Cyngor Eco
Llwyddiant y Cyngor Eco – Baner Werdd Eco Ysgolion, achrediad newydd 2020:
Rydym yn hynod o falch fel cyngor eco a chyngor ysgol ein bod wedi llwyddo i ddal gafael ar y Faner Werdd Eco Ysgolion! Mae criw o ddisgyblion gweithgar dros ben wedi bod yn ymdrechu'n galed i sicrhau bod safonau amgylcheddol yr ysgol yn ddigon uchel i fodloni'r gofynion ar gyfer hawlio'r Faner Werdd. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol er mwyn cynllunio a thrafod syniadau i wneud ein hysgol a'n cymuned mor eco-gyfeillgar a phosib. Rhai o'n llwyddiannau diweddar yw sicrhau bod biniau a system ailgylchu mwy effeithiol i'w chael ar y safle; casglu ysbwriel ar safle'r ysgol ac ar Ffordd Nebo; cynnal diwrnod di-wisg er mwyn codi arian a hefyd parhau i drafod ein prosiect fawr eleni sef cynllunio a datblygu gardd ysgol. Y gobaith yw gallu datblygu ardal dawel ac ymlaciol i ddisgyblion dreulio amser yno yn ogystal a'n galluogi i wneud gwaith cadwraeth a thyfu llysiau. Rydym yn hynod o gyffrous am yr hyn sydd i ddod ac yn falch dros ben bod y gwaith caled wedi cael ei gydnabod drwy Faner Werdd Eco Ysgolion.
Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma