Ysgolion Cynradd Dalgylch Ysgol Dyffryn Conwy

Clwstwr ysgolion Dyffryn Conwy yw Ysgol Dyffryn Conwy (ysgol uwchradd 11-18) ac 12 o'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am bob Ysgol.

Llanefydd

@YsgolLlannefydd

Betws y Coed

@ysgolbetwsycoed

Bro Cernyw

@BroCernyw

Bro Gwydir

@YsgolBroGwydir

Capel Garmon

@ysgolcapelgarmn

Cerrigydrudion

@Ysgolcerrig

Dyffryn yr Enfys

@ysgoldyffrynyr1

Eglwysbach

@YsgolEglwysBach

Glan Conwy

@YsgolGlanConwy

Llanddoged

@YLlanddoged

Penmachno

@YsgolPenmachno

Pentrefoelas

@pentrefoelas

Ysbyty Ifan

@IfanYsgol

Bro Aled

@Ysgolbroaled18

Llanfair Talhaiarn

@YsgolTalhaiarn

Gweledigaeth Clwstwr Dyffryn Conwy

 

Ein nod fel clwstwr ydi sicrhau bod pob dysgwr yn :

  • barchus ac yn mwynhau perthyn i deulu a chymuned hapus,
  • cael cyfle i lwyddo,
  • dathlu amrywiaeth,
  • derbyn profiadau cyfoethog ac eang,
  • cael eu hysbrydoli i fod yn chwilfrydig a chreadigol,

Yng nghlwstwr Dyffryn Conwy mae’r cefndiroedd ieithyddol yn eang:

  • bydd pob ysgol yn anelu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i fod yn unigolion dwyieithog sydd yn falch o’r Gymraeg, Cymreictod a’u bro.

Gwnawn hyn oll er mwyn datblygu unigolion annibynnol iach a hyderus.

 

Hapus, Amrywiaeth, Teulu, Lles, Cymreictod, Cymraeg, Parch, Mwynhad, Bro, Lleol, Iach, Cymuned, Cenedlaethol. Dwyieithrwydd


Ysgol Dyffryn Conwy: Paratoi at Cwricwlwm i Gymru 2022

Yn ddiweddar bu tîm o Llywodraeth Cymru yn ffilmio disgyblion, staff, llywodraethwyr a Penaeth o’n Dalgylch cynradd i ganfod ein barn am y daith tuag at Cwricwlwm i Gymru. Gallwch ddysgu mwy a gwrando ar a gweld drwy’r ddolen canlynol i BLOG Cwricwlwm i Gymru - cliciwch yma

Ysgolion Cynradd Dalgylch Dyffryn Conwy:

Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch ddaearyddol eang a gwledig yn Nyffryn Conwy. Daw ein disgyblion o 14 ysgol cynradd lleol. Dyma'r ysgolion cynradd sydd yn rhan o'n partneriaeth:

  1. Ysgol Bro Gwydir
  2. Ysgol Llanddoged
  3. Ysgol Capel Garmon
  4. Ysgol Ysbyty Ifan
  5. Ysgol Betws-y-Coed
  6. Ysgol Dolwyddelan
  7. Ysgol Penmachno
  8. Ysgol Pentrefoelas
  9. Ysgol Cerrigydrudion
  10. Ysgol Bro Cernyw
  11. Ysgol Eglwysbach
  12. Ysgol Glan Conwy
  13. Ysgol Dyffryn yr Enfys

 

Cynllun Trosglwyddo CA2-3 Dalgylch Ysgol Dyffryn Conwy 2023 - 2024

 

Eleni rydym wedi chychwyn prosiectau diddorol gyda'n ysgolion cynradd fel rhan o ymateb gyda'n gilydd i Cwricwlwm i Gymru. Isod mae gwybodaeth am 2 o'n prosiectau cyfredol:

Ysgolion Dalgylch Dyffryn Conwy yn cychwyn ar gynllun ‘Meddwl’ mewn iaith: ‘Let’s Think in English’:
Fel rhan o’n gwaith ar gyfer y Maes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar gyfer ‘Cwricwlwm i Gymru’ rydym wedi cychwyn prosiect cyffroes ar y cyd â Choleg Prifysgol King’s yn Llundain. Bwriad y prosiect ydy datblygu sgiliau meddwl arfarnol disgyblion drwy lafaredd a llenyddiaeth. Mae ymateb ein disgyblion i’r prosiect wedi bod yn arbennig. Efallai eich bod wedi clywed rhai ohonynt a staff yr ysgol yn son am y prosiect ar Radio Cymru. Bellach rydym wedi cychwyn ar ail gam y prosiect gan gydweithio mewn partneriaeth â’n hysgolion cynradd i ddatblygu cynllun ‘Let’s Think’ efo blwyddyn 5 a 6 hefyd. Rydym yn falch iawn o fod yr ysgol a bellach y dalgylch gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu'r prosiect. Ein nod fydd pontio'r strategaethau dysgu ac addysgu i wersi Cymraeg ac Ieithoedd Tramor Fodern ac wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd a meddwl disgyblion ar draws y cwricwlwm.


Prosiect Ieithoedd Dyfodol Byd Eang:
Mae’r ysgol yn cydweithio efo’n Hysgolion Dalgylch a GWE i ddatblygu prosiect Ieithoedd yn y Cynradd fel rhan o Strategaeth Ddyfodol Byd Eang Cenedlaethol. Dyma oedd gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet ar Addysg i’w ddweud am y prosiect:
“Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn gweithio ar y cyd â’i ysgolion cynradd dalgylch ar brosiect cytûn. Bwriad y prosiect ydy datblygu cynllun iaith gytunedig (cynradd-uwchradd) fel paratoad ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu'r cwricwlwm newydd. Nod y cynllun ydy i gynllunio profiadau dysgu ar gyfer blwyddyn 5 a 6 fydd yn cefnogi dysgu ieithoedd (sylw penodol ar hunaniaeth, datblygu iaith i gyfathrebu a sgiliau trawsieithu a gwybodaeth am ramadeg).”

Global Futures (Saesneg yn unig)

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd DdaAm fwy o wybodaeth - cliciwch yma

Ymweliad Gweinidog Addysg i Ysgol Dyffryn Conwy

Ar ddydd Iau y 7fed o Fawrth ymwelodd Kirsty Williams â Ysgol Dyffryn Conwy i gyfarfod Penaethiaid Clwstwr a Rheolwyr Busnes y clwstwr sydd yn cael eu ariannu gan y Cynllun Ysgolion Bach a Gweledig. Yn ystod ei hymweliad cafodd y Gweinidog gyfle i ddysgu am y cydweithio ysgol-i-ysgol sydd yn digwydd drwy a/neu yn gysylltiedig â’r grant allweddol hon ac yn cefnogi Cwricwlwm i Gymru. Cafodd gyfle i gyfarfod Meinir Jones, Karen Lloyd Owen a Nia Jones-Artell fel Penaethiaid o’r Clwstwr, a hefyd Rheolwr Busnes Ysgol Dyffryn Conwy, Mrs Delyth Williams a’r Rheolwyr Business Clwstwr, Tracey Owens, Einir Jones a Sian Owen.

Roeddym yn falch o drafod effaith y grant wrth gefnogi penaethiaid a llywodraethwyr gyda’r elfennau rheolaeth busnes o ysgol, yn enwedig mewn amser o gyfyngiadau a toriadau cyllidol. Mae’r cynllun wedi gweld sawl mantais gan gynnwys pwrcasu ar y cyd, ailymweld a Cytundebau Lefel Gwasanaeth er mwyn sicrhau gwerth am arian, a manteisio o galluogi Penaethiaid sydd yn dysgu i fod yn canolbwyntio mwy ar dysgu ac addysgu. Mantais ychwanegol bu gallu cydweithio ysgol i ysgol yn fwy strategol sydd yn allweddol wrth gydweithio ar flaenoriaethau cenedlaethol megis Cwricwlwm i Gymru a’r agenda Trawsnewid ADY. Rydym wrth ein bodd bod cyllid yn parhau am ddwy flynedd bellach ar gyfer y prosiect.

Yn ystod yr ymweliad cafodd Kirsty Williams hefyd gyfle i gyfarfod ein Prif Ddisgyblion, Jake ac Efa, ac Evan Burgess, Cynrychiolydd Aberconwy ar y Senedd Ieuenctid. Bu’r disgyblion yn trafod eu pynciau dewis a dyheuadau ar gyfer y dyfodol. Cafodd Evan hefyd gyfle i holi y Gweinidog am faterion llosg megis cyllidebau ysgol.


disgyblion disgyblion disgyblion

Prosiect Rheolwyr Busnes Dalgylch Dyffryn Conwy:

Fel rhan o gynllun peilot dwy flynedd a ariennir gan grant 'Ysgolion Bach a Gweledig' Llywodraeth Cymru, mae ysgolion Cynradd Dalgylch Dyffryn Conwy ynghyd ag ysgolion partner wedi bod yn ffodus i allu penodi tair Rheolwr Busnes ar gyfer y clwstwr. Rheolir y Rheolwyr Busnes drwy partneriaeth a Rheolwr Busnes Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy a'r rhwydwaith o Benaethiaid Cynradd. Mae'r cynllun eisoes wedi profi yn llwyddiannus gan ryddhau Penaethiaid y clwstwri i roi sylw pennaf i dysgu ac addysgu. Mae'r tim yn arbennigo mewn agweddau gwahanol o reolaeth busnes ysgol gan gynnwys cyllid, iechyd a diogelwch ac elfennau o reolaeth personel. Arfernir y cynllun yn dymhorol. Mae'r cynllun presenol yn weithredol hyd Ebrill 2019.