Cymraeg - English
Newyddion
Llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym maes Celf, Dylunio a chyfansoddi Cerddoriaeth. Llongyfarchiadau i Cadi Gwyn Edwards , Aisha Griffiths a Branwen Tudur Morus . Cliciwch yma am fwy o fanylion ... Ysgol Dyffryn Conwy yn Disgleirio yng mhencampwriaeth Athletau Eryri - mwy Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 11 lletygarwch TGAU - mwy Jordan Davies, Capten Sboncen Cymru, ac un o chwaraewyr gorau Ewrop - mwy Llongyfarchiadau i Abigail Backshal - mwy Llongyfarchiadau i Emily Watson ar ei dyrchafiad i safle rhif 1 merched dan 16 tenis Cymru, ac yn yr ail safle dan 18! Abi Backshall yn Bencampwraig Cymru mewn athletau dan 17 300 medr a’r 800 medr ac yn ennill medal Efydd ym mhencampwriaeth Lloegr - mwy
Croeso i Ysgol Dyffryn Conwy
www.ysgoldyffrynconwy.org
Croeso i wefan newydd Ysgol Dyffryn Conwy
Rydym wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar eich cyfer ar dudalennau’r wefan, ac edrychwn ymlaen at rannu’r newyddion am yr ysgol a'r disgyblion, ynghyd â'r gymuned, gyda chi. Yma yn Ysgol Dyffryn Conwy yn ogystal â cheisio fod disgyblion yn cyrraedd eu potensial yn academaidd, rydym hefyd yn ymfalchïo yn y profiadau y mae’r disgyblion yn eu derbyn. Cliciwch ar y linc ‘disgyblion’ ac ‘Urdd’ i weld ein llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2011. Ein bwriad fydd rhannu'r profiadau a’r llwyddiannau yma gyda chi drwy gyfrwng y wefan newydd yma.
Lleolir yr ysgol mewn safle bendigedig ac ers uno’r ysgol ar un safle yn 2005 mae gennym adnoddau newydd gyda’r dechnoleg ddiweddaraf. Beth am gymryd y daith weledol drwy glicio ar y linc 'ysgol'.
Mwynhewch y wefan ac edrychwn ymlaen at gynyddu’r cynnwys yn yr wythnosau nesaf, cysylltwch â ni gyda sylwadau ac awgrymiadau






