E-Ddiogelwch a Lles

Mae gofal, diogelwch a lles ein disgyblion yn rywbeth rydym yn ymfalchio yn fawr ynddo yn Ysgol Dyffryn Conwy. Mae ystod o strategaethau cefnogi gennym er mwyn cefnogi ein disgyblion a chydweithio gyda nhw a’u rhieni/gwarcheidwad i gyrraedd eu potensial. Rydym yn ymfalchio yn y gefnogaeth a’r gofal rydym yn ei roi i ddisgyblion i’w a’r partneriaethau aml-asiantaethol sydd gennym er lles ein disgyblion, i’w cynorthwyo i ddelio a’u pryderon.

Mae ein tîm yn anelu i gydweithio yn agos gyda’n disgyblion a’u rhieni/gwarcheidwad er mwyn sicrhau fod anghenion lles ein disgyblion yn cael eu diwallu. Ein nod yw dod i nabod bob un o’n disgyblion gan eu trin ag empathy, dealltwriaeth a gofal. Gwn os ydy’n disgyblion yn iach a hapus yn gorfforol a meddyliol bod ganddynt well gyfle i gyflawni eu llawn botensial.

Ategir gwaith y tîm craidd gan ein Nyrs Ysgol, Swyddog Lles yr ysgol a Gwasanaeth Cwnsela Ysgol. Rydym yn gweithio ar y cyd i roi y disgyblion a’u lles yn ganolig i’n gwaith. Drwy gyfarfodydd wythnosol rheolaidd rydym yn anelu i fod yn adweithiol ac ymateb i bryderon am unrhyw unigolyn/grwpiau o ddisgyblion. Rydym yn cynllunio yn strategol i ddatblygu sgiliau, profiadau ac arbennigeddau aelodau’r tim er mwyn cadw yn gyfredol â datblygiadau ym maes lles a chynhwysiant gan gynnwys lles meddyliol.
Rydym hefyd yn cydweithio mewn partneriaeth ag ystod o asiantaethau eraill gan gynnwys: Gwasanaeth Cwnsela Conwy, Swyddog Lles yr Ysgol, CAMHS, Barnado’s, Gofalwyr Ifanc (Young Carers), Cruz, Ty Gobaith, Cymorth Merched (Women’s Aid), Cynllun BLUES a’r gwasanaeth Heddlu Cyswllt Ysgolion. Mae’r holl gefnogaeth hyn yn rhoi cymorth allweddol i’n disgyblion a’u teuluoedd fel ran o rhaglenni cymorth lles ac yn ran allweddol o’n cynlluniau lles a chynhwysiant.

Aelodau allweddol eraill o’n tîm yw ein Annogwyr Dysgu, Ms. Tracey Stone (CA3-4) a Mrs. Iona Owen (CA5). Mae eu cefnogaeth i ddisgyblion yn ran allweddol o waith y tîm bugeiliol ac i lwyddiant ein disgyblion, gan gynnwys disgyblion mwy abl a disgyblion bregis sydd yn dilyn cwricwlwm wedi ei deilwra ar eu cyfer. Mae ystafelloedd cefnogi dysgu pwrpasol ganddynt gan gynnwys ystafell astudio 6ed dosbarth lle cefnogir disgyblion i gyrraedd eu llwybrau unigol boed hynny i fyd gwaith, astudiaeth bellach neu astudiaeth uwch.

Aelodau’r Tîm Lles a Chynhwysiant Disgyblion:

AELOD O STAFF SWYDD
Mr Roger Beech Pennaeth Cynorthwyol – Cynnydd a Lles, Swyddog Amddiffyn Plant a Swyddog Gwrth-fwlio
Mrs Rhian Evans

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Dirprwy Swyddog Amddiffyn Plant a Swyddog Dynodedig Plant Mewn Gofal

Mrs Glenda Barlow Pennaeth Cynnydd a Dysgu 6ed Dosbarth a Dirprwy Swyddog Amddiffyn Plant
Mrs Catrin Jones Pennaeth Cynnydd a Dysgu CA4
Mrs Elin Atherton Pennaeth Cynnydd a Dysgu Blwyddyn 8 a 9
Mrs Leah Jones Pennaeth Cynnydd a Dysgu Blwyddyn 7
Mrs Eleri Allsup Swyddog Cefnogi Tîm Lles
Mrs Sian Edwards Nyrs yr Ysgol
Mrs Jill Riley Cwnselydd Ysgol
Ms Tracey Stone Annogwr Dysgu CA3-CA4
Mrs Iona Owen Mentor 6ed Dosbarth

Mae’r rhaglen KiVa yn cael ei weithredu yn ein hysgol ni!


Mae KiVa yn sefyll am ‘yn erbyn bwlio’ neu ‘gwrth-fwlio’. Mae’r rhaglen KiVa yn fodel a ariennir gan weinidogaeth addysg y Ffindir ac wedi ei ddatblygu gan Brifysgol Turku er mwyn lleihau bwlio mewn ysgolion.

Mae KiVa yn cael ei weld mewn amryw o ffyrdd yn ystod y diwrnod yn yr ysgol. Bydd y disgyblion yn cymryd rhan yn y gwersi KiVa yn ystod y flwyddyn. Mae’r gwersi yn cynnwys trafodaeth, gwaith grŵp, ffilmiau byr am fwlio a chwarae rôl. Ffocws y rhaglen yw canolbwyntio ar y rôl mae grŵp yn gallu cael ar gynnal neu atal bwlio rhag digwydd.

Mae gan ein hysgol tîm ymroddedig KiVa, sy’n cynnwys pum aelod o staff yr ysgol. Bydd yr achosion bwlio yn cael eu datrys gan y tîm a’r athrawon dosbarth. Mae pob aelod o staff yn yr ysgol yn gyfarwydd gyda’r ffyrdd i weithredu’r rhaglen KiVa ac ar sut i ddatrys yr achosion bwlio.

Ctim kiva

Os ydych chi yn amau bod eich plentyn chi yn cael ei fwlio neu os oes gennych chi unrhyw reswm dros gredu fod nhw yn gwneud unrhyw fath o fwlio tuag at eraill, cysylltwch efo’r ysgol yn syth fel bod yr achos yn cael ei ddelio efo mor effeithlon â chyn gynted â phosib! Trafodwch fwlio efo’ch plentyn hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu bwlio neu yn bwlio eraill. Mae’n bwysig eich bod chi a’ch plentyn yn trafod yr hyn sydd angen ei wneud os mae unrhyw un yn cael ei fwlio yn yr ysgol!

Co

 
Diffiniad Bwlio

Tîm KiVa YDC

Sgrinio

Os oes gennych unrhyw pryderon yn ymwneud ac amddiffyn plant, cysylltwch a'r ysgol gan ofyn am y Swyddog Amddiffyn Plant dynodedig neu un o'n Dirprwy Swyddogion Amddiffyn Plant.

Mae'r ysgol yn gweithredu ar materion amddiffyn plant yn unol a chanllawiau a disgwyliadau cenedlaethol ac mewn partneriaeth ac Awdurdod Lleol Conwy.

Mae posteri ar draws holl ardaloedd yr ysgol sydd yn nodi ein Swyddogion Amddiffyn Plant er mwyn cysylltu a hwy ar faterion yn ymwneud ag Amddiffyn Plant.

 

Er gwybodaeth i rieni, Canllaw am HWB - llwyfan e-ddysgu Llywodraeth Cymru - cliciwch yma

 

Gwybodaeth i rieni

Dogfennau defnyddio ar gyfer gwirio defnydd o gyfryngau cymdeithasol ar y wê.

Rhestr Wirio - Facebook
Rhestr Wirio - Instagram
Rhestr Wirio - Snapchat
Rhestr Wirio - Twitter

Adnoddau E-Ddiogelwch Defnyddiol i Rieni gan Llywodraeth Cymru

  1. Canllaw i rieni a gofalwyr: archwilio diogel yn Google a modd diogel YouTube;
  2. Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Mae llawer o wybodaeth i rieni am e-ddiogelwch ar llwyfan HWB Llywodraeth Cymru

Gallwch ddarllen/gwylio/ymchwilio yma

Polisi e-ddiogelwch Disgyblion

Dolenni cyswllt defnyddiol ar gyfer e-ddiogelwch i ddisgyblion:

CEOPS: www.thinkuknow.co.uk

Childnet: www.childnet.com

Polisi e-ddiogelwch Disgyblion

Diweddariad i'r amserlen gweithgareddau Chwaraeon Allgwricwlaidd 19/9/19

Chwaraeon AllgwricwlaiddAm fwy o wybodaeth - cliciwch yma