yn gyfle i gynnal ein raffl presenoldeb – llongyfarchiadau i’r disgyblion o flwyddyn 7, 8 a 9 ennillodd yn y raffl ac i’r holl ddisgyblion sydd wedi llwyddo i gynnal eu presenoldeb 100%. |
Her Mathemateg | ||||||||||||||||||||
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion Bl 10 ac 11 fu yn cystadlu mewn her mathemateg yn ddiweddar. Llwyddodd y disgyblion i ennill 2 wobr aur, 3 arian a 6 efydd rhyngddynt sydd yn ganlyniad arbennig! Diolch i ‘r Adran Fathemateg am drefnu a hyfforddi.
|
Darllen er mwynhad: Saesneg |
Rydym newydd trefnu i gychwyn clwb Llyfrau Scholastic (Scholastic Book Club). Mae’n bosib bellach i ddefnyddio hyn ar gyfer archebu llyfrau drwy’r we ar unrhyw adeg. Er mwyn defnyddio’r adnodd, cliciwch yma. Am bob £1 sydd yn cael ei wario bydd yr ysgol yn derbyn 20c tuag at adnoddau i gefnogi darllen. |
Banciau Bwyd | |
Yn ystod ein gwersi tiwtorial eleni cawsom ni fel disgyblion blwyddyn deg Ysgol Dyffryn Conwy'r cyfle i drafod materion cymdeithasol cyfoes fel tlodi yn ystod ein gwersi tiwtorial. Cawsom gyfres o gyflwyniadau gan ein tiwtoriaid yn cynnwys gwybodaeth a ffeithiau am y pwnc ac am y cymorth sydd ar gael i bobl a theuluoedd mewn angen. Wedi i ni edrych ar y pwnc yn gyffredinol, buom yn canolbwyntio’n benodol ar fanciau bwyd, gyda’r bwriad o gefnogi Banc Bwyd Conwy fel rhan o’n hymgyrch elusennol eleni. Ynghyd ag aelodau eraill o Fforwm Blwyddyn 10, mi wnes i ystyried sut i godi ymwybyddiaeth am ein prosiect elusennol a sut gael pawb o’r ysgol i gyfannu ac yn rhan o’n gwaith da. Ar ôl rhannu syniadau fe wnaethom benderfynu cynnal cyfres o wasanaethau ar gyfer bob blwyddyn yn yr ysgol. Yn ystod y gwasanaethau yma roeddem fel aelodau o’r fforwm blwyddyn yn cyflwyno gwybodaeth am y Banciau bwyd a’u pwrpas a chodi ymwybyddiaeth disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy ar sut gallant gefnogi ein hymgyrch Banc Bwyd Conwy. Roedd hyn yn gyfle da i ni esbonio i bawb sut i gyfrannu ac am y mathau o fwydydd y byddai’r fforwm a’r ysgol yn eu casglu. Rhoddwyd posteri o amgylch yr ysgol hefyd i godi ymwybyddiaeth y disgyblion a staff yr ysgol. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac rydym yn hynod o falch o’r ymateb rydym wedi ei gael gan ein cyd-ddisgyblion ac aelodau o’r staff. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych ac rydym yn werthfawrogol iawn o’r holl ymdrech. Rydym eisiau diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu, gan gefnogi nid yn unig disgyblion yr ysgol ond hefyd o’r aelodau o’r gymuned leol sydd hefyd wedi cyfrannu. Gan Rosy Person, blwyddyn 10 |
|
'Pnawn Da' S4C | ||
Bu ymweliad gan gwmni Tinopolis i'r Adran Ddaearyddiaeth ar ddydd Mercher y 10fed o Chwefror i drafod llifogydd yn Llanrwst a'i effaith ynghyd a'r cysylltiad efo'r cwricwlwm Daearyddiaeth. Bu'r criw yn cyfweld Mr Carwyn Williams, Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth ynghyd a disgyblion y 6ed dosbarth, Ilan a Branwen. Roedd diddordeb mawr ganddynt yn safle'r ysgol hefyd, yn enwedig ein afon a'r effaith mae'r glaw trwm eleni wedi ei gael ar llif y dwr. Bydd yn ran o raglen Pnawn Da wythnos nesaf. |
Mwynhewch yr hanner tymor! |
Dymunwn yn dda i'n disgyblion, rhieni a staff dros yr hanner tymor. Bydd yr ysgol yn agor eto ar ddydd Llun yr 22ain o Chwefror. |
Amserlen Arholiadau 2016 |
Neges i rieni blwyddyn 10, 11, 12 a 13 - mae copi drafft o amserlen arholiadau eich mab/merch wedi ei rannu efo'ch mab merch ar yr 11/2/16. |
'Pawb a'i Farn' S4C |
Disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy ar raglen 'Pawb a'i Farn' o Llanrwst nos Iau 11/2/16. |
Philippa Tuttiett - Chwaraeon i ferched |
Profiad arbennig i hybu chwaraeon ymysg merched: Ar ddydd Mercher y 10fed o Chwefror cafodd disgyblion yr ysgol gyfle arbennig i gyfarfod, glywed gan a cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol efo un o Llysgenhadon SKY ar gyfer hybu chwaraeon i ferched. Ymunodd Philippa Tuttiett a'r disgyblion gan rhannu ei phrofiadau ac ysbrydoli disgyblion CA3 a CA4 yn ystod y dydd. Mae Philippa yn ymweld a nifer o ysgolion fel ran o'i gwaith yn hybu athletau ac ymarfer corff ar draws y wlad dan nawdd cwmni Chwaraeon 'SKy Sports'. Roeddym yn falch iawn o'i chroesawu i Ysgol Dyffryn Conwy am y diwrnod. |
Llongyfarchiadau i ddisgyblion BOBs yr ysgol |
Llongyfarchiadau i ddisgyblion BOBs yr ysgol sydd wedi bod yn datblygu eu gwybodaeth am fwyta yn iach ac wedi cynnal gweithdai i ddisgyblion cynradd yn ystod y Gwledd Fwyd yn Glasdir ar y 4ydd a 5ed o Chwefror. Llongyfarchiadau hefyd i Sam a Lowri o flwyddyn 8 fuodd yn gweithio fel mentoriaid i’r criw BOBs ym mlwyddyn 7. |
Tîm Rygbi dan 16 | |
Llongyfarchiadau mawr i Tîm Rygbi dan 16 Ysgol Dyffryn Conwy ar eu llwyddiant yng ngêm Cwpan Cymru pnawn dydd Gwener y 29ain o Ionawr. |
Disgybl Llywodraethwyr | |
Llongyfarchiadau i Prif Fachgen a Prif Ferch yr Ysgol ar gyflawni eu hyfforddiant fel Disgybl Llywodraethwyr. |
Ysgol yn Croesawu cyn-ddisgybl yn ôl | |
Ar yr 8fed o Ionawr cafodd disgyblion chweched dosbarth Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, y fraint o wrando ar gyflwyniad am gynllun Ysgoloriaeth Lloyds gan gyn-ddisgybl o’r ysgol. Daeth Victor Hewitt, sydd erbyn hyn yn astudio gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Warwick, i’r ysgol ar fore dydd Gwener i roi sgwrs ddiddorol am werthoedd cynllun Lloyds. O fewn munudau, roeddem wedi dysgu llawer am y rhaglen, sy’n cael ei rhedeg gan Grŵp Bancio Lloyds ac sy’n cefnogi pobl ifainc o deuluoedd incwm-is sy’n mynychu un o’r wyth prifysgol o fewn y rhaglen. Mae’r prifysgolion sy’n cymryd rhan yn cynnwys Prifysgol Birmingham, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Warwick. Mae’r cynllun yn cynnig pecyn cyflawn o gefnogaeth ariannol a galwedigaethol, gan gynnwys rhoddion ariannol, mentoriaid, swyddi preswyl cyflogedig a’r cyfle i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd. Yn gyfnewid am y pecyn, rhaid i Ysgolorion ymrwymo i o leiaf 100 awr o waith gwirfoddol yn eu cymuned leol. ‘Cyn cyflwyniad Victor doeddwn i ddim wedi clywed am Gynllun Ysgoloriaeth Lloyds. Mae hyn wedi gwneud i mi ymchwilio nid yn unig i’r ysgoloriaeth yma, ond hefyd i weld beth mae prifysgolion eraill yn ei gynnig. Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn ac yn rhywbeth sydd wedi gwneud i mi ystyried gyrfaoedd yn y sector ariannol.’ Gan Elin Williams, disgybl Blwyddyn 13 pupil yn Ysgol Dyffryn Conwy |
|
Canllaw i rieni ar y Categoreiddio Cenedlaethol 2016 |
Cliciwch yma am y wybodaeth diweddaraf am berfformiad Ysgol Dyffryn Conwy a’r Categoreiddio. |
Diwrnod Gyrfaoedd Gwerthfawr i Flwyddyn 9 | ||
Ar ddydd Mercher y 27ain o Ionawr braf oedd gweld neuadd yr ysgol yn llawn o siaradwyr gwadd a busnesau lleol yn cefnogi disgyblion blwyddyn 9 yr ysgol wrth eu haddysg o'r gwahanol lwybrau gyrfaoedd posibl iddynt ar gyfer y dyfodol. Cafwyd stondinau a chynrychiolaeth o nifer o feysydd gwahanol,Siwgr a Sbeis; Howell Jones a'i gwmni Cyfreithwyr lleol; Uned Amaethwyr Cymru; Garej Groesffordd Llanddoged; North Wales Training; Coleg Cambria; Cywain a Mrs Sian Edwards fel cynrychiolaeth o'r GIG. Bu'r disgyblion yn sgwrsio a holi'r cyflogwyr yn eu tro gan lenwi holiaduron a chasglu gwybodaeth. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr a hoffem fel ysgol ddiolch i'r holl siaradwyr gwadd am eu cefnogaeth a'u hamser. |
Cyflwyniad Diogelwch ar y Rheilffordd i Flwyddyn 8 |
Cafwyd hefyd ymweliad addysgiadol i flwyddyn 8 yn neuadd yr ysgol, ar ddydd Mawrth yr 26ain o Ionawr, wrth i ni groesawu aelodau o'r Heddlu at ein disgyblion blwyddyn 8 i drafod diogelwch ar y rheilffyrdd. Eto cafwyd gwrandawiad astud gan y disgyblion. Dyma ddywedodd disgyblion o ddosbarth 8 Cennin yn dilyn y cyflwyniad, "roedd yn gyflwyniad diddorol gyda llawer o luniau a delweddau diddorol oedd yn agoriad llygaid i ni. Roedd hefyd yn emosiynol clywed am y straeon gwir, ond wedi gwneud i ni sylweddoli'r perygl." |
Wythnos Cofio'r Holocaust | |
Fel rhan o wythnos cofio'r Holocost cafodd dros ddau gant o ddisgyblion blwyddyn 10 i 13 yr ysgol gyflwyniad diddorol gan Mrs Ruth Hughes goroeswr yr Holocost. Adroddodd hanes ei theulu a'i thaith i Brydain cyn i'r ail ryfel byd gychwyn, a'i phrofiadau o fynd yn ôl i'w Almaen ac i'w chartref yn ddiweddar. Cafwyd gwrandawiad astud gan y disgyblion gyda nifer o ddisgyblion yn ei holi yn dilyn y cyflwyniad am ei barn a'i phrofiadau. Hoffem fel ysgol ddiolch o galon i Ruth am ddod i ymweld gyda ni ac am rannu negeseuon pwysig gyda'r disgyblion. Roedd yn brofiad cofiadwy a wnaeth brocio meddyliau’r disgyblion yn sylweddol. |
Noson Agored 6ed Dosbarth ar 26/01/16 | |
Llythyr i Rieni blwyddyn 11 – Noson Rhieni a Noson Agored 6ed Dosbarth - cliciwch yma Poster - cliciwch yma |
Llongyfarchiadau i Tomos MacDonald | |
Llongyfarchiadau i Tomos MacDonald, blwyddyn 13 ar gael ei dderbyn i un o golegau Rhydychen ar gyfer 2016/17 i astudio cwrs gradd mewn hanes a gwleidyddiaeth. Roedd Tomos wrth ei fodd ei fod wedi cael ei ddewis yn dilyn cais a proses cyfweld dwys. Bydd Tomos nawr yn canolbwyntio ar gael ei raddau terfynnol mewn lefel A Hanes, Bioleg a Llywodraeth a Gwleidyddiaeth. Dymunwn yn dda iawn i Tomos – llonyfarchiadau! |
FFUG GYFWELIADAU BLWYDDYN 11 18-12-15 Llongyfarchiadau mawr i flwyddyn 11 ar eu canlyniadau TGAU Mathemateg. Mae canlyniadau arbennig Haf a Tachwedd 2015 yn golygu bod y flwyddyn yn barod wedi llwyddo i gyrraedd eu targed TGAU Haf 2016 o 76%! Bydd y disgyblion yn gweithio i anelu am raddau uwch erbyn Haf 2016, yn cynnwys disgyblion fydd yn cychwyn yn fuan ar gyrsiau Lefel A ac yn gwiethio tuag at cymhwyster Mathemateg Ychwanegol . Diolch yn fawr i’r Adran Fathemateg, staff yr ysgol a’n rhieni am eu holl gefnogaeth. |
|
Dyma restr o’r gwobrau a gyflwynwyd i’r disgyblion: Llythyr Cais Gorau CV Gorau Disgybl Mwyaf Trwsiadus Ymgeisydd Llwyddiannus YMGEISYDD LLWYDDIANNUS Fe wnaeth un panel benderfynnu rhoi gwobr am CV Gorau i Mary Jane Brauanton ond nad oedd yn ysgol i’w dderbyn. |
|
Cyngerdd Nadolig |
Gorffenwyd tymor prysur yn yr ysgol efo cyngerdd arbennig iawn yng Nghapel Seion ar nos Fawrth y 15fed o Ragfyr. Braf iawn oedd gweld yr holl dalentau o unawdwyr, offerynwyr, actorion, partion a corau yr ysgol yn cymryd rhan. Cafwyd ddwy gyflwyniad gwych gan aelodau’r Clwb Ddrama – un a ysgrifenwyd yn arbennnig ar gyfer y noson gan Miss Llio Japheth. Roedd y Prif Ddisgyblion yn arwain ac yn gwneud y darlleniadau, ynghyd a nifer o aelodau o’r 6ed dosbarth. Braf iawn oedd gweld a clywed sut mae’r corau iau a hyn yn datblygu a gweld lleisiau cyfarwydd a newydd yn eu mysg. Roedd y noson yn un sydd yn codi balchder mawr yn nisgyblion yr ysgol a’u talentau. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonynt am gymryd rhan, i’r Adran Gerdd a Drama am eu hyfforddi a’u arwain yn ystod y noson, i bob aelod o staff fu yn cefnogi ar gyfer ac yn ystod y noson ac yn arbennig i‘r holl rieni ac aelodau’r gymunod ddaeth i wylio a gwrando yn ystod y noson. Casglwyd £680 o bunoedd yn ystod y noson tuag at Capel Seion (diolch yn fawr iawn i swyddogion y Capel am adael i ni fod yno yn dathlu) a tuag at cefnogi gweithgareddau celf a drama dros y tymor nesaf. |
Gwisg Nadoligaidd | |
I gloi diwedd tymor bu disgyblion yr ysgol yn cefnogi gwaith grwp COPE blwyddyn 10 drwy wisgo gwisg nadoligaidd, cefnogi raffl Nadolig a stondin cacenau amser cinio. Casglwyd dros £400 ar y diwrnod fydd yn mynd tuag at elusennau gan gynnwys Ymchwil Cancer, Save the Children a elusen Ambiwlans St John. Bu’r grwp yn cynllunio dros yr hanner tymor gan gyflwyno eu syniadau i’r Pennaeth, annog cefnogaeth gan cwmniau lleol ar gyfer eu raffl a cydweithio efo Cwmni Sodexo er mwyn cynnal y dydd. Hoffent ddiolch yn fawr iawn i’r holl ddisgyblion, staff a cwmniau lleol yn cynnwys Sodexo am eu cefnogaeth hael. Fel rhan arall o’u cwrs COPE cymerodd y disgyblion ran mewn hyfforddiant cymorth cyntaf wedi ei drefnu gan y St John Ambulance. Yn dilyn diwrnod llawn o hyfforddiant roedd y criw yn llwyddiannus yn yr arholiad ymarferol. Diolch yn fawr iawn i’r St John Ambulance am eu cefnogaeth. |
|
Bagloriaeth Gymreig | ||
Llongyfarchiadau i flwyddyn 10 ar eu gwaith canmoliadwy diweddar ar gyfer y fagloriaeth Gymreig. O fewn eu gwersi Saesneg buont yn astudio ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth. Fel rhan o’u gwaith buont yn ymchwilio i, creu posteri a delweddau, ysgrifennu storiau a pamffledi ar gyfer gwahanol gynilleidfaoedd. Roedd ymdrech ac ansawdd gwaith y disgyblion yn arbennig – llongyfarchiadau mawr iddynt. |
Gwasanaeth Nadolig |
Gwasanaeth Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy. Yn ystod y dydd ar ddydd Gwener y 18fed o Ragfyr gynhaliwyd gwasanaethau i ddisgyblion yr ysgol. Bu cyfle i ganu carolau, i weld cyflwyniadau gan y Clwb Drama a gan Côr Iau yr Ysgol ac i glywed darnau darllen amrywiol gan y prif ddisgyblion ac aelodau o staff yr ysgol. Diolch yn fawr iawn i bawb fu yn cymryd rhan. Diolch yn fawr iawn yn arbennig i’r Parchedig Helen Jones ddaeth i gyfarch y disgyblion a cynnal y gweddi. Roedd yn gyfle gwych i ddathlu y Nadolig yng nghwmni ein gilydd. |
Diwrnod Cyfweliadau |
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion blwyddyn 11 fuodd yn ran o ddiwrnod cyfweliadau proffesiynol ar y 18fed o Ragfyr. Yn ystod y dydd cawsant gyfle i gael eu ysbrydoli gan Mr Wyn Williams, Llywodraethwr a cyflogwr lleol. Yn dilyn y cyflwyniad cafodd bob disgybl cyfle i gael eu cyfweld gan panel o gyflogwyr, llywodraethwyr, partneriaid cymunedol yr ysgol ac aelodau o staff. Roedd pob panel yn cyfweld disgyblion ar gyfer ystod o swyddi gan roi profiad arbennig o fod mewn sefyllfa cyfweliad. Yn ystod y dydd penderfynodd y paneli pa ddisgyblion oedd yn cael eu cymeradwyo yn uchel am eu gwisg a’u cyflwyniad, eu llythyr cais a CV a’u cyflwyniadau. Ar ddiwedd y dydd cafodd y disgyblion llwyddiannus ym mhob grwp a’r rheini oedd yn dod i’r frig ar ddiwedd y dydd tystysgrifau yn cydnabod eu llwyddiannau. Roedd canmoliaeth mawr i agwedd, ymddygiad ac i ymatebion y disgyblion yn ystod y cyfweliadau. Hoffwn eu llongyfarch ar eu gwaith yn paratoi at y cyfweliadau ac yn ystod y cyfweliadau eu hun. Mae ein diolchiadau hefyd yn mynd i aelodau’r paneli am eu amser a’u cefnogaeth efo’r weithgaredd arbennig hon. Diolch yn fawr iawn i’r tim o staff fu yn cynllunio ac yn arwain y dydd hefyd – Mrs Marian Pritchard, Mrs Iona Owen, Mr Roger Beech a Mrs Elliw Davies ynghyd a tiwtoriaid a Pennaeth Cynnydd blwyddyn 11. Roedd y disgyblion wedi elwa yn fawr o’r profiad ac wedi ei fwynhau – yn enwedig unwaith iddynt ymlacio ychydig yn ystod y cyflweliad a gweld ffrwyth eu llafur! |
Canlyniadau gemau all gyrsiol Tymor 1 | ||||||
Hoffwn gymryd y cyfle i ddathlu rhai o lwyddiannau allgyrsiol chwaraeon ein disgyblion dros y tymor. Diolch yn fawr i bawb fuodd yn cystadlu mewn gemau pel droed (bechgyn a marched), rygbi a pelrwyd yn enw yr ysgol yn ystod y tymor. Diolch hefyd i aelodau’r Adran Chwaraeon, Mr Danial Meredydd a Mr Kevin Thomas am eu gwaith yn trefnu ac yn cynnal y gweithgareddau ac i’n rhieni hefyd am eu cefnogaeth. Canlyniadau gemau all gyrsiol Tymor 1:
|
Nadolig Llawen |
Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddisgyblion yr ysgol, eu rhieni a’n partneiriad yn y gymuned. Bydd yr ysgol yn ail agor i ddisgyblion ar ddydd Mawrth y 5ed o Ionawr. |
Amserlen Ffug Arholiadau Rhagfyr 2015 |
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Cyngerdd Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy |
Bydd Cyngerdd Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy yn cael ei gynnal yng Nghapel Seion ar nos Fawrth y 15fed o Ragfyr. Croeso cynnes i chi ymuno yno efo ni. |
Apel Bocsys Nadolig i Blant | |
Eleni fel rhan o waith ar elusennau y cyngor ysgol rydym wedi penderfyny cefnogi nifer o achosion da. Yn dilyn cyflwyniad gan Wyn Owen yn ystod gwasanaeth bu disgyblion blwyddyn 7,8 a 9 yn brysur yn paratoi bocsys er mwyn cefnogi apêl bocs Nadolig. Ar y 23ain o Dachwedd casglwyd 43 o focsys llawn anrhegion, danteithion a nwyddau gwerthfawr ar gyfer plant a theuluoedd llai ffodus. Diolch i'r holl ddisgyblion a rhieni am gefnogi'r achos ac i’r tiwtoriaid dosbarth wnaeth sicrhau fod popeth wedi ei gasglu a’u trosglwyddo yn ddiogel. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Prosiect Llosgfynyddoedd yr adran Ddaearyddiaeth | |
Cafwyd cystadleuaeth frwd eto eleni gan flwyddyn 9 yn yr adran Ddaearyddiaeth wrth iddynt gyd fynd ati dros hanner tymor i greu modelau o losgfynyddoedd yn defnyddio gwahanol ddeunyddiau. Cafwyd ymateb gwych gan y disgyblion gydag ambell i rieni hefyd yn frwd iawn ac eisiau helpu!! |
Gweithgareddau gyda Chwaraeon Anabledd Conwy | |
Ar Ddydd Gwener yr 20fed o Dachwedd cafodd criw o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda chwaraeon anabledd Conwy. Roedd y disgyblion yn ffodus iawn i gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd oedd yn hybu addysg gorfforol. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn dysgu sut i chwarae pêl-fasged mewn cadair olwyn a ‘Boccia’. Cawsant lawer o hwyl wrth weithio fel tîm ac roedd yn gyfle gwych i’r disgyblion fagu hyder yn eu sgiliau addysg gorfforol. |
Dilynwch ni ar Twitter! | |
Rhowch glic ar y llun i weld Twitter Ysgol Dyffryn Conwy! |
Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion a gasglodd arian tuag at elusennau |
Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion a gasglodd arian tuag at elusennau dydd Gwener y 25ain o Fedi. Casglwyd £500 drwy wisgo gwisg eu hunain gyda £250 yn mynd tuag at elusen ‘Jeans for Genes’ a £250 tuag at Macmillan Cancer Care. Diolch i’r disgyblion am eu cefnogaeth i’r ymgyrch. |
Tîm Marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy | |
Llongyfarchiadau mawr i’w disgyblion a fuddodd yn cystadlu fel aelodau o Tîm Marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy ar y penwythnos. Cafodd y canlynol lwyddiant mawr mewn grwpiau o 70- 93 o gystadleuwyr. Rydym yn falch iawn o’u hymdrechion! Y cam nesaf fydd cystadlu ym mis Hydref gan anelu am y rownd derfynol eto yn Bury Farm yn yr Haf. Pob lwc iddynt! Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi y criw cysylltwch a swyddfa’r ysgol. |
|
Tîm dressage 2il - Harri Williams, Mared Williams ac Elain Jones Dressage unigol - Harri Williams 3ydd; Elain Jones 8fed Neidio hefo steil – 1af Harri Williams Neidio Tîm - 1af o 93 - Jac a Rhys Cernyw, Harriet a Hermione Williams Neidio unigol - 3ydd o 93 - Mary Jane Broughton |
Prif Ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy 2015/16 | |
Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol a gafodd eu ethol yn Brif Ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy 2015/16: Roedd ansawdd y cyfweliadau a cyflwyniadau eleni yn hynod o uchel. Dymunwn yn dda i’r tîm wrth iddynt ymgymryd a’u cyfrifoldebau newydd. |
Ysgol Dyffryn Conwy yn dathlu blwyddyn o lwyddiant ac yn lansio Swyddog Datblygu Rygbi ysgol newydd! | |
Cafodd Ar nos Fawrth y 15fed o Fedi, cynhaliwyd Seremoni Gwobrwyo flynyddol yr ysgol. Ymysg ein gwestai oedd ein gŵr gwadd, Sean Taylor a ddiddanodd y gynulleidfa efo straeon o’i lwyddiannau a’i brofiadau ledled byd sydd wedi arwain at ddatblygiad ei fuddiannau llwyddiannus iawn yn Nyffryn Conwy ac Eryri. Roedd disgyblion yn cael eu gwobrwyo am lwyddiannau academaidd gan gynnwys canlyniadau diwedd CA3, TGAU, AS a Lefel A. Ymysg rheini yn derbyn eu gwobrau oedd Tomos Arfon a gafodd wobr gan Rotari Dyffryn Conwy yn dilyn ei lwyddiant o 8A* a 3 A TGAU. Derbyniodd Aron Kirkman a Viktor Hewitt wobr Dr Harold Williams am eu canlyniadau lefel A arbennig. Derbyniodd Lois Evans hefyd wobr Holt am ganlyniadau uchaf gan ferch ar gyfer Lefel A. | |
Yn anffodus nid oedd yn bosib i dderbynwyr gwobr William J Lewis, Tolly Taylor a Wil Jones fynychu'r noson - daeth eu diolchiadau o bell yn dilyn gadael am dir tramor a’r brif ysgol. Ymysg ein gwesteion eraill a’n noddwyr ar y noson oedd Mr Richard Howes a Mr Graham St John-Gillan o Rotari Dyffryn Conwy, Maer Llanrwst, Mr Nelson Herr a Mr Edgar Jones o Gymdeithas Hanes Llanrwst. Derbyniodd y 10 disgybl uchaf yn asesiadau diwedd CA3 hefyd wobr am eu llwyddiannau - mae’n debyg y bydd nifer ohonynt yma eto yn dilyn canlyniadau TGAU a Lefel A i’r dyfodol. Cafodd presenoldeb 100% dros y flwyddyn ei wobrwyo hefyd, eleni yn cael ei noddi gan gwmni bysiau Llew Jones. Yn dilyn blwyddyn arbennig o lwyddiannau a orffennodd mewn safle gyntaf am ‘Dressage’ yn Bury Farm yn yr Haf, cyflwynwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig i dîm Marchogaeth yr ysgol. Maent yn barod bellach ar gyfer y gystadleuaeth gyntaf eleni ar ddiwedd y mis! Dymunwn yn dda iawn iddynt. Roedd yn noson hefyd yn gyfle arbennig i lansio swydd Swyddog Datblygu Rygbi newydd yr ysgol. Mae hyn yn ddatblygiad cyffroes iawn yn sgil derbyn nawdd gan y WRU, Zip World a Chlwb Rygbi Nant Conwy. Rydym yn falch iawn o’r cyfle i ddatblygu sgiliau, hyder a gweithgareddau allgyrsiol drwy’r prosiect hyn ac yn croesawu Kevin Thomas ein swyddog newydd i’r ysgol o’r 21ain o Fedi ymlaen. Yn ystod y noson esboniodd, Mark Roberts o’r WRU y weledigaeth ar gyfer y prosiect arbennig hwn dros y ddwy flynedd nesaf. Cyflwynodd Mr John Roberts, Dirprwy Brifathro Mr Kevin Thomas i’r gynulleidfa. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn a llwyddiant a datblygiad y cynllun dros y misoedd nesaf a diolchwn yn fawr am gefnogaeth ein noddwyr a’r gymuned ehangach, gan gynnwys Cyngor Conwy, i’r prosiect. Wrth gloi'r noson darparodd Ciara Rickard, disgybl yn ein 6ed dosbarth luniaeth ysgafn i’r gynulleidfa. Mae Ciara wedi cychwyn casglu arian i gefnogi ei gwaith efo Project Trust blwyddyn nesaf. Ei bwriad yw dysgu Saesneg i bobl ifanc a phlant mewn ardaloedd difreintiedig yn Thailand. Clo arbennig i noson o ddathlu a llwyddiant. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Ymweliad Trystan Lewis | ||
Cafodd disgyblion ein 6ed dosbarth gyfle i fod yn rhan o drafodaeth am faterion gwleidyddiaeth yn ddiweddar pa ddaeth Trystan Lewis, ymgeisydd Aberconwy Plaid Cymru i gynnal sesiwn efo’r disgyblion. Be trafodaeth frwd am faterion yn cynnwys: iechyd, addysg, amaethyddiaeth, yr amgylchedd a sefyllfa ffoaduriaid. Gwrandawodd y disgyblion ar nifer o safbwyntiau gan ymuno yn y ddadl a chyflwyno eu barn am y pynciau llosg uchod. | ||
Yn y lluniau mae disgyblion blwyddyn 13, Sam Ward ac Ilan Owen efo Trystan Lewis, Elan Davies (Pennaeth), Mr Eurig Williams (Pennaeth Bl. 12) a Mr Carwyn Williams (Pennaeth Daearyddiaeth a fu’n trefnu’r ymweliad. Wrth gloi'r drafodaeth cynigodd Trystan i ymweld â’r ysgol eto yn y dyfodol buan, gyda’r bwriad o ddod a Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru efo fo tro nesaf! |
21.08.15 - Canlyniadau TGAU 2015 Mae Ysgol Dyffryn Conwy unwaith eto yn dathlu blwyddyn o ganlyniadau rhagorol. Rydym yn hynod falch o’n disgyblion a’u llwyddiannau, ac ar ran yr ysgol gyfan rydym yn eu llongyfarch nhw a’u teuluoedd ar y canlyniadau gwych! Mae ein llwyddiant yn holl haeddiannol ac edrychwn ymlaen at groesawu'r mwyafrif ohonynt yn ôl i’r 6ed dosbarth. Unwaith eto mae nifer o’n disgyblion wedi cyrraedd yr uchelfannau yn eu canlyniadau, gan gynnwys Tomos Arfon 8A*a 3A; Hannah Jones 7 A*, 4A; Russell Wingfield 4A*, 1A, 4B – cafodd y 3 hefyd Rhagoriaeth mewn Mathemateg Ychwanegol; Jake Jones 4 A*, 4A, 2 B a 2 C; Sophia Dallimore 2A*, 5A a 4B; Charlotte Wright 3 A*, 5 A, 2 B, 1 C a Rhagoriaeth mewn Mathemateg Ychwanegol; Annest Jones 6A, 3 B, 1 C; Meirion Layton 4A, 4B a 2C. Yn y llun mae Hannah, Sophia, Charlotte, Russell, Jake a Annest. Bu Tomos yn dathlu ar ddiwedd ebost o’i wyliau yn Sbaen! Ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf fel pennaeth rwyf yn hynod falch o weld yr holl wynebau hapus sy’n cadarnhau'r hyn mae llwyddiant yn ei olygu i’n pobl ifanc, pa mor galed maen nhw wedi gweithio. Maent yn llawn haeddu eu llwyddiant! Rwyf yn eu llongyfarch nhw a’u teuluoedd. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i’n holl staff am eu gwaith caled parhaol. Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un gwych ac arbennig i’r ysgol, ei disgyblion a’r gymuned ehangach. Mae heddiw, fel mae hi bob blwyddyn yn ddiwrnod i’r disgyblion, eu llwyddiannau, a’u camau nesaf - mae digon i’w ddathlu. Dymunaf yn dda iddynt yn eu dyfodol! Elan Davies, Pennaeth, Ysgol Dyffryn Conwy, 20/08/15 |
|||
13.08.15 - Dathlu llwyddiant Lefel A 2015, Ysgol Dyffryn Conwy Rydym yn falch iawn unwaith eto o berfformiad arbennig ein disgyblion yn eu cyrsiau AS a Lefel A. Mae’n ganlyniadau eleni yn parhau i ddangos cynnydd mewn cyrsiau Lefel A, cyrsiau Galwedigaethol ac yn benodol eleni'r Fagloriaeth Gymreig. Ymysg ein perfformwyr rhagorol eleni mae: Aaron Kirkman (A*A A A B), Lois Evans (A* A A), ieithydd Viktor Hewitt (AAAB), Tolly Taylor (A*A B), Wil Jones (AAB), Iestyn Thomas (A*B B B), Talia Williams (A A C) ac Ynyr Jones (A*B C). Fel y gwelwch, mae perfformiad ein bechgyn wedi bod yn gryf iawn eleni. Mae heddiw felly yn ddiwrnod o ddathlu - llongyfarchiadau mawr i’n disgyblion. Hoffwn hefyd gymryd y cyfrifoldeb, ar ran yr ysgol a’i Llywodraethwyr i longyfarch y disgyblion a’u teuluoedd, a hefyd ein staff ymroddedig am eu holl waith caled ac ymrwymiad. Dymunwn ein disgyblion pob llwyddiant yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at glywed eu hanesion, eu llwyddiant a’u dyfodol boed hynny ym myd addysg bellach/addysg uwch, ac ym myd gwaith i’r dyfodol. Elan Davies, Pennaeth, Ysgol Dyffryn Conwy, 13/08/15 Cliciwch yma am fwy o luniau |
|||
20.07.15 - Llongyfarchiadau i’r Clwb Drama Llongyfarchiadau i’r Clwb Drama ar eu perfformiadau arbennig nos Iau 16/5/15. Darllenwch am eu gwaith yn y clwb drama eleni. Edrychwn ymlaen at eu perfformiadau a’u llwyddiannau yn ystod 2015/16. Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma |
|||
17.07.15 - Llongyfarchiadau mawr i tîm criced Ysgol Dyffryn Conwy Llongyfarchiadau mawr i tîm criced Ysgol Dyffryn Conwy ar eu buddugoliaeth nos Fercher y 15fed o Orffennaf yn erbyn tîm Ysgol y Creuddyn – da iawn chi! |
|||
13.07.15 Adran Gelf 'Tlws Iorweth Jones'
|
|||
13.07.15 Ffeil Gynnydd a'r Prom Yn dilyn y seremoni Ffeil Gynnydd aeth y disgyblion a staff draw i Westy’r Eryrod yn Llanrwst ar gyfer y Prom! Fel y gwelwch o’r lluniau, roedd y disgyblion wedi gwisgo yn arbennig ar gyfer y prom - yn lliwiau, siwtiau ac esgidiau crand iawn! Erbyn diwedd y noson roedd eu traed yn boenus o’r holl ddawnsio a hwyl wedi ei gael gan bawb! Rhaid canmol ymddygiad y disgyblion mewn lle cyhoeddus a diolch yn fawr i’r staff fuodd yn trefnu'r noson ac yn eu goruchwylio. |
|||
13.07.15 Wythnos Gweithgareddau Tra fo blwyddyn 10 a 12 allan ar brofiad gwaith bu blwyddyn 7, 8 a 9 yn profi amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys teithiau treftadaeth i Drawsfynydd a Tryweryn (blwyddyn 9), i Lanberis a Penmachno (blwyddyn 8) ac i Eisteddfod Llangollen (blwyddyn 7). Bu cyfleoedd hefyd iddynt brofi gweithgareddau awyr agored yn Nant BH (blwyddyn 8) neu ar y safle drwy weithgareddau chwaraeon a datrys problemau. Yn ystod yr wythnos hefyd, profodd staff a disgyblion yr ysgol y tywydd a mynd ar y daith gerdded flynyddol i goedwig Gwydir. Braf oedd gweld y disgyblion yn ymdrechu er y tywydd a’r holl gyn disgyblion a ddychwelodd er mwyn cefnogi'r daith gerdded hefyd. Daeth Ifan Jones, blwyddyn 9 yn ôl gyntaf yn y ras rhedeg ar y diwrnod, Caron Davies yn 2ail a Carwyn Davies yn 3ydd. Llongyfarchiadau mawr i’r tri! |
|||
13.07.15 Gwobrau Celf: Bu nifer o’n disgyblion yn datblygu gwaith celf amrywiol er mwyn cystadlu brwd yn ddiweddar yn Eisteddfod Bro Aled, ac yn Gala Llanrwst. Ceir mwy o wybodaeth am lwyddiannau'r disgyblion o’r linc ganlynol: http://www.llansannan.org/item/eisteddfod_bro_aled__.html ac ar safwe Rotari Dyffryn Conwy. Roedd llawer iawn o ddisgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 wedi cystadlu yn yr oedran 12-14 ar gyfer Ffotograffiaeth a gwaith celf yn defnyddio pensil neu olew. Daeth Katelyn Airey, Rhiannon Rippin a Dionne Jones yn 1af, 2ail a 3ydd yn y categori olew; Nicola Wood, Caspian Sunerton-Burl a Sam Thomas yn 1af, 2ail a 3ydd drwy ddefnyddio pensil neu bastel; a Mali Evans, Lewis Jones a Sam Jones yn 1af, 2ail a 3ydd ar gyfer eu Ffotograffau. Llongyfarchiadau mawr i bawb fuodd yn cystadlu ac i’r Adran Gelf am eu harweiniad a’u cefnogaeth i gystadlu yn lleol. |
|||
13.07.15 Cyngerdd Yng Nghapel Seion |
|||
13.07.15 Ymweliad Bl 6 Daeth blwyddyn 6 i’r ysgol ar gyfer eu hail ymweliad swyddogol ar ddydd Llun y 29ain o Fehefin. Yn ystod eu diwrnod cawsant gyfle i flasu gwersi daearyddiaeth, drama, technoleg bwyd a gwyddoniaeth ynghyd a chyfle i gyfarfod eu tiwtoriaid dosbarth. Roedd hi’n braf iawn eu gweld yn ymgartrefu yn yr ysgol ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yma ym mis Medi i flwyddyn 7. Bu rhai ohonynt yma hefyd ar gyfer Her mathemateg ar ddydd Gwener y 3ydd o Orffennaf yn dilyn ymweliad blwyddyn 5 ar 2ail o Orffennaf. Roeddent wedi ymateb yn dda iawn i’r Her gan wneud llawer o waith blwyddyn 9 yn ystod y dydd! Ar ddydd Mercher y 1af o Orffennaf daeth blwyddyn 5 a 6 o’n hysgolion Cynradd yma ar gyfer diwrnod aml-gamp gan brofi ystod o weithgareddau chwaraeon. Roedd eu brwdfrydedd yn arbennig a’r tywydd yn boeth iawn! Cyfuniad gwych ar gyfer diwrnod ymweld! Diolch yn fawr i’r disgyblion ac i’r staff fu yn trefnu ac yn arwain y dydd. |
|||
13.07.15 Blaenrybudd Dymunwn wyliau braf iawn i’n disgyblion a staff yn ystod mis Gorffennaf ac Awst. Byddwn yn ailgychwyn i ddisgyblion ar ddydd Iau'r 3ydd o Fedi yn dilyn dau ddiwrnod HMS ar y 1af a’r 2ail o Fedi. Bydd yr ysgol yn agored ar gyfer derbyn canlyniadau Lefel A ar fore'r 13eg o Awst o 9o’r goch ymlaen ac eto ar gyfer canlyniadau TGAU ar yr 20fed o Awst. |
|||
Derbyniodd yr ysgol wobr Marc Ansawdd Gyrfaoedd.
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Bro Aled, Llansannan gyda’u gwaith Celf/Congratulations to Ysgol Dyffryn Conwy pupils on their success with their art work at Eisteddfod Bro Aled, Llansannan.
Gwobrau fel a nodir isod/ Prizes are as stated below::
ARLUNIO
63. Blwyddyn 7-11 Hunan ddewisiad
1af. Mai Evans.
2il Holly Carpenter, Ela Owen, Gwenllian Hughes.
3ydd. Sara Roberts, Haf Roberts, Glain Jones
CYSTADLEUAETH ARBENNIG
64. 16-25: Unrhyw waith celf, dylunio neu thechnoleg
1af.Barton Mathew Thomas
2il. Charlie Parry, Anest Roberts, Morgan Metcalfe, Amelia Maddox, Elin Cawley.
3ydd. Kelcee Savanha Frost, Lleucu Howatson, Megan Lowe,
4. Sabrina Haf Jones, Jac Power log, Chloe Congrieve
Dilynwch y linc isod am fwy o wybodaeth a lluniau o waith y disgyblion:/Follow the link below for more information and pictures of the pupils work:
http://www.llansannan.org/item/eisteddfod_bro_aled__.html
'Maths Challenge' | ||
Llongyfarchiadau mawr i Ifan Jones, Hannah Roberts, Anna Carpena a Tomos Arfon am ennill tystysgrifau efydd yn nghystadleuaeth ‘Maths Challenge’ Prifysgol Leeds. Ennilliodd Charlotte Wright, Rory Thorburn ac Elain Jones dystysgrifau arian. Roedd Russell Wingfield wedi sereneu a llwyddodd i ennill tystysgrif aur yn ogystal a chael gwahoddiad i gystadlu mewn cystadleuaeth hyd yn oed yn fwy heriol! | ||
Hefyd daeth Ceiran Kelly i’r brig mewn cystadleuaeth fathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg a gynhelir yn flynyddol gan Brifysgol Bangor a cafodd wahoddiad i seremoni arbennig yn Eisteddfod yr Urdd. Llongyfarchiadau hefyd i Ethan Witt a Gwion Jones a ennilliodd dystysgrifau am berfformiad ardderchog yng nghystadleuaeth fathemategol Prifysgol Lerpwl. Cafodd Gwion ei wahodd i gyflwyniad arbennig yn y brifysol i ddathlu ei lwyddiant. Da iawn y tri ohonynt! |
Llongyfarchiadau mawr i’r Tîm Rygbi Dan 15 | ||
Llongyfarchiadau mawr i’r Tîm Rygbi Dan 15 a ennillodd Cwpan Eryri neithiwr o 22 – 20 yn erbyn Ysgol Glan y Môr Pwllheli. Roedd cystadleuaeth frwd rhwng y ddau dîm yn arwain at fuddugoliaeth Ysgol Dyffryn Conwy! Braf iawn, a bonws oedd chwarae ar gae Ysgol Syr Huw Owen a derbyn y cwpan gan Mr Matthews-Jones! |
Athletau y Sir | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tim athletau Ysgol Dyffryn Conwy a ddaeth yn fuddugol yng ngystadlaeth Athletau Sir Conwy ar y 29.4.2015 ym Mharc Eirias. | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Y Tim Marchogaeth yn son am eu llwyddiant | |
Mared Williams, Harri Williams, Jac Cernyw, Lois Williams a Mary Jane Braunton disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn cael sgwrs ar y ffon ar raglen ‘Shan Cothi’ Radio Cymru am eu llwyddiant yn cystadlu yn Bury Park. Daeth y ‘ Tîm Dressage’ gyntaf eleni sydd yn arbennig (daethom yn 4ydd llynedd allan o 22 yn cynnwys ysgolion bonedd enwog iawn!). Trafododd aelodau’r tîm am eu profiadau gan esbonio'r broses o gystadlu, eu teimladau am wneud ac am eu ceffylau. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm ifanc a thalentog yma! Edrychwn ymlaen at glywed mwy am eu llwyddiannau. Cliciwch yma i ddarllen erthygl Daily Post am lwyddiant y tim |
Gwyl Drama Conwy | |
Llongyfarchiadau mawr i Cora Roberts, Elliw Jones, Modlen Alun a Nel Davies ddaeth yn ail ynf Ngwyl Drama Conwy nos Sadwrn yng Nghlan Conwy. Llwyddodd y genod hefyd i dderbyn gwobr y Beirniaid am eu perfformiad – ardderchog! Criw talentog yn llwyddo yn lleol. Ar ddydd Sadwrn 25 o Ebrill cynhaliwyd Gŵyl Un Act Conwy. Gyda arbenigedd Craig Ryder a Nathan Goodwin fel yr is-gyfarwyddwr fe ddaeth grŵp o ferched Ysgol Dyffryn Conwy, sef Cora Roberts Bl.10, Elliw Jones Bl.8, Modlen Alun Bl.8 a Nel Davies Bl.7 yn ail yn y gystadleuaeth. Roedd y merched hefyd wedi cael ennill Gwobr Beirniaid Perfformiad Unigol Gorau am ganu yn yr act. Cefndir yr act oedd bod y merched yn blant mewn gofal. Cafwyd un o’r merched eu mabwysiadu ond fe redodd i ffwrdd o’i theulu newydd. Cyfarfu’r pedair merch a’i gilydd ar drip Dug Caeredin lle aeth chwarae droi’n chwerw. Llongyfarchiadau mawr i’r merched ar eu llwyddiant! |
Y Tim Marchogaeth yn Ferm Bury |
Llongyfarchiadau i’r canlynol fuodd yn llwyddiannus yn Bury Farm ar y penwythnos. Mae’r tîm Marchogaeth wedi ennill Cyntaf eleni yn y gystadleuaeth dressage - llongyfarchiadau mawr i Mared Williams, Harri Williams, Jac Cernyw a Harriet Williams. Bu’r Tîm Neidio hefyd yn llwyddiannus iawn, safle 6ed - llongyfarchiadau i Jac Cernyw, Lois Williams, Harri Williams a Hermione Williams. Llwyddodd Hermione hefyd i gael 7fed yn y gystadleuaeth ymarfer. Rydym yn falch iawn ohonynt a’u llwyddiant - da iawn chi! |
Llongyfarchiadau Morgan Metcalf |
Llongyfarchiadau i Morgan Metcalf a enillodd cyntaf am greu arteffact dan 19eg oed yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r cylch 2015. Bu Mali Bleddyn Evans o flwyddyn 7 hefyd yn llwyddiannus yn ennill cyntaf am ein print Lliw blwyddyn 7, 8 a 9. Llongyfarchiadau hefyd i Owain Llyr Williams, gafodd gyntaf am ei waith creadigol 2D Tecstilau blwyddyn 7, 8 a 9, ac i Elin Badger Watts gafodd 3ydd. Llwyddiant mawr i’r disgyblion ac i’r Adran Gelf fuodd yn eu cefnogi. |
Disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn ymchwilio i’r Eclipse: 20/3/15 | ||
Rygbi Merched Ysgol Dyffryn Conwy - Ail yng Nghymru yn nhwrnament yr Urdd yn Llanelli 19/3/15. | |
Llongyfarchiadau mawr i'r merched fuodd yn cynrychioli yr ysgol. Ar ol diwrnod llawn o gystadlu, a bore cynnar iawn, bu'r merched yn cystadlu yn ffrwd ar draws y gemau gan gyrraedd y rownd terfynol. Dyma hanes eu llwyddiannau: Gêm 1: Ysgol Aberaeron 0 Ysgol Dyffryn Conwy 25 Gêm 2: Ysgol Bryn Tirion 12 Ysgol Dyffryn Conwy 34 Gêm 3: Ysgol Bryn Gwyn 12 Ysgol Dyffryn Conwy 17 |
|
Chwarteri : Ysgol Dyffryn Ogwen 0 Ysgol Dyffryn Conwy 24 |
Llongyfarchiadau mawr i aelodau tim marchogaeth Ysgol Dyffryn Conwy fu yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar wrth gystadlu yn Northcott ger Blackpool. | |
Yn dilyn taith ben bore dyma oedd llwyddiannau y criw: 1) Dressage Prawf 7 Unigolion 1af Harri Williams 2il Jac Cernyw 3ydd Cari Jones 4ydd Mared Williams |
|
Prawf 12 2) Neidio: Tîm 70cm Lois Williams, Harriet a Hermoine Williams a Jac Cernyw 1af Tîm 80 cm : Lois, Hermoine, Harri a Jac 1af Roedd y plant yn gefnogol iawn i'w gilydd drwy gydol y gystadleuaeth, er mewn gwahanol dimmau, roeddynt wir yn glod i'r Ysgol! |
Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Dyffryn Conwy 2015 | |
Dydd Gwener , 27ain o Chwefror cyhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol yr Ysgol. |
|
Agorwyd yr Eisteddfod gan Elliw a cynigwyd 5 pwynt i’r Tŷ oedd yn gwneud y mwyaf o sŵn , i wneud yn siwr fod pawb wedi deffro!! Geirionnydd dderbyniodd y marciau cyntaf yma! Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Cystadleuaeth Celf a Chrefft Yr Urdd | |
Llongyfarchiadau mawr i Morgan Metcalfe o Flwyddyn 12 ar ennill y wobr am yr Eitem Orau yn yr Adran Uwchradd yn nghystadleuaeth Celf a Chrefft Urdd Conwy. Pob lwc i ti yn y rownd nesaf!
|
Archif Y Bont Digidol
Y Bont 2014 - cliciwch yma
Y Bont 2013 - cliciwch yma