Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoedd

gwerthoedd ysgol dyffryn conwy

 

Our vision as defined in the school motto – ‘Together we can reach our potential’

Mae'r staff a'r llywodraethwyr wedi ymrwymo i addysgu, cymell a dathlu cyflawniadau pob disgybl trwy ddarparu addysg o'r safon uchaf mewn amgylchedd cwbl gynhwysol, gofalgar ac anogol ac ysgogol. Byddwn fel Ysgol yn sicrhau fod:

• Pawb yn cael eu gwerthfawrogi o fewn cymuned deuluol a hapus.

• Ysbrydoli dysgwyr i lwyddo, ffynnu a thyfu.

• Rhoi cyfle i bawb flasu llwyddiant a chyflawni eu potensial.

• Ysbrydoli pawb i fod yn falch o’u hunaniaeth drwy’r iaith Gymraeg, Cymreictod a dwyieithrwydd.

 

Fel yr amlinellwyd yng Nghenhadaeth Genedlaethol Cymru, ein cenhadaeth yw datblygu unigolion i gyfrannu a chymryd eu lle mewn cymdeithas sy'n newid yn barhaus a dod yn:

• dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes

• cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith

• dinasyddion moesegola gwybodus o Gymru a'r byd

• unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas.