Cyngor Ysgol

Prif Ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy 2023-24

  • prif ddisgyblion a swyddogion 2023-24
  • prif ddisgybl daniella paganuzzi
  • prif ddisgybl daniel blair
  • dirprwy prif swyddog cari davies
  • dirprwy prif swyddog marek huws-tyburski
  • llongyfarchiadau

 

Cyngor Ysgol

Cyngor Ysgol 2021/22

Llongyfarchidau i aelodau Cyngor Ysgol 2021/22 sydd bellach ar ôl cyfnod o ethol, wedi cychwyn yn eu swyddi pwysig fel aelodau arweiniol o’r ysgol. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu mewnbwn i ddatblygiad, ethos a gweithgareddau yr ysgol dros y flwyddyn academaidd.

cyngor-ysgol-2021/22

school-council-2021/22

school-council-2021/22

Cyngor Ysgol 2020/21

Llongyfarchidau i aelodau Cyngor Ysgol 2020/21 sydd bellach ar ôl cyfnod o ethol, wedi cychwyn yn eu swyddi pwysig fel aelodau arweiniol o’r ysgol. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu mewnbwn i ddatblygiad, ethos a gweithgareddau yr ysgol dros y flwyddyn academaidd.


Cyngor Ysgol 2019/20

Llongyfarchidau i aelodau Cyngor Ysgol 2019/20 sydd bellach ar ôl cyfnod o ethol, wedi cychwyn yn eu swyddi pwysig fel aelodau arweiniol o’r ysgol. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu mewnbwn i ddatblygiad, ethos a gweithgareddau yr ysgol dros y flwyddyn academaidd.


Llongyfarchiadau mawr i’n Prif Ddisgyblion 2019/20

2 fachgenLlongyfarchiadau mawr i Aliya a Gruffudd gafodd eu hethol fel Prif Ddisgyblion 2019/20. Byddent yn cael eu cefnogi gan eu Dirprwyon Modlen ac Osian. Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw dros y flwyddyn nesaf. Cafwyd cyfweliadau a cyflwyniadau arbennig gan pawb fuodd yn ymgeisio. Pob lwc i’r 4 yn eu rôl!


Diweddariad i'r amserlen gweithgareddau Chwaraeon Allgwricwlaidd 19/09/19.

2 fachgen




Senedd ieuenctid I Gymru

2 fachgenEleni bu i dri disgybl yn sefyll i gynyrchioli Aberconwy yn Senedd Ieuenctid Cymru ac rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod Evan Burgess wedi cael ei ethol i gynrychioli Aberconwy yn y Senedd yn mis Tachwedd eleni. Bydd Evan yn cyfarfod gyda 40 cynrychiolwyr ar draws Cymru yn mynegi barn pobl ifanc y sir. Llongyfarchiadau mawr i ti Evan a phob dymuniad da i ti yn dy swydd newydd.



CYNGOR YSGOL

Mae'r Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur yn ystod y tymor. Gwyliwch y fidio yma i ddysgu mwy - cliciwch yma


Cyngor Ysgol 2018/19

2 fachgenLlongyfarchiadau mawr i holl aelodau newydd Cyngor Ysgol 2018/19. Yn dilyn proses o ethol ar lefel dosbarth, blwyddyn ac ysgol mae cynrychiolwyr o bob blwyddyn bellach wedi eu hethol i arwain llais y disgybl yn yr ysgol dros y flwyddyn nesaf. Mae'r Cyngor yn cyfarfod yn reolaidd i drafod blaenoriaethau yr ysgol a'n disgyblion. Dymunwn yn dda iddynt yn eu cyfrifoldebau newydd am y flwyddyn. Gallwch ddysgu mwy am waith y Cyngor a'ch cynrychiolwyr blwyddyn ar eu hysbysfwrdd, drwy eu cyflwyniadau amlgyfrwng mewn gwersi Tiwtorial ac ar y sgrins o amgylch yr ysgol.



Prif Ddisgyblion 2018/19

2 fachgenYn dilyn proses o ymgeisio, cyfweliadau, cyflwyniadau ac etholiad mae Prif Ddisgyblion 2018/19 bellach wedi eu hethol. Cafwyd cyflwyniad ar ddechrau’r tymor gan Prif Ddisgyblion 2017/18 yn esbonio y rôl allweddol hon, a’u profiadau dros y flwyddyn diwethaf.

Yn sgil hynny cafwyd nifer o geisiadau ar gyfer y swyddi ac yn dilyn broses o ceisiadau a cyfweliadau cyflwynodd 5 ymgeisydd o flaen eu cyfoedion 6ed dosbarth yn Neuadd yr ysgol ar ddydd Mawrth y 18fed o Fedi.

Bellach mae Jake ac Efa wedi ymgymryd a’r cyfrifoldeb o Brif Ddisgyblion ac yn eu cefnogi fel Dirprwy Prif Ddisgyblion mae Trystan, Elen ac Elan. Dymunwn yn dda iawn i’r 5 ohonynt. Maent yn argoeli yn tîm arwain arbennig fydd yn gwneud y mwyaf o’r cyfle, y cyfrifoldeb a’u sgiliau arwain a chyflwyno dros y flwyddyn nesaf.

Rhai o’u cyfrifoldebau cyntaf fydd:
- Arwain cyfarfodydd o Cyngor yr Ysgol;
- Cynrychioli y disgyblion ar Llywodraethwyr yr Ysgol
- Cymryd rhan allweddol yn Noson Agored Blwyddyn 5 a6.


 

Sut mae'r Cyngor Ysgol yn gweithio?

Cyngor Ysgol


Cyngor Ysgol 2017/18

Cyngor Ysgol Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion sydd wedi cael eu hethol i gynrychioli eu dosbarthiadau drwy’r Fforymau Dosbarth a Blwyddyn ar gyfer 2017/18. Maent wedi bod yn brysur yn trafod gwahanol agweddau o fywyd ysgol gan gynnwys trafod y posibiliad o newid gwisg ysgol i’r dyfodol yn ystod y tymor hon. Mae cynrychiolwyr o bob blwyddyn wedi cael eu hethol gan eu Fforymau Blwyddyn i’w cynrychioli ar y Cyngor Ysgol, dan arweiniad ein Prif Ddisgyblion. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt a dymuniadau gorau iddynt dros y flwyddyn. Maent eisoes wedi dangos brwdfrydedd a sgiliau arbennig wrth gynllunio gwahanol weithgareddau gan gynnwys Diwrnod cefnogi Jeans for Genes a Macmillan hanner tymor diwethaf; ymgyrch wythnos gwrth-fwlio a gweithgareddau i gefnogi Plant Mewn Angen yr hanner tymor hon. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonynt am eu holl ymdrechion ac i ddisgyblion yr ysgol am eu cefnogi.


I sylw disgyblion blwyddyn 10-13

Cyfarwyddiadau Arholiadau i Ddisgyblion - cliciwch yma


Prif Ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy 2017/18

Prif DdisgyblionLlongyfarchiadau i Rhydian Jones a Mali Sion o flwyddyn 13 sydd wedi eu hethol fel Prif Ddisgyblion yr ysgol ar gyfer 2017/18. Etholwyd Meredydd Walker ac Eve Jones yn Ddirpwy Prif Ddisgyblion. Mae eu gwaith eisoes wedi cychwyn gan gynnwys y broses o gadeirio ac arwain y Cyngor Ysgol a gwethgareddau a blaenoriaethau ysgol. Roedd safon uchel iawn i gyflwyniadau yr holl ymgeiswyr eleni – da iawn chi! Edrychwn ymlaen yn fawr at waith eich disgyblion arweiniol dros y flwyddyn.


Cyngor Ysgol Dyffryn Conwy 2016/17

Cyngor Ysgol Ar ddechrau tymor yr Hydref 2016 etholwyd cynrychiolwyr o bob dosbarth i eistedd ar Fforwm Blwyddyn o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13. Bu’r Fforymau wedyn yn cynnal eu etholiadau ar gyfer Cynrychiolwyr i Eistedd ar y Cyngor Ysgol. Dyma’r criw sydd eleni yn cynrychioli ac yn arwain Llais Disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy. Llongyfarchiadau mawr iddynt ar gael eu hethol i gynrychioli eu cyd-ddisgyblion ar y fforymau allweddol hyn! Pob lwc iddynt wrth iddynt ymgymryd a’u cyfrifoldebau dros y flwyddyn.

Bydd rhain yn cynnwys:

- Cynrychiolwyr ar Llywodraethwyr yr Ysgol – Penodwyd Leusa Ellis a Russell Wingfield, Prif Ddisgyblion yr Ysgol ac Arweinwyr y Cyngor i gynrychioli y Disgyblion ar y Llywodraethwyr eleni;
- Cynrychioli y disgyblion mewn cyfarfodydd efo Cwmni Sodexo sydd yn gyfrifol am reoli safle yr ysgol ac am Ffreutur a lleoliadau bwyd eraill yr ysgol – enwebwyd Rosie Pearson i gynrychioli y disgyblion yn y cyfarfodydd hyn;
- Gweithredu Cynllun Datblygu y Cyngor – bu Cyngor 2015/16 yn brysur iawn yn llunio rhaglen waith ar gyfer eu olunwyr;
- Cyfarfod i gynllunio gweithgareddau yn ystod y flwyddyn e.e. Ymgyrch Plant Mewn Angen 18/11/16;
- Adnabod a chefnogi gwahanol elusennau dros y flwyddyn gan gynnwys: Macmillan Cancer Care, Jeans for Genes, Apel Bocsys Nadolig i Blant ...
- Adolygu a helpu gweithredu polisi Gwrth-fwlio yr ysgol;
- Cyfarfod i drafod materion allweddol ym mywyd a profiadau disgyblion yn yr ysgol;
- A llawer mwy!


Gwobr Ansawdd Cenedlaethol gan Gynllun Ysgolion Iach Cymru

Mae’r ysgol newydd derbyn Gwobr Ansawdd Cenedlaethol gan Gynllun Ysgolio Iach Cymru yn dilyn ymweliad 2 ddiwrnod gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Yn ystod yr ymweliad cyflwynodd disgyblion o Gyngor yr Ysgol, Cynllun Bwyta’n Iach (BOBs), Cyngor Chwaraeon a Cyngor Eco yr ysgol wybodaeth a thystiolaeth am eu gwaith yn cefnogi lles a iechyd disgyblion yn yr ysgol. Rhai or rhagoriaethau a nodir yn yr adroddiad yw: “y Cyngor Ysgol trefnus a llwyddiannus”; “cyfranogiad disgyblion ar draws yr ystod oedran yn yr ysgol ac aeddfedrwydd y disgyblion wrth ymateb i’w cyfrifoldebau”; “ymddygiad a chwrteisi y disgyblion”. Cydnabuwyd hefyd cyfraniadau gwerthfawr iawn rhai o bartneriaid allweddol yr ysgol fel nyrs yr ysgol, Mrs Sian Edwards a Cwnselydd yr ysgol, Ms Jill Riley. Cafodd gwaith yr Adran Addysg Gorfforol, gan gynnwys yr ystod o weithgareddau allgyrsiol hefyd ei gydnabod fel cryfder yn yr adroddiad.

Yn ei adborth i’r disgyblion yn yr adroddiad, noddodd Mrs Eurwen Hulmston eu bod y disgyblion yn groesawgar ac yn agored iawn yn eu trafodaethau; bod ymddygiad yr holl ddisgyblion yn “ragorol – cwrtais, hapus a croesawgar.’ Nododd hefyd fod yr awyrgylch hapus a dawel yn yr ysgol yn deillio o’r ffaith fod disgyblion yn teimlo yn hapus a diogel yn yr ysgol. Mi aeth ymlaen i nodi: “Mae cyfranogiad disgyblion o fewn yr ysgol yn arbennig o uchel a braf yw gweld pobl ifanc sydd mor barod i rannu eu hamser, eu sgiliau a’u haeddfedrwydd gyda disgyblion eraill i’w cynorthwyo i fyw bywydau mwy iach a mwy diogel. Mae gwaith y Bydis Addysg Rhyw, y Llys Genhadon Chwaraeon, y cyngor ysgol, y BOB’s a thimau’r 6ed yn arbennig o dda. Da iawn chi i gyd.” Mae staff a disgyblion yn falch iawn fod yr holl waith caled, cyfraniadau ac ymddygiad y disgyblion wedi cael ei gydnabod yn yr adroddiad canmoliadwy iawn. Diolchwn hefyd am waith y Cydlynydd Addysg Iechyd yr ysgol, Mrs Ann Davies ynghyd a swyddog cefnogi Conwy, Mrs Wendy Ostler a Pennaeth Cynorthwyol, Miss Llio Japheth am eu holl waith yn paratoi ar gyfer ac yn cydlynnu gwaith yr ysgol yn y maes. Diolchwn yn fawr iawn hefyd i’r staff, disgyblion a partneriaid allweddol a gymerodd ran yn yr ymweliad.

Byddwn yn derbyn y wobr yn ystod seremoni ar y 14eg o Orffennaf a gynhelir gan Awdurdod Addysg Conwy. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.