Gwybodaeth Gyffredinol

Croeso – Gair gan y Pennaeth


Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol gyfun gymunedol gydag oddeutu 630 o ddisgyblion o 11 - 18 oed ac mae hyn yn cynnwys oddeutu tua 110 o ddisgyblion 6ed dosbarth. Yr ydym yn cychwyn ar bennod cyffrous wrth symud yn naturiol i gategori 3 sef Ysgol cyfrwng Cymraeg. Credwn fod darparu profiadau ac addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd i ddisgyblion yn eu paratoi i fod yn ddinasyddion dwy ieithog medrus ar gyfer ein cymuned ein hunain a thu hwnt. Mae’r ysgol yn un sy’n gwasanaethu anghenion ieithyddol a diwylliannol gwahanol ddisgyblion y dalgylch boed yn drefol neu o ardaloedd cefn gwlad, gan roi gogwydd Cymreig a Chymraeg i’n disgyblion a datblygu eu sgiliau a phrofiadau yn y ddwy iaith.

Lleolir yr ysgol ar safle braf iawn yn Nyffryn Conwy, safle sydd yn cyfoethogi'r dysgu. Gwasanaethir yr ysgol ddisgyblion tref Llanrwst a’r holl ddyffryn. Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth glos sydd gennym â’n 13 ysgol gynradd dalgylch sydd yn sicrhau trosglwyddo hapus i’n disgyblion i ysgol glos a chartrefol. Cynigwn i bob disgybl, beth bynnag eu gallu a chefndir, ymdeimlad o werth a hunan hyder. Ein nod yw bod yn ysgol gartrefol, gymunedol a chynhwysol lle gallwn weithio gyda phob disgybl i’w cynorthwyo i gyrraedd eu potensial.

Credwn mewn llwyddiant i bawb, gan geisio rhoi pob cymorth i’n disgyblion lwyddo o fewn y cwricwlwm a drwy ystod o weithgareddau allgyrsiol amrywiol. Anelwn at ddarparu’r addysg orau posib i ddatblygu dysgwyr hyderus dwyieithog a dysgwyr annibynnol gyda’r sgiliau angenrheidiol i’r dyfodol. Er mwyn sicrhau hyn, cynigwn gwricwlwm addas, eang a heriol i bob disgybl. Rydym yn hynod falch o lwyddiannau ein disgyblion yn academaidd, ym maes chwaraeon, yn y celfyddydau ac ym myd gwaith ac astudiaeth bellach wedi gadael yr ysgol. Hyderwn ein bod yn darparu'r profiadau dysgu a chyfoethogi dysgu y gallent ymfalchïo ynddynt.

Petai gennych unrhyw ymholiad pellach, neu os ydych yn dymuno ymweld â’r ysgol, peidiwch ag oedi rhag cysylltu yn uniongyrchol.


Mr Owain Gethin Davies



Polisi Presenoldeb (Disgyblion)
Addysg Conwy - Presenoldeb yn yr Ysgol Beth os fydd fy mhlentyn yn absennol, yn cyrraedd yn hwyr neu’n sâl yn ystod y diwrnod? - click here

Dogfen PDF - Cliciwch Yma

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Efallai y nodwyd eisoes bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Efallai ei fod yn cael cymorth ychwanegol yn yr ysgol, i'w helpu gyda’i ddysgu, neu efallai fod ganddo ddatganiad o angen addysgol arbennig.

Mae'r dull o gefnogi plant sy'n cael anawsterau gyda dysgu yn newid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio deddfwriaeth newydd, o'r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru), a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a fydd yn disodli'r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau ynghylch anghenion addysgol arbennig.

Fel rhan o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (ADYTA) 2018 mae Llywodraeth Cymru wedi disodli'r term 'anghenion addysgol arbennig' (AAA) ag 'anghenion dysgu ychwanegol' (ADY). Fodd bynnag, mae'r diffiniad o ADY yn wahanol ac efallai y gwelwch fod gan eich plentyn AAA ar hyn o bryd ond na fydd ganddo ADY. Fodd bynnag, ni ddylai hyn effeithio ar y gefnogaeth a'r cymorth a gaiff yn yr ysgol i gael mynediad at ddysgu.

Bydd ADY yn cwmpasu'r rhai sydd:
• Ag anhawster sylweddol fwy o ran dysgu na mwyafrif y plant eraill o'r un oedran
• Ag anabledd sy'n eu hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio’r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgol prif ffrwd a gynhelir neu Sefydliad Addysg Bellach.

Mae'r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd glir ar awdurdodau lleol i'ch cefnogi fel rhiant/gofalwyr a'ch plentyn i gyfrannu at gynllunio ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw pobl ifanc

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i rieni a theuluoedd

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): hawliau rhieni

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): system newydd i blant, pobl ifanc a rhieni

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): Gwasanaeth

Gallwch ddarllen yr Adroddiad Arolwg Diweddaraf – Ionawr 2019 a’i lawrlwytho drwy’r ddolen isod:

Safwe Estyn

Nid oes cysylltiad rhwng yr ysgol ag unrhyw enwad crefyddol penodol. Darperir Addysg Grefyddol yn unol â maes llafur cytûn Conwy. Os ydych fel rhieni yn gwrthwynebu’n gydwybodol i’ch plentyn dderbyn gwersi neu fynychu gwasanaethau crefyddol, gellir gwneud trefniadau addas eraill.

Mae'r polisi hwn yn manylu ar ymagwedd ysgol gyfan Ysgol Dyffryn Conwy at Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh). Yn Ysgol Dyffryn Conwy credwn fod ACRh o safon uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol ein disgyblion.

ACRh yw dysgu am agweddau emosiynol, cymdeithasol a chorfforol o dyfu i fyny, perthnasoedd, rhyw, rhywioldeb dynol ac iechyd rhywiol. Mae dysgu ar gyfer ACRh yn cyfeirio at yr hyn sy'n cael ei addysgu'n benodol a'r hyn sydd wedi'i ymgorffori ar draws y cwricwlwm drwy ein hymagwedd ysgol gyfan.

Mae ein rhaglen ACRh:

  • yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd cadarnhaol i’n disgyblion i gael perthnasoedd iach a diogel, i fwynhau eu rhywioldeb ac i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles rhywiol.
  • yn briodol o ran datblygiad, yn berthnasol ac yn ymgysylltu yn glir â llwybrau dilyniant ar gyfer dysgu a phrofiad.
  • sydd â statws cyfartal â meysydd eraill yn ein cwricwlwm.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Côd a chanllawiau ACRh

Pecyn cymorth i gynorthwyo ysgolion, rhieni, gofalwyr a chymunedau ehangach i ddeall budd ACRh

Safle Ysgol Dyffryn Conwy:

Mae'r ysgol wedi ei leoli ar safle arbennig ar cyrion tref Llanrwst. Ers 12 mlynedd bellach, mae'r ysgol wedi ei leoli ar un safle. Cynhelir y safle at ansawdd uchel gan cynllun PFI rhwng Awdurdod Lleol Conwy a chwmniau preifat. Y cwmni sydd hefyd yn cynnal gwasanaethau cynnal a chadw ac arlwyo yr ysgol.

Ar y safle lleolir canolfan hamdden pwrpasol sydd ar gael er ddefnydd yr ysgol yn ystod oriau ysgol a hyd 4.15 y.h. yn ystod y tymor ysgol. Mae cae chwarae ac ardaloedd pwrpasol eraill ar y safle er mwyn ysgogi defnydd o'r tu allan gan ein disgyblion. Ategir hynny drwy ystod o weithgareddau amrywiol amser cinio ac ar ol ysgol drwy partneriaethau gwahanol a disgyblion hyn yr ysgol sydd yn cynnal sesiynau i ddisgyblion iau.

Rydym hefyd yn ffodus yn ein offer a'n ystafelloedd pwrpasol ar gyfer pynciau ymarferol megis Cerdd, Celf, Drama, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Adnoddau Digidol:

  • Mae bwrdd gwyn rhyngweithiol wedi'i leoli ym mhob ystafell ddosbarth.
  • Mae gennym 5 ystafell TGCh bwrpasol yn ogystal â throlïau / cypyrddau gyda Chromebooks ar gael ar gyfer pob maes dysgu. Yn ogystal, mae cyfuniad o Chromebooks a chyfrifiaduron ar gael yn Ystafell Astudio'r 6ed dosbarth.
  • Mae platfform dysgu rhithwir (Google/HWB) ar gael i ddisgyblion gael mynediad at eu gwaith a'u hadnoddau dysgu o unrhyw le yn ystod y diwrnod ysgol ac i gefnogi hunanastudio ac astudio gartref.

E-ddiogelwch:

  • Mae’r holl ddisgyblion yn defnyddio cyfleusterau cyfrifiadurol gan gynnwys y rhyngrwyd fel rhan hanfodol o ddysgu yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Gofynnir i’r disgyblion a’r rhieni arwyddo i ddangos eu bod yn deall ac yn derbyn y rheolau e-ddiogelwch.
  • Bydd yr ysgol a ‘conwy net’ yn cymryd pob rhagofal posib (meddalwedd hidlo) i sicrhau nad yw’r disgyblion yn cael mynediad at ddeunydd anaddas, ond mae hyn yn dasg anodd gan fod posib i wefannau newydd a safleoedd proxy osgoi’r rhagofalon hyn.

Defnyddio ffotograffiaeth a delweddau digidol o blant:

  • Mae’r Ddeddf Amddiffyn Data 1998 yn dylanwadu ar ein defnydd o ffotograffiaeth. Ystyria’r ddeddf ddelwedd o blentyn yn ddata personol ac mae rhaid cael caniatâd rhiant unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd o dan ddeunaw oed cyn defnyddio unrhyw ffotograffau neu recordiadau fideo i ddiben sydd tu hwnt i bwrpas addysgol (e.e. gwefannau a chynyrchiadau ysgol). Mae’n bwysig hefyd gofyn am farn y plant.
  • Mae’n debygol y bydd sawl achlysur yn codi yn ystod cyfnod plentyn yn yr ysgol pan fydd yr ysgol yn dymuno tynnu llun neu wneud fideo ohonynt.

    Gofynnwn am ganiatâd pan mae’r disgybl yn dechrau yn yr ysgol a bydd y caniatâd hwnnw yn parhau nes mae’r plentyn yn gadael yr ysgol. Gall riant/gwarcheidwad dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, ond gofynnir iddynt i wneud hynny yn ysgrifenedig.

Polisi E-ddiogelwch

Polisi Gwrth Fwlio

Datganiad o Fwriad
Mae’n bolisi gan Ysgol Dyffryn Conwy i feithrin gweithdrefnau er budd iechyd, diogelwch a lles pob person o fewn y gweithle. Bydd yr Ysgol yn cyrraedd y nod drwy weithio mewn partneriaeth gydag Adran Iechyd a Diogelwch Corfforaethol Conwy, Adran Addysg Conwy, Education Enterprise, Sodexo, Llywodraethwyr, Staff, Rhieni a Disgyblion i ddarparu cymorth, cyngor, arweiniad a gorfodaeth statudol briodol ac effeithiol, sy’n ymwneud a materion iechyd, diogelwch a lles.

Mae’r ysgol yn dathlu talentau ein disgyblion fel y gwelwch o’n cylchgrawn blynyddol, Y Bont. Fel aelod o NACE Cymru*, mae cefnogi a datblygu talentau a gallu ein disgyblion yn allweddol bwysig i ni. Bydd yr ysgol yn gwneud popeth bosibl i roi’r cyfle i’n disgyblion feithrin a datblygu eu talentau - boed y rheini yn y maes academaidd neu mewn maes arall megis y celfyddydau neu chwaraeon. Os ydych am drafod hyn ymhellach yna mae croeso i chi gysylltu á’r ysgol.

www.nace.co.uk

Yn unol â chylchlythyr Llywodraeth y Cynulliad 03/2004 mae Ysgol Dyffryn Conwy wedi sefydlu trefn i ystyried cwynion cyffredinol. Yn unol â gofynion y cylchlythyr ystyrir pob cwyn o ddifrif ac yn ddiduedd. Gwneir pob ymdrech i ymateb yn brydlon ac o fewn amser penodol.

Dylech gyfeirio cwyn i sylw’r pennaeth yn y lle cyntaf.

Polisi a Gweithdrefnau Cwyno - cliciwch yma