Cymdeithas Rhieni Ysgol Dyffryn Conwy
Eleni rydym wedi cychwyn Cymdeithas Rhieni Ysgol Dyffryn Conwy o’r newydd. Mae cefnogaeth a phartneriaeth ein rhieni yn allweddol bwysig i ni wrth weithio at y nod o sicrhau bod ein disgyblion yn cyrraedd eu potensial. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o’n Cymdeithas Rhieni neu syniadau am sut allwn ddatblygu ymhellach ein partneriaeth gyda’n rhieni a gwarcheidwad yr ysgol cysylltwch â ni.
Mae Blaenoriaethau y Gymdeithas Rhieni eleni yn cynnwys:
- Cynnal Ffair Nadolig/Haf i gefnogi gweithgareddau'r ysgol;
- Cyfranogi fel rhanddeiliaid allweddol yn y cynllun ymgynghoriad ar wisg ysgol newydd ar gyfer 2018/19;
- Ymgynghori ar ddatblygiadau eraill yr ysgol.
Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd canlynol ar gyfer ein rhieni:
- Calendr Cyfarfodydd Rhieni Blynyddol - cliciwch yma
Rydym yn annog y cyfarfodydd ffurfiol hyn fel dull o gadw mewn cysylltiad â’n rhieni.
Yn ychwanegol rydym yn cynnal y cyfarfodydd canlynol ar gyfer rhieni/gwarcheidwad newydd:
- Noson Agored Blwyddyn 5 a 6 – Hydref
- Noson Agored 6ed Dosbarth – Diwedd Tachwedd
Cewch wybodaeth bellach drwy gysylltu â’r ysgol ac ar ein cyfrif Trydar a’r adran newyddion ar y safwe.