Cwricwlwm
- Polisi Cwricwlwm
Mae gan holl ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy hawl i gael cwricwlwm eang a chytbwys sy’n: “Hyrwyddo eu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol ac yn eu paratoi ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd oedolion.”
(Adran 351, Deddf Addysg 1996)
Cwricwlwm CA3:
Fel ysgol rydym yn falch iawn o’n hymwneud dros y tair blynedd diwethaf a’r cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru. Fel ysgol, rydym wedi bod yn cyfrannu at ddylunio maes sydd yn bwysig iawn i’n calon fel ysgol ddwyieithog sef, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Fel Pennaeth rwyf wedi bod yn hynod o falch o gynrychioli disgyblion a’n cymunedau lleol ar fforymau arwain y cwricwlwm gan sicrhau ffocws uchel ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac anghenion ardaloedd gwledig. Gallwch ddilyn ein siwrne ar y BLOG ‘Cwricwlwm i Gymru’.
Rydym yn cydweithio yn agos â’n hysgolion cynradd i gynllunio profiadau pontio a phrofiadau dysgu tuag at gwricwlwm 2022 er mwyn sicrhau bod disgyblion yn pontio yn llwyddiannus o’n 13 ysgol gynradd dalgylch. Wrth symud tuag at y cwricwlwm newydd rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau naturiol rhwng pynciau er mwyn pontio o’n pynciau cyfredol i’r 6 maes dysgu a phrofiad newydd.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig y pynciau canlynol yn CA3:
Pynciau Craidd: Cymraeg (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith yn dibynnu ar ddilyniant ieithyddol disgyblion or cynradd), Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Pynciau All-graidd: Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol, Ffrangeg, Celf, Dylunio a Thechnoleg, Cerdd, Addysg Gorfforol, a Thechnoleg Gwybodaeth.
I’r dyfodol bydd y pynciau yn cael eu cyfuno mewn 6 Maes Dysgu a Phrofiad Newydd:
• Iechyd a Lles
• Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
• Mathemateg a Rhifedd
• Gwyddoniaeth a Thechnoleg
• Dyniaethau
• Celfyddydau Mynegiannol
Bydd y cwricwlwm hefyd yn ffocysu ar ddatblygu dinasyddion sydd yn gwireddu'r 4 Diben canlynol i ddatblygu:
• Dysgwyr uchelgeisiol galluog ...
• Cyfranwyr mentrus a chreadigol ...
• Unigolion iach a hyderus ...
• Dinasyddion egwyddorol gwybodus ..
Cwricwlwm CA4 a CA5:
Parhawn i gynnig y cyrsiau craidd statudol yn CA4 ynghyd a chyflwyno y Fagloriaeth Gymraeg, a cynnig hyd at 3 pwnc dewis. Yn CA4, ategir yr arlwy yn CA3 drwy gyrsiau newydd megis Busnes, Cymdeithaseg, Bwyd a Maeth, a Gofal Plant ynghyd a cyrsiau coleg mewn partneriaeth â rhwydwaith 14-16 Conwy a Coleg Glynllifon ar gyfer TGAU.
Ar gyfer cyrsiau Lefel A, cynnigir cyrsiau mewn partneriaeth drwy LINC Conwy hefyd.
Am fanylion pellach am ein cwricwlwm yn CA4 (TGAU) a CA5 (Lefel A) gweler ein llawlyfrynnau ar y safwe.
- Canllaw i Rieni am y cwricwlwm a threfniadau asesu 11-14 - cliciwch yma (Saesneg yn unig)
Datganiad o fwriad Cwricwlwm
Canllaw i’r Cwricwlwm newydd i Gymru
Canllaw i’r Cwricwlwm newydd i Gymru i bobl ifanc
Cwricwlwm i Gymru
Mae cwricwlwm newydd yn dod i bob ysgol yng Nghymru yn 2022. Dysgwch fwy am y cwricwlwm ar y dudalen hon.
Cwricwlwm Newydd
Mae cwriclwm newydd i Gymru yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a fydd yn statudol o Fedi 2022. Mae Ysgol Dyffryn Conwy ar flaen y gad o ran datblygiadau y cwricwlwm gyda’r gwaith rydyn ni’n gwneud gyda’r clwstwr.
Mae Llywodraeth Cymru yn datgan:
"Bydd y cwricwlwm newydd yn pwysleisio ar roi i bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd. Bydd yn datblygu eu gallu i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio’u gwybodaeth bynciol yn fwy ef-feithiol ac mewn ffordd fwy creadigol. Wrth i’r byd newid o’u cwmpas, byddan yn gallu addasu, a hynny mewn ffordd gadarnhaol.Hefyd, cânt ddealltwriaeth ddofn o sut i lwyddo mewn byd sy’n fwyfwy digidol. Mae fframwaith cymhwysedd digidol newydd bellach yn cyflwyno sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm, gan baratoi pobl ifanc ar gyfer y cyfleoedd a’r risgiau sydd ynghlwm wrth y byd ar-lein.
Hefyd, caiff athrawon fwy o ryddid i ddysgu yn y ffyrdd a fydd, yn eu barn hwy, yn sicrhau’r deilliannau gorau i’w dysgwyr.Prif ffocws y trefniadau asesu fydd sicrhau bod dysgwyr yn deall sut maen nhw’n perfformio a beth mae angen iddyn nhw ei wneud nesaf. Bydd pwyslais o’r newydd ar asesu ar gyfer dysgu fel rhan hanfodol a chraidd o ddysgu ac addysgu."
Mae gan y cwricwlwm newydd 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
- Celfyddydau mynegiannol
- Iechyd a lles
- Dyniaethau (gan gynnwys addysg grefyddol)
- Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- Mathemateg a rhifedd
- Gwyddoniaeth a thechnoleg
Fe fydd sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn cael eu haddysgu ar draws bob maes dysgu a phrofiad.
Diben y cwricwlwm newydd yw i gynorthwyo’r plant i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog.
- Cyfranwyr mentrus, creadigol.
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus.
- Unigolion iach, hyderus.
Prosbectws Y Chweched dosbarth 2023 - 2025
Cymraeg
Hyrwyddo’r Gymraeg
2
Saesneg
Mathemateg
Ffiseg
Cemeg
Bioleg
Cerddoriaeth
Drama
Celf a Dylunio
Dylunio a Thechnoleg
Busnes BTEC
Chwaraeon BTEC
Cymdeithaseg
Seicoleg
Hanes
Daearyddiaeth
Astudiaethau Crefyddol
FfranGeg
Tystysgrif Her Sgiliau
Cam wrth Gam
Llwybrau Dysgu 14-16 Llawlyfr Dewisiadau 2023-2025
Cymraeg
Cymraeg Ail Iaith
Saesneg
Gwyddoniaeth Dwyradd
Mathemateg
Hanes
Bwyd a Maeth
.
Drama
Dylunio a Thechnoleg
Cymdeithaseg
Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant TGAU
Addysg Gorfforol
Busnes
Daearyddiaeth
Ffrangeg
Tystysgrif Her Sgiliau
Technoleg Ddigidol
Cerddoriaeth
Celf a Dylunio
Trin Gwallt a Harddwch
Adeiladwaith
Gofal Anifeiliad Bach
Amaethyddiaeth
Bagloriaeth Cymru
TGAU
Galwedigaethol